Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Ers 2011, mae rhaglenni archwilio, rheoleiddio ac arolygu yng Nghymru wedi mynegi pryderon ynghylch gwendidau yn y ffordd y caiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ei redeg ac wedi pwysleisio, oni bai bod gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r rhain, ei bod yn annhebygol y byddai’r Cyngor yn cynnal gwelliant sylweddol.
Daeth Adroddiad Gwella Blynyddol diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2013, i’r casgliad bod angen arweinyddiaeth effeithiol a rheolaeth a threfniadau cyflawni cyson ar y Cyngor er mwyn bod yn llwyddiannus a sicrhau’r gwelliannau gofynnol.
Mae gwaith asesiad gwella diweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos, ers mis Mai 2012, bod y Cyngor wedi bod yn gweithio i wneud cynnydd o ran mynd i’r afael â’r heriau sylweddol y mae wedi’u hwynebu. Roedd Llythyr Asesiad Gwella Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a anfonwyd ym mis Hydref 2013, yn datgan yn glir bod y trefniadau arwain a phenderfynu yn anghyson o hyd ac nad oedd y Cyngor wedi cyflwyno cynigion i fynd i’r afael ar ddigon o frys â’r pwysau ariannol a ragwelid a’r amrywiadau ym mherfformiad gwasanaethau.
Yng ngoleuni’r casgliadau hyn, gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ddau argymhelliad statudol i’r Cyngor fynd i’r afael â’i drefniadau ar gyfer cynllunio ariannol, gwneud penderfyniadau a chraffu.
Roedd y llythyr hefyd yn cynnwys argymhelliad i mi ddefnyddio fy mhwerau Gweinidogol (o dan Adran 28 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009) i gynnig cymorth tymor byr i’r Cyngor er mwyn iddo unioni’i broblemau, cyn gynted â phosibl, gan nad oedd gan y Cyngor y gallu i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â nhw. Awgrymodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y dylid rhoi’r cymorth ar ffurf cymorth allanol â sgiliau a phrofiad addas i alluogi’r Cyngor i gymryd camau buan ac arwyddocaol yn y meysydd dan sylw.
Roeddwn i hefyd yn falch o weld ymrwymiad Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i fynd i’r afael ag anawsterau’r Cyngor drwy wneud cais ffurfiol am gymorth ym mis Hydref 2013 i helpu i ymdrin â’r anawsterau ariannol uniongyrchol a’r heriau ehangach yr oedd yn eu hwynebu.
Hysbysais yr aelodau ddiwedd mis Hydref 2013 fy mod yn bwriadu defnyddio fy mhwerau o dan Adran 28 y Mesur i roi pecyn cymorth ffurfiol i’r Cyngor. Llwyddwyd i gael arbenigedd tîm o ymgynghorwyr allanol i weithio gyda’r Cyngor, gan gefnogi, herio a chynghori’r uwch dîm rheoli, a chanolbwyntio ar feysydd rheoli’r gyllideb yn y byrdymor a chynllunio ariannol yn yr hirdymor, ynghylch â rheoli a chyflwyno rhaglenni. Mae fy swyddogion hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor a’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus i drefnu rhaglen i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y trefniadau craffu presennol.
Dyma’r ymgynghorwyr:
- Sir Peter Rogers (prif ymgynghorydd), cyn Brif Weithredwr Cyngor Dinas Westminster
- John Shultz, cyn Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Stockport
- John Maitland-Evans, cyn Brif Weithredwr Cyngor Bro Morgannwg
- Derek Davies, cyn Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Carl Walters, Heddlu De Cymru
Dechreuodd yr ymgynghorwyr ar eu gwaith ar 4 Tachwedd 2013 gyda’r disgwyliad o gwblhau’r cyfnod cymorth erbyn diwedd mis Ionawr 2014. Y gobaith oedd y byddai’r cymorth yn galluogi’r Cyngor i fynd i’r afael â’i heriau ariannol byrdymor ar gyfer 2013-14 a phennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2014-15, a datblygu Cynllun Newid Trawsnewidiol sengl yn pennu ei flaenoriaethau ar gyfer cyflawni yn y tymor canolig (hyd at dair blynedd). Rôl gwbl ymgynghorol oedd gan yr Ymgynghorwyr ac nid oedd ganddynt unrhyw awdurdod i wneud penderfyniadau na chymeradwyo, diwygio nac atal penderfyniadau gan y Cyngor, ei aelodau a’i swyddogion. Nid oeddent yn cynrychioli eu cyflogwyr presennol na’u cyn gyflogwyr, nac unrhyw sefydliadau eraill y maent yn gysylltiedig â nhw neu wedi bod yn gysylltiedig â nhw, mewn unrhyw ffordd.
