Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

  • Heddiw mae Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn cyhoeddi eu hadroddiad ar yr “Ymchwiliad ar y cyd i’r ffordd y rheolir ac yr ymdrinnir â honiadau o gam-drin proffesiynol a’r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant mewn gwasanaethau addysg yng Nghyngor Sir Penfro”.  Daw’r adroddiad hwn i’r casgliad “y bu diffyg goruchwylio gan aelodau etholedig a swyddogion, ar y lefel uchaf o fewn yr awdurdod, o ran rheoli ac ymdrin ag achosion o gam-drin proffesiynol honedig mewn gwasanaethau addysg”.  Mae’n ystyried bod y diffygion hyn “yn hirsefydledig ac yn systematig”.  Rwy’n arbennig o bryderus mai un o’r themâu sydd wedi codi yw na chafodd llais y plentyn wrandawiad priodol.  Dyma fethiant i gyflawni dyletswyddau sylfaenol.  Mater i Gyngor Sir Penfro a’i bartneriaid statudol yw amddiffyn plant yn Sir Benfro. Mae’r diffygion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn gwbl annerbyniol, ac rwy’n disgwyl i Gyngor Sir Penfro gymryd camau cryf a phendant i’w datrys fel mater brys.  Bydd plant a’u rhieni yn Sir Benfro yn disgwyl dim llai.
  • Mae Estyn hefyd yn cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n ymdrin ag ansawdd gwasanaethau addysg lleol i blant a phobl ifanc yn Sir Benfro.  Mae hwn yn disgrifio gwasanaethau addysg y sir fel bod yn anfoddhaol, a bod y rhagolygon ar gyfer gwella hefyd yn anfoddhaol.  Rwy’n gwybod y bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn mynd ati ar wahân i ystyried y dystiolaeth dros y dirywiad mewn safonau ysgolion a materion eraill mewn perthynas â gwasanaethau addysg.  Serch hynny, yr agwedd fwyaf difrifol ar adroddiad Estyn yw’r canfyddiad nad yw polisïau a systemau’r awdurdod lleol ar gyfer diogelu plant yn addas i’r diben.
  • Er bod ffocws uniongyrchol y pryderon wedi bod ar wasanaethau addysg, ieuenctid a chymunedol, nid yw wedi’i gyfyngu i’r rhain. Canfuwyd diffygion hefyd yn arweiniad corfforaethol yr awdurdod, y ffordd y mae’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau adnoddau dynol, a’r ffordd y mae’r arweinwyr a’r rheolwyr corfforaethol wedi rheoli trefniadau amddiffyn plant.  Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddiffyg goruchwyliaeth wleidyddol, ac at wendidau yn y ffordd yr aeth aelodau etholedig ati i gyflawni eu cyfrifoldebau. Rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i atgoffa’r aelodau etholedig o’u cyfrifoldebau personol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.
  • Nid yw Llywodraeth Cymru am sefyll o’r neilltu a chaniatáu i hyn barhau.  Mae adroddiad Estyn yn nodi bod yna fethiant corfforaethol systemig i ymateb i faterion diogelu plant.  Mae’r Prif Arolygydd Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi gwybod imi nad yw’r awdurdod mewn sefyllfa dda i ymdrin yn gyflym â’r holl faterion a nodwyd yn adroddiad ar y cyd AGGCC ac Estyn. Rwy’n argyhoeddedig bod angen cefnogi a herio’r Cyngor er mwyn newid y sefyllfa, ac y dylai hynny gael ei wneud o’r tu allan i’r awdurdod.  Mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth o bwerau o dan ddeddfwriaeth addysg, llywodraeth leol a phlant.  Rwyf felly wedi siarad ag Arweinydd Cyngor Sir Penfro ar ran Gweinidogion Cymru, ac wedi dweud wrtho ein bod yn tueddu tuag at ddefnyddio ein pwerau i gyfarwyddo’r Cyngor i wella’r ffordd y mae’n diogelu ac yn hyrwyddo lles plant mewn addysg, a’r ffordd y mae cyfrifoldebau corfforaethol y Cyngor ar gyfer amddiffyn plant yn cael eu cyflawni.  Rydym wedi gofyn iddo ymateb erbyn 9 Medi.  Rwyf wedi mynnu bod yr ymateb hwn yn sôn am y camau a gymerwyd eisoes mewn ymateb i’r archwiliad ar y cyd, a’i fod yn cynnwys cynllun gweithredu clir, heriol ac ymarferol sydd â chefnogaeth a chydweithrediad llawn holl aelodau ac uwch swyddogion y Cyngor.  Rwyf o’r farn bod ar y cyngor angen ei herio a’i gefnogi gan dîm allanol er mwyn cyflawni hyn. Bydd y tîm a benodir gennyf hefyd yn herio’r Cyngor i lunio cynllun i ddatrys y materion sy’n achosi pryder.  Bydd y tîm yn bwydo’n ôl i Weinidogion Cymru ynghylch pa mor gadarn yw camau a chynlluniau gweithredu’r Cyngor.  Rwy’n falch o ddweud bod Mr David Hopkins a Mr Phil Robson, sydd ill dau wedi bod yn Gyfarwyddwyr Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cytuno i ymuno a’r tîm hwn.  Byddaf yn cyhoeddi penodiad aelodau pellach maes o law.
