Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae newid sylfaenol yn digwydd i’r ffordd rydym yn ariannu, rheoleiddio a goruchwylio addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond o Brifysgol Aberdeen o’r modd yr ariennir addysg uwch a chyllid i fyfyrwyr. Cyflwynir yr adroddiad ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol. Ers hynny rwyf wedi cyhoeddi fy mod wedi gofyn i’r Athro Ellen Hazelkorn i adolygu’r modd y mae addysg ôl orfodol yng Nghymru’n cael ei llywodraethu, ei rheoleiddio a’i goruchwylio. Cyhoeddir yr adroddiad hwnnw yn y Gwanwyn.
Mae lle unigryw wedi’i neilltuo i Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru o fewn byd addysg uwch Cymru. Y Coleg yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru. Mae’r Coleg Cerdd a Drama’n cystadlu ag ystod ryngwladol o conservatoires a cholegau celf arbenigol. Mae prifysgolion eraill yng Nghymru yn cynnig cymysgedd o addysg gelf, cerdd a pherfformiad.
Yng nghyd-destun y newidiadau cyflym sy’n digwydd yn y byd addysg uwch, rhaid sicrhau bod Cymru’n dal i elwa ar gyrsiau perfformio dwys o’r ansawdd uchaf sy’n canolbwyntio ar berfformiadau ymarferol a galwedigaethol. Mae hynny’n hanfodol i foddhau’r angen am sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol a bywyd creadigol yng Nghymru. Rwyf felly wedi gofyn i’m swyddogion lunio cynigion ar gyfer adolygiad annibynnol o gonservatoires ac addysg uwch yn y celfyddydau perfformio cysylltiedig yng Nghymru. Byddaf yn cyhoeddi manylion yr adolygiad, gan gynnwys ei gylch gwaith, cyn pen ychydig wythnosau.