Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y cyngor i’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, y cynllun ‘gwarchod’ gynt, ei newid o 22 Rhagfyr ymlaen, a chyngorwyd y rhai sydd yn y grŵp hwn na ddylent adael eu cartrefi i fynd i’r gwaith nac i’r ysgol. Mae’r cyngor yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd lle maent mewn cysylltiad â phobl eraill yn aml neu drwy’r amser, neu mewn swydd lle mae pobl yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach am gyfnod hir. Cafodd y cyngor hwn ei roi ar waith tan 7 Chwefror ac roedd y llythyrau a anfonwyd yn cyfeirio at y cyfnod tan y dyddiad hwnnw.  

Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi adolygu'r sefyllfa ac wedi nodi y dylai'r cyfnod y mae'r cyngor hwn yn berthnasol iddo barhau tan 31 Mawrth. Gwneir hyn o ystyried y lefelau uchel parhaus o’r feirws yn yn ein cymunedau a’r hyn yr ydym yn dal i’w ddysgu am effeithiau straeniau newydd o'r feirws. Bydd llythyrau newydd yn cael eu hanfon at y rhai sydd ar y rhestr gwarchod cleifion dros y pythefnos nesaf.

Erbyn canol mis Chwefror byddwn yn cysylltu â'r rhai sydd ar y rhestr gwarchod cleifion a byddant yn cael eu brechiad Covid-19 cyntaf.  Mae'n bwysig bod pobl yn aros nes cysylltir â nhw, a phan gânt eu gwahodd, eu bod yn mynychu’r apwyntiad ac yn cael eu brechu. Drwy gydol y pandemig rydym wedi parhau i annog y grŵp hwn i gael gafael ar y gofal iechyd sydd ei angen arnynt ac rydym yn ystyried bod brechu yn dod o fewn y categori hwn.

Ar hyn o bryd, bydd y cyngor i beidio â mynychu gwaith a'r ysgol y tu allan i'r cartref yn parhau i fod yn berthnasol, hyd yn oed ar ôl cael y ddau ddos o'r brechlyn. Y rheswm am hyn yw bod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau yn dal yn uchel, a chyfran y bobl sydd wedi cael eu brechu yn gymharol isel. Mae'r cyngor hwn yn gyson ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig a chaiff ei adolygu'n barhaus gan y pedwar Prif Swyddog Meddygol.

Mae’r broses o ystyried y cyngor i'r rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn digwydd ar wahân i'r rheoliadau coronafeirws ac, er ein bod yn dal mewn cyfnod heriol o ran lefelau'r feirws yn ein cymunedau, ni ddylid cymryd bod y ffaith fod y dyddiad hwn yn cael ei estyn yn arwydd o ganlyniad adolygu’r lefelau rhybudd yn ystod y cyfnod hwn.