Mae’r pecyn cymorth a ddarparwyd hefyd wedi cael ei alinio’n llawn â’r ymyrraeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch gwasanaethau addysg ym Mlaenau Gwent, gan fod John Maitland Evans yn aelod o’r Bwrdd Adfer Addysg sydd newydd ei sefydlu ar gyfer Blaenau Gwent.
Cefais ddau gyfarfod gyda’r tîm ymgynghorwyr allanol ac arweinwyr y Cyngor yn ystod y broses i weld sut roedd y Cyngor yn ymgysylltu â’r cymorth a ddarparwyd a pha gynnydd oedd wedi bod yn erbyn y meysydd gwelliant y cytunwyd arnynt. Rwy’n falch o nodi bod llawer o gynnydd wedi digwydd. Yn arbennig, bellach mae trefniant darparu cadarn wedi’i sefydlu ar gyfer 2013-14 ac o ganlyniad nid oes galw ychwanegol am falansau i ariannu gwariant yn y flwyddyn, ac nid oes angen yr holl gronfeydd wrth gefn ar y Cyngor i fantoli’r gyllideb. Hefyd mae cynlluniau cryf ar waith i sicrhau arbedion sylweddol o oddeutu £10 miliwn yn 2014-15. Mae gwaith yr ymgynghorwyr wedi helpu’n sylweddol i lunio cynlluniau busnes holistaidd sy’n cysylltu newidiadau personél, cyllid a thrawsnewid.
O ystyried maint y newidiadau a’r cyfnod byr a gafodd y Cyngor i ddatblygu’r prosesau newydd hyn, mae rhywfaint o’r gwaith hwn yn mynd rhagddo o hyd. Ni ddylid dehongli hyn fel diffyg cynnydd yn y Cyngor na diffyg ewyllys i wneud y newidiadau hyn. Mae etheg gwaith ac ymroddiad y Cyngor o ran gwella’u prosesau a pharodrwydd yr arweinwyr gwleidyddol i wneud penderfyniadau anodd i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol wedi cael argraff fawr ar fy ymgynghorwyr. Felly, er mwyn gwneud newidiadau effeithiol, rwy’n credu bod angen parhau i roi cymorth i’r Cyngor am gyfnod byr i ddatblygu ac integreiddio meysydd gwaith penodol ymhellach i greu cynllun busnes a fframwaith perfformiad cyflawn at y dyfodol. Byddai’r cymorth hwn yn sicrhau bod pob cynllun prosiect yn gadarn ac yn addas at y diben; gan integreiddio’r amryw gynlluniau mewn rhaglen gydgysylltiedig a phenderfynu’n derfynol ar eu Model Rheoli ac Adrodd Perfformiad i roi sicrwydd i randdeiliaid mewnol ac allanol bod y cynlluniau arbedion ar gyfer 2014-15 yn mynd rhagddynt heb beryglu safonau gwasanaethau.
I grynhoi, mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol, a chyda phecyn cymorth pellach a fydd yn llawer llai na’r pecyn cymorth gwreiddiol, rwy’n hyderus y bydd gan y Cyngor y trefniadau, y systemau a’r prosesau angenrheidiol i gyflawni’n effeithiol y blaenoriaethau strategol a amlinellir yng Nghynllun Trawsnewid Blaenau Gwent, gan gynnwys yr arbedion cyllideb a ragwelir ar gyfer 2014-15. Bydd y cymorth diwygiedig yn cael ei roi gan dri ymgynghorydd, sef John Maitland Evans, Derek Davies a Carl Walters. Rhagwelir y bydd y cymorth hwn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2014, gyda’r ymgynghorwyr yn gwneud peth gwaith monitro ym mis Gorffennaf a mis Hydref i weld a yw’r gwaith cyflawni wedi bod yn llwyddiannus yn hanner cyntaf 2014-15.