Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Chwefror 2013, cafodd Aelodau’r Cynulliad wybod am y cynnydd pellach yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi’i wneud o dan arweiniad Comisiynwyr.

Fe wyddoch i gyd am y problemau a ddaeth i ran Cyngor Sir Ynys Môn ac a arweiniodd at benderfyniad digynsail fy rhagflaenydd, Carl Sargeant AC, i dynnu holl bwerau’r Cyngor yn ôl a phenodi tîm o bum Comisiynydd i redeg y Cyngor ar ei ran. O dan arweiniad y Comisiynwyr, mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd.

Ym mis Hydref 2012,  rhoddodd fy rhagflaenydd gyfarwyddyd llai llym i’r Cyngor. Roedd hyn yn golygu llai o bresenoldeb i’r Comisiynwyr yn y Cyngor, gyda’r Cynghorwyr yn ailgydio mewn rheolaeth o ddydd i ddydd. Daliodd y Cyngor ati i wneud yn dda.  

Ym mis Mawrth, cymeradwyodd y Cyngor ei gyllideb ar gyfer 2013-14 ac fe aeth i’r afael â’r heriau a oedd yn codi yn sgil hyn mewn modd a oedd o leiaf mor aeddfed ag agwedd unrhyw awdurdod lleol arall. Dyma’r awdurdod lleol cyntaf yn y Gogledd, a dim ond yr ail yn gyffredinol, i ennill Safon Ansawdd Tai Cymru. Yn ddiweddar rhoddwyd canmoliaeth uchel i’r Cyngor dan gategori Prosiect Rheoli Newid y Sector Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn        gan y Gymdeithas Ymgyngoriaethau Rheoli. Mae hyn yn llwyddiant nodedig i Gyngor oedd mewn cyflwr mor wael dim ond bedair blynedd yn ôl.

Yn sgil newidiadau i ffiniau, a arweiniodd at ostwng nifer y cynghorwyr o 40 i 30, fe gytunodd fy rhagflaenydd i ohirio etholiad y Cyngor am flwyddyn.

Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mai 2013. Roedd cystadleuaeth dda am bob sedd, gyda 106 o ymgeiswyr yn sefyll am 30 o seddi. Roedd y bleidlais gyffredinol o 50.5% yn uwch nag mewn unrhyw etholiad arall a gynhaliwyd yn y DU y diwrnod hwnnw.

Yn sgil canlyniadau’r etholiad, nid oedd gan yr un blaid na grŵp fwyafrif cyffredinol, ac arweiniodd hynny at drafodaethau rhwng yr amryw grwpiau. Mae’r trafodaethau hynny wedi mynd rhagddynt mewn ffordd effeithiol ac aeddfed, ac rwy’n hyderus y byddant yn arwain at y weinyddiaeth sefydlog y mae ei hangen ar y Cyngor. Y cam cyntaf yw bod y Cyngor yn ethol Arweinydd yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y prynhawn yma.

Nid mater i mi yw pwy sy’n rhedeg y Cyngor. Yr hyn sy’n hanfodol yw bod hynny’n arwain at weinyddiaeth sefydlog ac effeithiol.

Heddiw bydd gan y Cyngor Arweinydd newydd, a bydd hynny’n nodi dechreuad newydd. Gwaith y garfan newydd o Gynghorwyr fydd adeiladu ar gynnydd eu rhagflaenwyr o dan arweiniad y Comisiynwyr. Mae cyfle i’r Cyngor hwn fod yn esiampl i weddill y byd Llywodraeth Leol.

Mae’r Cyngor wedi dangos egin adferiad, a’n gobaith yw y bydd modd iddynt feithrin yr addewid hwn a dangos eu bod yn gallu sicrhau adferiad cynaliadwy a gwelliant parhaus.  O ystyried y cynnydd y mae’r Cyngor wedi’i wneud hyd yma, rwy’n ffyddiog y gall ymdrin â’i faterion ei hun heb ymyrraeth allanol. Mae’r Comisiynwyr ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cytuno â’r farn hon.

Felly, bydd fy ymyrraeth fel Gweinidog yn dod i ben yn ffurfiol pan ddaw’r cyfarwyddyd presennol i ben ar 31 Mai.

Er mwyn sicrhau cynnydd y tu hwnt i ddiwedd mis Mai, mae fy swyddogion wrthi’n cynnal trafodaethau gyda’r Cyngor, y Comisiynwyr a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weld faint o gymorth y dylid ei gynnig. Byddaf hefyd yn cadw llygad fanwl ar gynnydd y Cyngor dros y misoedd i ddod. Yn ogystal, bydd y Bwrdd Adfer Addysg a sefydlwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn parhau â’i waith, gan helpu’r Cyngor i fynd i’r afael â’r gwendidau difrifol yng ngwasanaethau addysg Ynys Môn.

Fodd bynnag, ni ddylai hyn danbrisio’r cynnydd cyffredinol y mae’r Cyngor wedi’i wneud. Mae’r ffaith ei fod wedi adfer ei hun o sefyllfa oedd yn waeth na sefyllfa unrhyw awdurdod lleol yn y DU erioed, a hynny mewn ychydig dros ddwy flynedd, yn llwyddiant rhagorol. Mae’n deyrnged  i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses weddnewid: Swyddogion ac Aelodau’r Cyngor, y Comisiynwyr ac wrth gwrs fy rhagflaenydd, Carl Sargeant. Mae hefyd yn dangos faint o botensial sydd i ni ddatrys hyd yn oed y problemau anoddaf o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus os yw pawb yn cydweithio i gyrraedd yr un nod. Dyna wers y gallwn ni ei defnyddio, ac y mae’n rhaid i ni ei defnyddio, mewn meysydd eraill.