  • Ni ellir aros tan 9 Medi i sicrhau diogelwch plant. Bydd plant yn mynd yn ôl i’r ysgol ar gyfer tymor yr hydref.  Y Cyngor sy’n gyfrifol am sicrhau bod gwiriadau priodol wedi’u cynnal ynghylch staff, ond rwyf wedi rhoi gwybod i’r Cynghorydd John Davies, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, fy mod am ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael imi i gyfarwyddo’r Cyngor i gydymffurfio â’i ddyletswyddau i fetio staff yn drylwyr.
  • Mae Gweinidogion yn disgwyl i gynllun gweithredu’r Cyngor mewn ymateb i’r materion addysg ehangach a nodwyd gan Estyn fod ar waith cyn pen dau fis.
  • Y prawf gwirioneddol, fodd bynnag, fydd faint o newid a welir ar lawr gwlad.  Rydym wedi gofyn i Estyn ac AGGCC lunio adroddiad monitro byr ar y cyd ynglŷn â’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor erbyn 31 Hydref.  Byddwn hefyd yn disgwyl iddynt gynnal archwiliad ar y cyd pellach, ar ddyddiad i’w benderfynu, yn seiliedig ar yr adroddiad a gyhoeddir ym mis Hydref.
  • Mae’r adroddiad yn codi cwestiynau am ansawdd y cydweithio i ddiogelu ac amddiffyn plant.  Mae AGGCC ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi wedi dechrau mynd i’r afael â hyn gyda’r nod o lunio adroddiad erbyn diwedd mis Medi. Rwyf wedi pwysleisio fy mod yn disgwyl i’r gwaith hwn gynnwys Estyn ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn ffurfiol, er mwyn llunio gwerthusiad priodol o gyfraniad yr holl asiantaethau perthnasol.  Bydd angen iddo geisio barn Swyddfa Archwilio Cymru hefyd.
  • Mae’n hanfodol inni i gyd fod yn ymwybodol o’r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn.  Rydym yn ysgrifennu at arweinwyr pob awdurdod lleol i’w hatgoffa o’u dyletswydd statudol i sicrhau bod yr arferion cyflogaeth priodol ar waith a’u bod yn ymateb yn briodol i honiadau o gam-drin proffesiynol.
  • Methiant o safbwynt cyflenwi yw hwn.  Ni fydd rhagor o bolisïau, rhagor o reoliadau, rhagor o ganllawiau a rhagor o arolygu yn datrys y broblem.  Mae cyflenwi gwasanaethau diogel yn golygu gwrando ar y plentyn, mae’n golygu bod gwasanaethau’n agored i’w craffu a’u herio, ac mae’n golygu bod yr holl wasanaethau ac arweinwyr corfforaethol yn cydweithio i amddiffyn plant.
  • Mae’r materion hyn wedi dod i’r amlwg oherwydd gwaith ein harolygiaethau, a hoffwn ddiolch iddynt am hynny.
  • Byddaf yn gwneud datganiad arall, cyn gynted â phosibl, pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ailymgynnull ar ôl toriad yr haf.