Julie James, AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ddydd Llun 4 Ionawr, cyhoeddodd Panel Dyfarnu Cymru ganlyniad gwrandawiad tribiwnlys Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, sydd wedi arwain at ei wahardd am saith mis.
Er mai mater i'r cyngor yw hwn, roeddwn am hysbysu'r aelodau bod fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd bod trefniadau arwain interim priodol yn cael eu rhoi ar waith i gynnal sefydlogrwydd dros y cyfnod hwn. Mae hyn yn cynnwys sicrwydd y bydd cynnydd ar eu taith wella yn cael ei gynnal gyda'r gwaith cyflawni yn erbyn eu Cynllun Adfer, Trawsnewid a Gwella yn parhau. Bydd fy swyddogion yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â'r cyngor drwy gydol y cyfnod hwn.
Bydd y pecyn cymorth statudol a ddarperais o dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn parhau er mwyn helpu'r cyngor i fynd i'r afael â'r heriau y mae'n eu hwynebu.
Rwyf yn gwneud y datganiad hwn yn ystod y toriad i sicrhau bod pob aelod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.