Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mehefin, ymrwymais i roi’r diweddaraf i’r Aelodau diweddaraf ar y trafodaethau rwyf wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch pensiynau diffoddwyr tân. Dyna yw diben y datganiad hwn ac mae'n rhoi'r cyd-destun a'r gwaith datblygu sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf yng ngoleuni'r anghydfod diwydiannol sy'n mynd rhagddo gan Undeb y Brigadau Tân.
Mae pensiynau diffoddwyr tân wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Ar hyn o bryd mae dau gynllun pensiwn ar gael i ddiffoddwyr tân yng Nghymru, sef Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân 2007. Er bod pensiynau wedi'u datganoli, prin bod modd amrywio o bolisi Llywodraeth y DU oherwydd y gallai hyn effeithio ar gyllid Trysorlys Ei Mawrhydi ar gyfer y cynlluniau.
Ers 2007-08, mae'r cyllid pensiwn atodol sy'n cael ei dalu i Awdurdodau Tân ac Achub Cymru wedi cynyddu o £9.5m i £18.5m yn 2013-14 a rhagwelir mai £24m fydd hyn ar gyfer 2014-15. Mae'r cyllid atodol sy'n cael ei ddarparu gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn unioni'r diffygion blynyddol mewn cronfeydd pensiwn, ac mae'n cael ei dalu drwy Wariant a Reolir yn Flynyddol.
Pe byddai cymorth pensiynau Trysorlys Ei Mawrhydi yn cael ei dynnu yn ôl, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru dalu am y diffygion drwy Derfynau Gwariant Adrannol ac ni fyddai unrhyw ddiffyg yn y dyfodol (er enghraifft yn sgil newidiadau penodol i delerau ac amodau Pensiynau Diffoddwyr Tân yng Nghymru sy'n wahanol i Loegr) yn cael cyllid pellach gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae Undeb y Brigadau Tân wedi cael ei friffio'n llawn ac yn deall yr amodau y mae Trysorlys EI Mawrhydi a sgil-effeithiau unrhyw amrywio ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Daw diwygio pensiynau ar raddfa lawn ar draws pob cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru, yn sgil argymhellion yr Arglwydd Hutton i wneud pensiynau'n fwy fforddiadwy a chynaliadwy yn yr hirdymor. Cafodd Deddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 (Deddf 2013) Gydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2013.
Mae Undeb y Brigadau Tân wedi amlinellu droeon ei wrthwynebiad i sawl agwedd ar drefniadau'r cynllun pensiwn arfaethedig newydd ac anfonwyd llythyr anghydfod diwydiannol at holl Weinidogion y DU ym mis Mai 2013. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae hyn wedi arwain at weithredu diwydiannol gan aelodau Undeb y Brigadau Tân bedair ar ddeg o weithiau, yn fwyaf diweddar ar 21 Mehefin 2014.
Drwy gydol yr anghydfod diwydiannol, rwyf wedi cwrdd ac wedi gohebu â Brandon Lewis AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar nifer o achlysuron. Fel rhan o'r ddeialog hon, rwyf wedi annog y Gweinidog yn gyson i barhau â'r trafodaethau gydag Undeb y Brigadau Tân i ddod i gytundeb ar yr anghydfod cyn gynted â phosibl.
Ym mis Medi 2013, gofynnodd y Prif Weinidog i swyddogion geisio safon ffitrwydd cyffredin yng Nghymru, gydag Awdurdodau Tân ac Achub Cymru fel cyflogwyr a chyrff cynrychioliadol yn chwarae eu rhan. Mae cynnydd wedi bod ar gyflwyno un safon ffitrwydd diffoddwyr tân i'r tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru, a disgwylir i'r safon gael ei mabwysiadu'n ffurfiol ym mis Gorffennaf yng nghyd-destun un polisi iechyd a ffitrwydd ategol.
Fel rhan o ddatblygu cynllun newydd 2015 rwyf wedi comisiynu Adran Actiwari'r Llywodraeth i roi cyfrifiadau priodol i ddiffinio'r cynllun newydd yng nghyd-destun Cymru. O dan Ddeddf 2013, mae gofyn i bob cynllun brisio’r cynllun i'w ddilyn, gydag Adran Actiwari'r Llywodraeth yn gwneud y gwaith hwn yn unol â pharamedrau cynllunio Trysorlys Ei Mawrhydi, a byddant yn rhoi cyfradd cyfraniad cyflogwyr a therfyn costau cyflogwyr ar gyfer y cynllun. Hefyd, fel rhan o ddatblygu'r cynllun, mae fy swyddogion wedi ceisio cyngor ar y cyfraddau cyfraniad cyflogeion i'w cynnig ar gyfer Cymru. Bydd ymgynghoriad ar y rhain maes o law fel rhan o broses ymgynghori'r cynllun newydd.
Mae'r ymgynghoriad cyntaf ar y Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 2015 newydd o fis Ebrill 2015 ar agor nawr ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae'n dod i ben ar 4 Gorffennaf. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu pob sylw ar yr ymgynghoriad. Gallwch ymateb drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu drwy'r manylion post yn y ddolen isod.
Bydd ymgynghoriad pellach yn cael ei gyhoeddi maes o law a fydd yn adeiladu ar y cynigion drafft, gan gynnwys canlyniad y prisiadau a threfniadau cyllido'r cynllun newydd. Eto, pan fydd yn briodol, byddaf yn croesawu pob barn i'w bwydo i'r cynllun terfynol ar gyfer Cymru.