Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers 2011, mae rhaglenni archwilio, rheoleiddio ac arolygu yng Nghymru wedi mynegi pryderon ynghylch y ffordd y caiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ei redeg ac wedi pwysleisio, nes iddo fynd i’r afael â’r rhain, na fyddai’r Cyngor yn cynnal gwelliant sylweddol. Mae’r gwaith asesu gwella diweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos bod y Cyngor wedi bod yn gweithio ers mis Mai 2012 i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol y mae’n eu hwynebu.

Ar 2 Hydref, anfonodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei Lythyr Asesiad Gwella at Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a daeth i’r casgliad bod angen cymorth ychwanegol ar gyfer arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau yn yr Awdurdod, ac nad oedd y Cyngor wedi datblygu cynigion digonol i fynd i’r afael â’r pwysau ariannol y rhagwelir y bydd yn eu hwynebu a pherfformiad anghyson gan wasanaethau. Yng ngoleuni’r casgliadau hyn, gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol ddau argymhelliad statudol i’r Cyngor fynd i’r afael â’i drefniadau cynllunio ariannol, gwneud penderfyniadau a chraffu.

Roedd y llythyr hefyd yn argymell fy mod yn defnyddio fy mhwerau Gweinidogol (o dan Adran 28 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009) i roi cymorth tymor byr i’r Cyngor i’w helpu i unioni ei broblemau, a hynny cyn gynted â phosibl. Yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 2 Hydref, cyhoeddais fy mod yn bwriadu defnyddio’r pwerau hyn i gynnig pecyn cymorth ffurfiol i adeiladu ar y gwaith gwella y mae’r Cyngor yn ei wneud eisoes a bydd yn helpu i ymgorffori’r cynnydd sydd wedi bod hyd yn hyn.

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru a’r Cyngor i benderfynu ar y cylch gorchwyl a’r amserlen ar gyfer darparu’r cymorth. Rwy’n falch bod y Cyngor hyd yn hyn wedi cydweithredu ac ymgysylltu â ni o ran penderfynu ar fanylion y pecyn cymorth. Hyderaf y bydd hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r Cyngor adfer yn ei ffordd ei hun a’i roi ei hun mewn sefyllfa fwy cynaliadwy at y dyfodol.

Awgrymodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y dylai’r cymorth fod ar ffurf cymorth allanol â sgiliau a phrofiad addas i alluogi’r Cyngor i gymryd camau brys ac arwyddocaol yn y meysydd a nodwyd. Mae’r Cyngor hefyd wedi rhoi ei farn ar yr hyn a fyddai’n ddefnyddiol o ran mynd i’r afael â’r pryderon a nodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi llwyddo i benodi tîm o ymgynghorwyr allanol arbenigol i weithio ochr yn ochr â’r Cyngor. Bydd y tîm yn cefnogi, yn herio ac yn cynghori’r uwch-dîm rheoli ac yn canolbwyntio’n arbennig ar reoli’r gyllideb yn y tymor byr a chynllunio ariannol yn y tymor hir, ac ar reoli a chyflawni rhaglenni. Rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda’r Cyngor i roi rhaglen ar waith i fynd i’r afael â’r pryderon a gododd Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y trefniadau craffu presennol.    

Dyma’r ymgynghorwyr:

  • Syr Peter Rogers, cyn Brif Weithredwr Cyngor Dinas Westminster
  • John Shultz, cyn Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Stockport
  • John Maitland-Evans, cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Bro Morgannwg
  • Derek Davies, cyn Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae ymgynghorydd arall, Mr Carl Walters, hefyd wedi cael ei benodi fel rhan o’r tîm cymorth i ddarparu arbenigedd a sgiliau ar reoli a darparu rhaglenni ac ar reoli a gweithredu gwaith newid mawr. Mr Walters wedi cael ei darparu fel rhan o’n partneriaeth parhaus gyda Heddlu De Cymru. Mae rhai o’r ymgynghorwyr wedi gweithio gyda’r Cyngor ar faterion penodol eisoes, felly rydyn ni’n cadw eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r gwaith hwn ac yn ei gydbwyso gyda her annibynnol a gwrthrychol gan eraill nad ydynt wedi ymwneud â’r Cyngor o’r blaen. Mae’r Cyngor wedi cael ei hysbysu ac yn fodlon gyda’r ffordd rydyn ni’n bwriadu mynd ati. Rhoi cyngor yw unig ddiben yr ymgynghorwyr ac nid oes ganddynt awdurdod i wneud penderfyniadau na chymeradwyo, addasu neu rwystro penderfyniadau gan y Cyngor, ei aelodau a’i swyddogion. Nid ydynt yn cynrychioli’u cyflogwyr cyfredol na’u cyn gyflogwyr, nac unrhyw sefydliadau y maent yn gysylltiedig â nhw, neu wedi bod yn gysylltiedig â nhw, mewn unrhyw ffordd.

Mae wedi bod yn angenrheidiol i gyhoeddi’r datganiad hwn yn ystod y toriad gan y bydd  ymgynghorwyr yn cychwyn ar eu gwaith ar 4 Tachwedd a disgwylir i’r cyfnod o gymorth ddod i ben erbyn diwedd mis Ionawr 2014. Ar hyn o bryd, y gobaith yw y bydd y pecyn cymorth yn galluogi’r Cyngor i fynd i’r afael â’i heriau ariannol tymor byr ar gyfer 2013-14 a gwneud penderfyniadau ynghylch pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2014-15, ynghyd â datblygu Cynllun Newid Gweddnewidiol sengl sy’n nodi’i flaenoriaethau ar gyfer cyflawni yn y tymor canolig (hyd at dair blynedd).    

Rwyf hefyd yn sicrhau bod y pecyn cymorth rwy’n ei ddarparu yn cyd-fynd yn llwyr â chamau ymyrraeth presennol y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch y gwasanaethau addysg ym Mlaenau Gwent.