Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a Huw Irranca-Davies, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gam nesaf y cymorth i Gyngor Sir Powys a'r gwaith o sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd i oruchwylio a chydlynu'r gwelliant i Gyngor Sir Powys.

Yn dilyn cais am gymorth statudol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 gan y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Powys, penodwyd cynghorydd allanol, Sean Harriss, i gynnal asesiad annibynnol o'r Cyngor. Mae Sean Harriss bellach wedi cwblhau ei arolwg ac mae'r adroddiad, Adolygiad o Arweinyddiaeth, Llywodraethu, Strategaeth a Chapasiti, Ionawr 2018 ar gael drwy'r ddolen ganlynol http://llyw.cymru/topics/localgovernment/publications/review-leadership-governance-powys-county-council/?lang=cy 

Mae'r adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd ond ei fod yn wynebu heriau sylweddol mewn perthynas â chryfhau ei arweinyddiaeth a'i gapasiti corfforaethol. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod modd goresgyn yr heriau hyn drwy gynyddu capasiti a gallu'r awdurdod lleol, ynghyd â phecyn uwch a dwys o welliannau dan arweiniad y sector.

Mae Arweinydd y Cyngor wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad, a bydd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei chefnogi i wneud hynny.

Rydym wedi cytuno â'r Cyngor i achub ar y cyfle hwn i sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd newydd gyda chylch gwaith ehangach a fydd yn cynnwys gwelliant corfforaethol a gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hyn yn disodli'r Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol presennol. Diben y Bwrdd newydd fydd cynorthwyo'r Arweinydd i weithredu'r newid a'r gwelliant gofynnol i’r awdurdod lleol. Bydd y Bwrdd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a chynrychiolwyr o'r gwrthbleidiau, ynghyd â nifer o aelodau annibynnol, gan gynnwys y Cadeirydd, Jack Straw, a fu'n cadeirio'r Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhowys. Bydd manylion pellach am y cylch gorchwyl a'r aelodau yn cael eu rhoi i Aelodau'r Cynulliad pan fyddant wedi'u cadarnhau.

Yn ogystal â hynny, bydd Gweinidogion Cymru yn darparu pecyn pwrpasol arall o gymorth tymor byr, dan arweiniad cynghorydd allanol, i gynorthwyo'r Cyngor i fynd i'r afael â'r meysydd lle mae angen gweithredu ar unwaith sydd wedi’u hamlinellu yn adroddiad Sean Harriss.

Bydd ail gam y cymorth yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Datblygu gweledigaeth wleidyddol a rheolaethol glir ar gyfer Powys, sy'n amlinellu'r uchelgais a'r canlyniadau ar gyfer yr ardal dros y tair i bum mlynedd nesaf, gan gynnwys strategaeth a chynlluniau cyflawni manwl 
  • Datblygu system rheoli perfformiad sy'n mesur llwyddiant gweledigaeth a chanlyniadau'r Cyngor ac sy'n eu galluogi i gadw llygad ar berfformiad meysydd gwasanaeth allweddol 
  • Llunio strategaeth newid a datblygu sefydliadol cynhwysfawr er mwyn cryfhau ei ddiwylliant a'i ymddygiad corfforaethol 
  • Cefnogi'r Cyngor i weithio gyda phartneriaid allanol allweddol ar y Weledigaeth ar gyfer Powys 
  • Cryfhau'r prosesau ariannol a chynllunio'r gyllideb yn strategol. 

Mae Sean Harriss wedi'i benodi i fynd i'r afael â'r gwaith hwn gyda'r Cyngor ar unwaith dros y chwe wythnos nesaf.

Yna bydd y Bwrdd Gwella a Sicrwydd yn ystyried pa gymorth pellach fydd ei angen pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau.

Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn cael ei rhoi i'r Cynulliad.