Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Fis Chwefror diwethaf, rhoddais ddiweddariad i’r Cynulliad ar gynnydd Cyngor Sir Ynys Môn o dan arolygiaeth fy Nghomisiynwyr. Roeddwn yn lled hyderus y gallwn leihau a therfynu fy ymyrraeth yn y tymor canolig.

Mae’r digwyddiadau ers hynny wedi dangos bod sail i fy hyder. Mae fy Nghomisiynwyr wedi dod i’r casgliad, er bod yna rai pryderon o hyd ynghylch llywodraethu’r Cyngor, nad oes yna unrhyw beryglon difrifol erbyn hyn. Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r un casgliad, ac wedi argymell y dylwn ddechrau cynllunio sut i ddod â fy ymyrraeth i ben.

Rwy’n derbyn hynny ac yn cytuno â barn y naill a’r llall. Mae yna dystiolaeth gynyddol bod Cyngor a oedd unwaith yn ddiarhebol am gamymddwyn, tangyflawni a mân gweryla bellach yn canolbwyntio’n effeithiol ac yn gyson ar y materion hynny sy’n bwysig i’r ynys. Mae yna wahaniaethau o hyd, a bydd hynny’n wir bob amser mewn unrhyw sefydliad democrataidd. Ond mae’n ymddangos bod y dyddiau pan oedd mân ymryson personol yn tra-arglwyddiaethu dros fusnes y Cyngor wedi dod i ben i raddau helaeth.    

Mae datblygiadau diweddar wedi amlygu hynny. Ym mis Mawrth, bu’n rhaid i’r Cyngor bennu cyllideb a chyfradd treth gyngor mewn amgylchiadau ariannol hynod anodd: mae wedi bod yn gyfyng ar y Cyngor ers blynyddoedd lawer ac mae yna lawer llai o gyfleoedd iddo wneud arbedion nag aml i awdurdod lleol arall. Ond fe aeth y Cynghorwyr ati i wynebu’r her honno mewn ffordd wirioneddol aeddfed. Fe wnaethant drafod yn llawn â’r Comisiynwyr wrth lunio cyllideb ddrafft, a’i chymeradwyo bron yn unfrydol yn dilyn trafodaeth resymol a phwrpasol. Byddai hynny wedi bod yn amhosibl ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Cafwyd problemau hefyd gyda’r datblygiad arfaethedig yn Wylfa B, pan wnaeth y cwmnïau arweiniol dynnu’n ôl. Yn ddiamau, roedd hynny’n ergyd fawr i’r ynys, o ystyried potensial Wylfa B ar gyfer datblygiad economaidd.  Ond roedd ymateb y Cyngor yn un rhesymol a difrifol, a rhannwyd yr un nod o geisio sicrhau bod cwmni arall yn cydio yn y prosiect. Ni chafwyd dim o’r beio a’r cyhuddo y byddem wedi’u gweld yn y gorffennol.  

Yn olaf, mae’r Cynghorwyr wedi bod yn cydweithio â’r Comisiynwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fy swyddogion i ddiwygio cyfansoddiad y Cyngor a sicrhau bod rhai o’r gwelliannau yr ydym wedi’u gweld yn ymwreiddio ac yn cael eu cynnal. Unwaith eto, mae’r trafodaethau hynny wedi bod yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol iawn. Maent wedi arwain at rai newidiadau sylfaenol a fydd yn cryfhau dulliau llywodraethu da ac y gallai awdurdodau lleol eraill ddymuno eu hefelychu. Ni welwyd ychwaith y brwydro am fantais bersonol sydd wedi bod mor andwyol i wleidyddiaeth y Cyngor yn y gorffennol. Yn wir, un o brif amcanion y newidiadau yw atal hynny rhag digwydd byth eto. Mae’n amlwg bod bron i bawb yn awyddus i symud ymlaen.  

Mae’r bwriad hwnnw yn un didwyll, ac mae i’w ganmol, ond nid wyf fi wedi fy argyhoeddi eto y gall y Cyngor ei gyflawni ar ei ben ei hun. Rwyf wedi dweud o’r blaen na fydd yr adferiad yn gyflawn hyd nes y byddwn wedi adfywio democratiaeth ar yr ynys, a hyd nes y bydd etholiadau wedi’u cynnal ar sail sy’n fwy tebygol o greu cyngor cynrychioliadol ac atebol. Ni all hynny ddigwydd tan y flwyddyn nesaf.  

