Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan yr wythnos hon ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd. Gwnaeth hynny er mwyn cryfhau a sbarduno’r gweithredu yn y gwledydd hyn ac yn rhyngwladol − gan ein cymunedau, ein busnesau a'n sefydliadau ein hunain a chan seneddau a llywodraethau ledled y byd. Rwyf yn falch, felly, o gael croesawu'r cyngor a gafwyd heddiw oddi wrth y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae'n diweddaru cyngor a roddwyd yn 2017, yn ailystyried y gostyngiadau mewn allyriadau sy'n bosibl yng Nghymru, ac yn gwneud argymhellion sydd â’r bwriad o sicrhau bod Cymru yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau byd-eang sydd arnom. Mae'n ddarn pwysig iawn o waith ac rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor, i'w staff, i aelodau'r grŵp arbenigol a'r timau ymchwil a fu'n eu cynorthwyo, am eu hymdrechion.

Yn ôl yr argymhellion yng nghasgliadau'r Pwyllgor, mae modd sicrhau gostyngiad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf ac, yn wir, bydd yn rhaid gwneud hynny er mwyn inni fedru gwneud cyfraniad teg i'r ymrwymiadau a wnaed gan y DU yng Nghytundeb Paris. O wneud hynny, byddai nwyon tŷ gwydr hirhoedlog yn gostwng i lefel islaw sero a byddai hefyd, i bob pwrpas, yn golygu na fyddai Cymru yn cyfrannu bellach at gynhesu tymheredd y byd.  

Mae'r cyngor hefyd yn ymdrin ag ystod o elfennau eraill, gan gynnwys costau a manteision yr uchelgais uwch hwn. Gellir cymharu'r costau disgwyliedig â'r rheini a amlinellwyd yn y gorffennol wrth inni nodi, mewn rheoliad ym mis Rhagfyr 2018, ein llwybr datgarboneiddio ar gyfer sicrhau gostyngiad o 80% mewn allyriadau. Mae'r manteision a ddisgrifir yn ategu'r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel. Yn eu plith y mae aer glanach, gwell iechyd, a llu o gyfleoedd economaidd newydd.

Mae'r Pwyllgor wedi dweud unwaith eto bod lleihau allyriadau yng Nghymru yn fwy o her nag yng ngweddill y DU oherwydd bod mwy o’n hallyriadau ni yn dod o sectorau lle mae'n anodd eu lleihau, ac felly mai targed o ddatgarboneiddio 95% yw'r cyfraniad priodol i Gymru ei wneud er mwyn helpu i gyrraedd targed cyffredinol net lle bydd allyriadau'r DU yn ei chyfanrwydd yn sero. Mae'r cyngor yn cydnabod bod angen cydweithio ar draws y DU, gyda phawb yn chwarae eu rhan. Bydd Cymru yn annog Llywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd lle mae ganddi gryn reolaeth dros allyriadau Cymru. 

Wedi dweud hynny, wrth inni fynd ati i sbarduno gweithredu ar bob lefel o’r Llywodraeth, ac ar draws cymunedau a sectorau, byddwn yn arwain y ffordd ac yn ymateb i alwadau i weithredu gan bobl o bob oed sy'n pryderu am effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn gwireddu'r ymrwymiadau a wnaed gennym yn Cymru Carbon Isel, gan fod y 100 o bolisïau a'r cynigion sydd yn y ddogfen honno yn gamau hollbwysig yn nhaith Cymru tuag at fod yn garbon isel. Byddwn hefyd yn ceisio adeiladu ar gamau yr ydym wedi'u cymryd eisoes, er enghraifft, gwneud mwy o waith ôl-osod mewn adeiladau yng Nghymru a gwireddu'n huchelgais o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. Byddwn yn cydweithio hefyd ar draws ffiniau daearyddol a ffiniau sectorau i sicrhau ein bod yn gwireddu'n huchelgais, ac i sicrhau hefyd fod y newid yn un teg. Mae'n Grŵp Cynghori ar Gyfiawnder Hinsoddol yn hoelio sylw ar yr union fater hwnnw.

Mewn ymateb i argymhelliad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, rydym wedi cytuno i ailedrych ar ein targed ar gyfer 2050 ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn pennu'r drydedd gyllideb garbon erbyn diwedd 2020. Byddwn yn ystyried y cyngor a gafwyd heddiw yn llawn ac rydym wedi gofyn eisoes i'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd wneud rhagor o argymhellion y flwyddyn nesaf am yr hyn y mae'r cyngor hwn heddiw yn ei olygu i'n targedau interim a'n cyllidebau carbon presennol yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae cyngor y Pwyllgor ar gael yn https://www.theccc.org.uk/publication/net-zero-the-uks-contribution-to-stopping-global-warming.