Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi cyhoeddi adroddiad am Wasanaethau Cymdeithasol i Blant yng Nghastell-nedd Port Talbot. Dyma’r trydydd adroddiad o’r fath mewn dwy flynedd, sy’n deillio o bryderon a nodwyd gyntaf yn 2010.
Mae’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn nodi’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r awdurdod o hyd ac mae’r Prif Arolygydd wedi datgan bod lle i bryderu’n fawr.
Felly mae’r Prif Arolygydd wedi galw am ddefnyddio’r Protocol Pryderon Difrifol yn yr awdurdod, er mwyn sicrhau ymrwymiad corfforaethol cyflawn i’r gwelliannau sydd eu hangen.
Mae hyn yn fater difrifol iawn. Hoffwn bwysleisio, fodd bynnag, mai bwriad y cam y mae’r Prif Arolygydd yn ei gymryd yw sbarduno gwelliant a galluogi’r awdurdod i gefnogi ei staff, fel y gall sicrhau’r canlyniadau gorau i blant a’u teuluoedd. Ei ddiben yw canolbwyntio ar flaenoriaethau o ran gwella, monitro cynnydd tuag at gyflawni’r gwelliannau hyn yn rheolaidd a darparu her adeiladol drwy’r broses hon.
Nid wyf yn fodlon gweld gwasanaethau i blant yn cwympo’n is na’r safonau derbyniol. Rwyf wedi cyfarfod Arweinydd a Phrif Weithredwr yr awdurdod i esbonio hyn. Rwyf wedi nodi fy nisgwyliadau a byddant yn gweithredu ar unwaith i ymateb i’r materion a nodwyd gan y Prif Arolygydd. Byddant yn cydweithredu’n llwyr â hi i sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen.
Hoffwn ei gwneud yn glir fy mod yn cefnogi’r staff rheng flaen, sy’n gweithio’n galed dros ben i gefnogi plant a’u teuluoedd, fel y mae’r adroddiad yn nodi. Mae’n hanfodol fod yr awdurdod yn darparu’r cyfeiriad a’r gefnogaeth angenrheidiol iddynt fel y gallant wneud eu gwaith.
Yn ystod ein cyfarfod, rhoddodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr sicrwydd imi y byddant yn ymdrechu i roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith. Maent hefyd wedi dweud eu bod yn fodlon gweithio gyda’r Prif Arolygydd i sicrhau bod y newidiadau hynny’n digwydd.
Dim ond dechrau’r daith yw hyn, fodd bynnag. Bydd angen i’r awdurdod ganolbwyntio’n llwyr ar yr hyn sydd angen ei wneud a gweithredu mewn ffordd gwbl benderfynol. Ni all y sefyllfa sydd ohoni barhau.
Mae’r Prif Arolygydd wedi derbyn cynllun gwella dros dro gan yr awdurdod ac mae wedi dweud beth fydd y trefniadau i fonitro hynt y gwaith o wireddu’r blaenoriaethau o ran gwella, a hynny bob chwarter. Bydd yn rhoi gwybod imi sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen, a chynhelir arolygiad pellach ym mis Tachwedd 2013.
Rwy’n disgwyl gweld y gwelliannau mawr sydd eu hangen yn cael eu rhoi ar waith yn ddi-oed, gyda gwir ymroddiad.