Mae angen i’r Cyngor hefyd gwblhau’r broses o benodi tîm newydd a chryfach o uwch-reolwyr er mwyn dod â sefydlogrwydd, gallu ac arbenigedd i’r Cyngor; ac ymdrin â rhai problemau anodd o ran darparu gwasanaethau. Mae’r broses honno wedi mynd rhagddi’n dda iawn hyd yn hyn, ac mae llawer o weision cyhoeddus cymwys iawn ac uchel eu parch wedi dangos diddordeb. Ond hyd nes y bydd y tîm hwnnw yn ei le, a’i bod yn amlwg ei fod yn gweithio’n dda, ni allaf fod yn siŵr y bydd yr adferiad yn cael ei gynnal i’r dyfodol.  

O ganlyniad, byddaf yn ymestyn fy nghyfarwyddyd i’r Cyngor o ddiwedd Mai tan ddiwedd Medi, er mwyn i’r broses recriwtio gael ei chwblhau. Bydd y Comisiynwyr yn parhau i reoli’r Cyngor yn llwyr tan hynny. Os byddaf i a hwythau yn fodlon bryd hynny bod y tîm o uwch gynghorwyr a swyddogion yn barod i gymryd yr awenau, ac os bydd y cynnydd mewn meysydd eraill yn parhau, byddaf yn dechrau dirwyn fy ymyrraeth i ben.  

Byddai hynny’n golygu, i ddechrau, lleihau presenoldeb a chyfrifoldebau’r Comisiynwyr. Byddai’r Cynghorwyr yn ailafael yn yr awenau, ond gallai’r Comisiynwyr wrthdroi unrhyw benderfyniadau y maent yn eu hystyried yn annoeth neu’n afresymol. Byddai’r Comisiynwyr hefyd yn cefnogi’r cynghorwyr a’r swyddogion; a byddent yn parhau i fonitro’r cynnydd a’m cynghori i ar hynny. Byddaf yn trafod gyda fy Nghomisiynwyr beth fydd lefel eu hymwneud personol mewn sefyllfa o’r fath; ond mae’n annhebygol o olygu y bydd y pum Comisiynydd yn bresennol yn barhaus o fewn y Cyngor.

O ganlyniad, byddaf yn gofyn hefyd i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ystyried ailgyflwyno cyflogau uwch ar gyfer aelodau gweithrediaeth y Cyngor. Fe benderfynais dynnu’r rhain yn ôl y llynedd pan drosglwyddais bwerau’r weithrediaeth i’r Comisiynwyr; mae’n briodol felly eu hailgyflwyno mewn rhyw ffordd neu’i gilydd pan drosglwyddir y pwerau hynny yn ôl.  

Bydd y dull hwn o weithredu yn caniatáu i ni brofi pa mor gynaliadwy yw’r newid, o fewn amgylchedd sydd wedi’i reoli. Bydd yn golygu y gallwn symud yn gynnar i sefyllfa o wneud penderfyniadau yn lleol, ond gyda dulliau diogelu priodol. Os bydd hynny’n llwyddiannus, dylwn allu dirwyn fy ymyrraeth i ben yn llwyr yn fuan wedi’r etholiadau y flwyddyn nesaf.

Cynhelir yr etholiadau hynny gan ddefnyddio’r ffiniau newydd, ac rwy’n disgwyl derbyn cynigion terfynol y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ar y ffiniau hynny yn fuan. Roedd llawer o bobl o fewn y Cyngor yn anghytuno â’u cynigion cychwynnol. Mae rhwydd hynt iddynt wrthwynebu’r cynigion terfynol hefyd, wrth gwrs: bydd ganddynt o leiaf chwe wythnos i gyflwyno eu sylwadau i mi. Byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i bob sylw cadarnhaol; ac rwy’n hyderus y bydd y Cynghorwyr yn dangos yr un aeddfedrwydd wrth ymdrin â’r mater hwn ag wrth ymdrin â materion pwysig eraill yn ddiweddar.  

Y cyfan yr wyf yn ei wneud yn awr yw gwneud cynlluniau priodol i ddirwyn fy ymyrraeth i ben gam wrth gam. Gallwn roi’r pwerau llawn yn ôl i’r Comisiynwyr ar unrhyw bryd, a byddaf yn gwneud hynny os bydd yr adferiad yn pallu neu os gwelaf fod y Cynghorwyr yn analluog neu’n anfodlon adennill rheolaeth lawn.  

Ar y llaw arall, os bydd y cynnydd yn parhau o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr, ac os bydd y Cynghorwyr a’r swyddogion yn parhau i ddangos yr un ymrwymiad ag y maent wedi’i ddangos hyd yma, byddwn wedi gallu trawsnewid y sefyllfa ar Ynys Môn yn sylfaenol ac mewn cyfnod byr o ychydig dros ddwy flynedd. Rwy’n edrych ymlaen at allu gwneud hynny.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Cynulliad yn y man.