Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 8 Mawrth 2012 cyhoeddais grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth ynghylch rhoi organau a meinweoedd.
Heddiw, rwy’n rhyddhau rhestr o’r 1,234 o ymatebwyr fel Atodiad i’r crynodeb hwnnw a hefyd yn cyhoeddi’r ymatebion a ddaeth i law. Rydym wedi cadw’n ddienw yr holl ymatebwyr a ofynnodd am hynny ac yn cadw un ymateb yn ôl ar gais yr ymatebydd.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi’r ymchwil ansoddol a gynhaliwyd gan Beaufort Research Ltd i gefnogi’r ymgynghoriad. Cynhaliodd yr ymchwilwyr chwe grŵp ffocws ledled Cymru, ac yn ogystal â hynny cynhaliwyd saith cyfweliad manwl er mwyn archwilio’r agweddau tuag at roi organau a chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y ddeddfwriaeth. Gofynnwyd i’r ymchwilwyr sicrhau bod ystod o oedrannau wedi’u cynnwys o fewn y grwpiau ffocws a hefyd pennwyd cwotâu er mwyn sicrhau cyfranogiad gan gymunedau o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig.
Rwy’n falch i nodi’r gefnogaeth fras i roi organau ymysg cyfranogwyr y grwpiau ffocws. Yn gyffredinol, roedd yn haws iddynt gyflwyno achos o blaid y cynnig yn hytrach nag yn erbyn y cynnig. Er ein bod yn nodi mai ymchwil ansoddol gyda sampl bach yw hwn, mae’n gyson â’r hyn a wyddom o arolygon barn ehangach.
Ar yr un pryd mae’r ymchwil yn dangos sut mae angen inni godi ymwybyddiaeth o’r broses rhoi organau yn gyffredinol ac hefyd ein cynigion ar gyfer system optio allan. Mae cyfathrebu da’n hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymgyrch raddol o ymwybyddiaeth gyhoeddus yn ystod y ddwy flynedd rhwng hynt y ddeddfwriaeth yn y Cynulliad a gweithredu’r system optio allan yn llawn. Gan gadw hyn mewn cof, rwy’n bwriadu cyhoeddi Bil Drafft ar gyfer ymgynghori ymhellach ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu ym mis Mehefin 2012.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.