Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Senedd am y pecyn cymorth statudol a roddwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (y Cyngor) o dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Rhoddwyd y pecyn cymorth hwnnw i’r Cyngor yn dilyn asesiad annibynnol o’r prif heriau oedd yn ei wynebu. Cynhaliwyd yr asesiad hwnnw ar ddiwedd tymor yr haf 2019.
Ar ddiwedd mis Hydref y llynedd, cadarnheais fy mwriad i roi pecyn cymorth statudol pwrpasol arall i'r Cyngor. Cytunais, ar y cyd â'r Cyngor, i sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd (y Bwrdd). Dan gadeiryddiaeth Steve Thomas, byddai’r bwrdd yn helpu'r Arweinydd, y Cynghorydd Kevin O’Neill, i fwrw ymlaen â'r newidiadau a'r gwelliannau oedd eu hangen yn y Cyngor. Cytunais hefyd y byddwn yn darparu cymorth tymor byr wedi'i dargedu ar gyfer llywodraethu, materion corfforaethol a gwasanaethau.
I helpu gyda'r broses o benodi cynghorwyr allanol addas, gofynnais i Steve Thomas ac aelodau allanol y Bwrdd gynnal asesiad cyflym o'r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen i ddarparu'r cymorth hwn.
Nid dyblygu adolygiad John Gilbert oedd diben yr asesiad cyflym, ond ymchwilio’n ddyfnach er mwyn penderfynu pa gymorth oedd ei angen. Defnyddiwyd yr asesiad cyflym hefyd fel cyfle i edrych yn fwy eang ar feysydd gwasanaeth eraill, megis addysg, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r gwelliannau oedd eu hangen.
Mae'r asesiad cyflym, sydd i'w weld yn yr atodiad, bellach wedi cael ei gwblhau. Mae'n argymell nifer o fesurau tymor byr, wedi’u targedu, ar gyfer llywodraethu ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys ystyried pa gymorth sydd ei angen a sut y gellir ei ddarparu er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl. O ganlyniad, ers hynny rwyf wedi cytuno i roi cynghorwyr allanol i’r Cyngor yn y meysydd canlynol:
- Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd union gylch gwaith a diben y cynghorwyr allanol hyn yn cael eu datblygu ar y cyd â'r aelod allanol perthnasol ar y Bwrdd a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth/Prif Swyddog priodol.
- Llywodraethu Corfforaethol
Rwyf wedi cytuno i benodi cynghorydd allanol i helpu gyda'r gwaith o ddatblygu agenda trawsnewid a gwella ystyrlon, sy'n addas i'r diben, yn ogystal â system effeithiol ar gyfer rheoli perfformiad a chraffu arno. Dylai hyn lywio’r ymateb i brif ganfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad cwmpasu a’r asesiad cyflym, ond ni ddylai gael ei gyfyngu i hynny.
- Datblygu'r Arweinydd, y Cabinet a'r Aelodau.
Mae cynghorydd wedi cael ei benodi hefyd i roi cymorth gydag arweinyddiaeth a chysylltiadau gwleidyddol. Yn ogystal â hyn, bydd rhaglen gymorth tymor hwy yn cael ei datblygu, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn datblygu aelodau a sgiliau cadeirio a darparu hyfforddiant craffu.
Bydd yr holl gynghorwyr allanol yn cael eu penodi am gyfnod byr yn unig (am gyfnod o dri i chwe mis ar y mwyaf) i helpu'r Cyngor i fynd i'r afael â'i heriau uniongyrchol a’i heriau tymor hwy. Mae fy swyddogion wrthi'n gweithio gyda'r Cyngor a'r Bwrdd i gytuno ar drefniadau. Y gobaith yw y bydd y rhain wedi cael eu cwblhau erbyn cyfarfod nesaf y Bwrdd ar ddechrau mis Mawrth.
Yn ogystal, bydd y Bwrdd yn parhau i fonitro cynnydd y Cyngor a cheisio sicrwydd fod ganddo gynllun gwella grymus ar waith a'i fod yn ei gyflawni'n ddi-oed. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae angen i'r holl aelodau a'r swyddogion ddangos ymrwymiad er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Cyngor a darparu gwasanaethau o safon uchel i bobl Merthyr Tudful.
Bydd hyn yn caniatáu i'r Bwrdd lunio barn ynglŷn â chapasiti a gallu'r Cyngor i fynd i'r afael â'i heriau yn annibynnol ac mewn modd cynaliadwy. Byddaf yn disgwyl cael barn ar gynnydd y Cyngor cyfan ar ddiwedd mis Mai.
Bydd rhagor o fanylion a'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn cael eu rhoi i'r Senedd.