Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyngor i’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, y cynllun ‘gwarchod’ gynt, wedi newid o heddiw ymlaen. Y cyngor nawr yw na ddylai’r rhai yn y grŵp hwn fynd i’r gwaith na’r ysgol y tu allan i’w cartref. Mae’r cyngor yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill, neu swydd lle mae unigolion, am gyfnodau hir, yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach. Bydd llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael ei anfon i gadarnhau’r cyngor hwn ond bydd yn cymryd peth amser i gyrraedd pobl oherwydd cyfnod y Nadolig. Gellir defnyddio’r llythyr hwn fel tystiolaeth i hawlio tâl salwch statudol.

Gwnaed y penderfyniad hwn ar sail nifer o ffactorau ond y dylanwad diweddaraf oedd y twf sylweddol diweddar yn y cyfraddau heintio, o bosibl yn sgil yr amrywiolyn newydd o’r coronafeirws. Rydym hefyd wedi ystyried y pwysau sydd ar ein gwasanaethau iechyd, gyda niferoedd cynyddol o gleifion mewn ysbytai. Bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu bob tair wythnos, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o’r lefelau rhybudd ledled Cymru.

Mae’r rheoliadau sydd mewn grym ar lefel 4 https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4 eisoes yn berthnasol i unigolion yn y grŵp hwn ac felly rhaid iddynt aros gartref cymaint â phosibl. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio y caiff y grŵp barhau i fynd allan i ymarfer corff, a hefyd i fynd i apwyntiadau meddygol. Rhaid inni gofio’r niwed y gall ynysu am gyfnodau hir ei achosi. Felly, caiff y rhai yn y grŵp hwn barhau i fod yn rhan o swigen gefnogaeth, cyn belled â’u bod yn cymryd gofal.

Rydym wedi’i gwneud yn glir mai’r dewis mwyaf diogel i bobl yn y grŵp hwn yw peidio â bod yn rhan o Swigen Nadolig. Fodd bynnag, os byddant yn dewis gwneud hynny, dylent ddilyn y cyngor ar ein gwefan https://llyw.cymru/cyngor-y-nadolig-ar-gyfer-pobl-oedd-yn-gwarchod sy’n cynnwys lleihau cysylltiadau cymaint â phosibl, cyfarfod am gyfnodau byr mewn mannau sydd â digonedd o awyr iach, golchi dwylo ac arwynebau yn rheolaidd a chadw 2 fetr oddi wrth bobl eraill. 

Mae’n anochel y bydd yn cymryd mwy o amser nag arfer i’r llythyrau gyrraedd pobl, felly rwy’n gofyn i’r Aelodau a rhanddeiliaid ein helpu i ledaenu’r neges hon. Rwyf hefyd yn gofyn i gyflogwyr nodi’r newid yn y cyngor a chynorthwyo eu cyflogeion i’w ddilyn.

Bydd y canllawiau ar gyfer y rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol yn cael eu diweddaru cyn gynted â phosibl ar y dudalen hon https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddiogelu-pobl-ddiffinnir-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored-i-niwed-yn

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.