Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ysgrifennu at bawb sydd ar y Rhestr Cleifion a Warchodir i roi’r cyngor diweddaraf iddynt am yr amrywiolyn omicron newydd, sy’n lledaenu’n gyflym.
Yn ogystal â rhoi cyngor iddynt ynglŷn â sut y gallant leihau eu risg o ddal y feirws, bydd y llythyr yn pwysleisio mor bwysig yw cael y brechlyn atgyfnerthu. Bydd hefyd yn darparu’r cyngor diweddaraf am brofi, gan gynnwys ein neges i bobl gymryd prawf llif unffordd cyn cymdeithasu ag eraill, ac yn tynnu sylw at y meddyginiaethau newydd sydd ar gael i bobl â chyflyrau penodol sy’n cael canlyniad prawf positif am COVID-19.
Dyma gyfnod pryderus i bob un ohonom, yn enwedig i bobl sydd mewn mwy o berygl o’r feirws. Fodd bynnag, mae llawer mwy o fesurau amddiffyn ar waith yn awr nag yr oedd pan gafodd y rhestr warchod ei chreu gyntaf ar ddechrau’r pandemig.
Cael y cwrs llawn o’r brechlyn COVID-19, gan gynnwys y trydydd dos sylfaenol i bobl sy’n ddifrifol imiwnoataliedig, a’r brechlyn atgyfnerthu ar ôl hynny, yw’r amddiffyniad gorau sydd ar gael i bob un ohonom o hyd. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi blaenoriaeth i gael y brechlyn, gan gynnwys y brechlyn atgyfnerthu.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.