Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers 2011, mae rhaglenni archwilio, rheoleiddio ac arolygu yng Nghymru wedi mynegi pryderon ynghylch gwendidau yn y ffordd y caiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ei redeg ac wedi pwysleisio, oni bai bod gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r rhain, ei bod yn annhebygol y byddai’r Cyngor yn cynnal gwelliant sylweddol. Daeth Adroddiad Gwella Blynyddol diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2013, i’r casgliad bod angen arweinyddiaeth effeithiol a rheolaeth a threfniadau cyflawni cyson ar y Cyngor er mwyn bod yn llwyddiannus a sicrhau’r gwelliannau gofynnol.


Mae gwaith asesiad gwella diweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos, ers mis Mai 2012, bod y Cyngor wedi bod yn gweithio i wneud cynnydd o ran mynd i’r afael â’r heriau sylweddol y mae’n eu hwynebu. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi bod yn ddigonol. Felly, mae’n annhebygol y bydd y Cyngor yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i wella a newid ar raddfa ddigon mawr a chyflym i fodloni’r hyn sydd ei angen yn y flwyddyn ariannol hon. Mae Llythyr Asesiad Gwella Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a anfonwyd heddiw, yn datgan yn glir bod y trefniadau arwain a phenderfynu yn anghyson o hyd ac nad yw’r Cyngor wedi cyflwyno cynigion i fynd i’r afael ar ddigon o frys â’r pwysau ariannol a ragwelir a’r amrywiadau ym mherfformiad gwasanaethau. Mae pryder hefyd ynghylch lefel ac ansawdd yr wybodaeth y mae Aelodau etholedig yn ei derbyn i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a phriodol.  

Yng ngoleuni’r casgliadau hyn, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud dau argymhelliad statudol i’r Cyngor fynd i’r afael â’i drefniadau ar gyfer cynllunio ariannol, gwneud penderfyniadau a chraffu. Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys argymhelliad i mi ddefnyddio fy mhwerau Gweinidogol (o dan Adran 28 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009) i gynnig cymorth tymor byr i’r Cyngor er mwyn iddo unioni’i broblemau, cyn gynted â phosibl, gan nad oes gan y Cyngor y gallu i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â nhw. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn awgrymu y dylid rhoi cymorth o’r fath ar ffurf cymorth allanol â sgiliau a phrofiad addas i alluogi’r Cyngor i gymryd camau buan ac arwyddocaol yn y meysydd dan sylw.


Rwyf wedi cymryd argymhelliad Archwilydd Cyffredinol Cymru o ddifrif. Mae’n amlwg o’i asesiad manwl bod angen mynd i’r afael â’r sefyllfa ar frys. Rwyf hefyd yn falch o weld ymrwymiad Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i fynd i’r afael ag anawsterau’r Cyngor drwy wneud cais ffurfiol am gymorth i helpu i ymdrin â’r anwsterau ariannol uniongyrchol a’r heriau ehangach y mae’n eu hwynebu.


Rwy’n bwriadu defnyddio fy mhwerau o dan Adran 28 y Mesur i roi pecyn cymorth ffurfiol i’r Cyngor. Ni fu’n rhaid i mi arfer y pwerau hyn o’r blaen. Fodd bynnag, ni allaf anwybyddu natur argymhelliad Archwilydd Cyffredinol Cymru o ystyried cynnwys y Llythyr Asesiad Gwella. Bydd fy swyddogion nawr yn gweithio gyda’r Cyngor i benderfynu ar becyn cymorth priodol i fynd i’r afael â’i flaenoriaethau ariannol uniongyrchol a’i faterion capasiti a chynaliadwyedd corfforaethol ehangach.  

Ar ôl cytuno ar y pecyn cymorth hwn, byddaf yn gwneud Datganiad pellach i Aelodau’r Cynulliad yn amlinellu’r manylion a’r amserlen.