Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AM, Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion costau a dynnir gan swyddogion canlyniadau wrth gyflawni etholiadau Cynlluniad Cenedlaethol Cymru yn 2016. Daeth hyn i gyfanswm o £3,531,161.12. Mae’r gwariant yn cael ei fodloni gan Lywodraeth Cymru o Gronfa Gyfunol Cymru.

Cafodd etholiadau Cynlluniad Cenedlaethol Cymru ei chyfuno efo’r etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru. Mae’r data cyhoeddedig yn adlewyrchu costau etholiadau Cynulliad Cenedlaethol yn unig. Ymhlith pethau eraill mae’r data’n cynnwys costau'r safle llogi, argraffu cardiau a phapurau pleidleisio a chostau staff. Nid yw’n cynnwys costau sy’n cael ei thalu’n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru, megis cardiau post gan ymgeiswyr, cyfanswm hyn yw £3,882,615.03. 

Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ffioedd a Thaliadau Swyddogion Canlyniadau) yn nodi’r uchafswm y gall swyddogion canlyniadau eu hawlio ar gyfer cyflawni’r etholiad. Mae’n ofynnol i swyddogion canlyniadau gofnodi’r swm sy’n ymwneud a’r gost ar gyfer yr etholiad ac o fewn amser penodol i gyflwyno cyfrifon o’r gost wirioneddol a’r dogfennau ategol ar gyfer gwirio. Pan gaiff yr holl gyfrifon eu gwirio, ac os caiff ymholiadau eu datrys, caiff y cyfrifon eu setlo.

Dyma'r tro gyntaf i Lywodraeth Cymru cyhoeddi manylion ar gyfer costau etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r manylion wedi cael eu cyhoeddi o dan brosiect data agored Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i barhau i gyhoeddi’r data hwn a chaiff ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl etholiadau'r dyfodol.

Mae dolen i’r data ar gael yma:

Costau etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 2016​​​​​​​