Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw gwasanaethau ariannol yn gweithio i bawb. Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu heithrio o gyllid prif ffrwd oherwydd costau a neu amgylchiadau, ac yn hytrach maent yn troi at opsiynau anfforddiadwy sy'n arwain at ddyled na ellir ei reoli. 

Mae angen atebion creadigol ar frys. Rwyf am weld Cymru sy'n gynhwysol yn ariannol gyda gwasanaethau ariannol hygyrch sy'n diwallu anghenion pobl. 

Mae hyn yn gofyn am newid - system ariannol cydgysylltiedig sy'n cefnogi atgyfeiriadau at gynhyrchion priodol. Rwy'n glir bod yn rhaid i ni wneud pethau'n wahanol os ydym am weld system ariannol decach sy'n gweithio i bawb. 

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ar ddwy flaenoriaeth frys i wella cynhwysiant ariannol yng Nghymru. 

Y cyntaf yw gwella mynediad at gredyd fforddiadwy i aelwydydd incwm isel. 

Mae rhaglen ddogfen ddiweddar Michael Sheen "Secret Million Pound Giveaway" yn taflu goleuni ar y dyledion mawr sydd gan lawer o bobl na ellir eu rheoli, a'r angen am opsiynau credyd mwy fforddiadwy.

Ym mis Mawrth, buddsoddais £1.3 miliwn arall yn y cynllun ehangu benthyciadau a sefydlwyd yn 2022 i hybu benthyca gan undebau credyd. Mae hyn yn helpu pobl ar ymyl y dibyn ariannol y gall ymyriadau fel hyn wyrdroi ei bywydau. Mae'r £2.9 miliwn a fuddsoddwyd hyd yma yn cael effaith wirioneddol ledled Cymru, gan gynyddu gallu undebau credyd i fenthyca i'r rhai a fyddai'n methu â chael credyd fel arall. Hyd yn hyn mae wedi galluogi dros 4000 o bobl i gael mynediad at gredyd fforddiadwy ac mae'r niferoedd yn parhau i dyfu.

Nid credyd yw'r ateb cywir i bawb, ond mae credyd fforddiadwy yn hanfodol a rhaid iddo fod ar gael i aelwydydd incwm isel pan fo angen. Mae angen i ni i gyd fod yn effro i'r hyn sy'n digwydd pan fydd rhywun sy'n ceisio credyd yn cael ei wrthod.

Wrth i'r byd newid o'n cwmpas – cau canghennau banc, yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a newidiadau digidol yn cyflymu – mae'n atgyfnerthu'r angen am arloesi a mentrau i gadw gwasanaethau wyneb yn wyneb, fel bancio symudol, i fynd mewn cymunedau. Yn gynnar ym mis Ebrill, byddaf yn mynd i lansiad gwasanaeth cangen symudol Undeb Credyd Celtaidd a fydd yn mynd â gwasanaethau undebau credyd allan i gymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. 

Yr ail flaenoriaeth yw cefnogi cydweithredu a phartneriaethau ystyrlon rhwng cwmnïau technoleg ariannol a banciau a sefydliadau'r stryd fawr fel undebau credyd a sefydliadau cyllid datblygu cymunedol. Partneriaethau sy'n darparu llwybrau clir i sefydliadau ariannol sydd mewn sefyllfa well i helpu cwsmeriaid sydd wedi methu â chael credyd, fel nad ydynt yn cael eu gwrthod ddwywaith.

I dynnu sylw at hyn ar unwaith, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ail ddigwyddiad "Bancio yng nghymunedau Cymru" ar 31 Mawrth a ystyriodd sut i gefnogi'n well pobl sydd wedi'u hallgáu'n ariannol. 

Mae'r Rhwydwaith Benthycwyr Cyfrifol, yr wyf yn ei gadeirio ddwywaith y flwyddyn, yn dwyn ynghyd pob rhan o'r sector gwasanaethau a chyngor ariannol i ddod o hyd i atebion wedi'u teilwra ar gyfer Cymru. 

Yn olaf, mae blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar gyfer cynhwysiant ariannol yn galonogol, gyda'r Is-bwyllgor Mynediad at Gredyd newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Chwefror i ddatblygu syniadau ar gyfer gwella mynediad at gredyd. Gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau ariannol, gan gynnwys Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro a grwpiau defnyddwyr, mae'r Is-bwyllgor yn un o dri a sefydlwyd fel rhan o Bwyllgor Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig). Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i wneud y mwyaf o'n heffaith gyfunol ar y mater pwysig hwn.