Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae allgáu digidol yn parhau i fod yn fater sylweddol ledled y Deyrnas Unedig.  Mae'r ffaith bod mwy a mwy o wasanaethau yn newid i fod yn wasanaethau digidol ar-lein yn unig yn golygu bod cael rhyw fath o afael ar sgiliau digidol sylfaenol yn hanfodol er mwyn bod yn rhan o'r gymdeithas sydd ohoni.  Gall unrhyw rwystr rhag cysylltu'n ddigidol, cael mynediad at wasanaethau digidol neu gael gafael ar sgiliau digidol olygu bod rhywun dan anfantais yn ariannol, yn gymdeithasol ac o ran eu lles ehangach.

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (CDC), rhaglen gynhwysiant digidol flaenllaw a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd werth £2miliwn y flwyddyn, yn dod i ben ar 30 Medi 2025. Mae'r rhaglen wedi cydweithio â sefydliadau o bob sector sy'n cefnogi pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, gan ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i'w helpu i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol pobl. 

Ers mis Gorffennaf 2019, mae'r rhaglen wedi cysylltu â 2,100 o sefydliadau ledled Cymru, sy'n golygu bod dros 182,000 o bobl yn cael cefnogaeth gyda'r cymhelliant, yr hyder a'r sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn effeithiol ac yn ddiogel. 

Mae'n bwysig bod ein dull o gynhwysiant digidol yn hyblyg er mwyn sicrhau ei fod o fudd i'r rhai sydd fwyaf wedi'u hallgáu'n ddigidol, sy'n aml hefyd y rhai mwyaf difreintiedig ac yn profi rhwystrau sylweddol eraill fel allgáu cymdeithasol ac ariannol.

Mae'r cam nesaf o gymorth ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru wedi cael ei ddatblygu, wedi'i lywio gan ymchwil, gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen ac ymgysylltu â rhanddeiliaid dros yr dymor yr hydref 

Bydd y dull gweithredu yn cynnwys rhaglen genedlaethol newydd o gyngor a chymorth cynhwysiant digidol fydd yn: 

  • Mapio darpariaeth cynhwysiant digidol ledled Cymru
  • Darparu cyngor cynhwysiant digidol drwy gynghorwyr sgiliau rhanbarthol a thematig
  • Creu a diweddaru adnoddau sgiliau cynhwysiant digidol
  • Dod â rhanddeiliaid y sector cyhoeddus a'r sector preifat ynghyd i rannu gwybodaeth ac arfer gorau a darparu arweinyddiaeth strategol – gan adlewyrchu'r ffaith nad yw cynhwysiant digidol yn eiddo i unrhyw un sector neu sefydliad penodol, ond yn berthnasol i bawb. 

Mae'n bwysig bod y cymorth hwn yn cael ei ddarparu ar ran Llywodraeth Cymru gan gorff sydd â'r arbenigedd a'r profiad cywir, a bydd hysbysiad Ymgysylltu Rhagarweiniol â'r Farchnad (PME) yn mynd yn fyw ar 7 Ebrill 2025, i ddechrau ymgysylltu â darpar gyflenwyr mewn ffordd deg a thryloyw a'u galluogi i baratoi ar gyfer y caffael.  Y bwriad yw y bydd y tendr wedyn yn mynd yn fyw ym mis Mehefin 2025 ar lwyfan GwerthwchiGymru, a bydd y sawl sy'n llwyddiannus yn cael gwybod am hynny ym mis Medi 2025 - gyda'r bwriad o ddechrau'r rhaglen newydd ym mis Hydref 2025. 

Mae digwyddiad sy'n dathlu'r gwaith hyd yma ar gynhwysiant digidol yng Nghymru ac yn nodi'r cam nesaf o gefnogaeth yn cael ei gynnal ar 12 Mai 2025 yng Nghaerdydd.