Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 23 Medi, cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU strategaeth ddiwygiedig a oedd yn nodi’r argymhellion ar gyfer brechu mewn perthynas ag achosion o frech y mwncïod.
https://www.gov.uk/government/news/second-vaccine-doses-to-be-offered-to-those-at-highest-risk-from-monkeypox (Saesneg yn unig)
Ymgynghorwyd â’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynglŷn â blaenoriaethu dos y brechlyn, ac mae’r Cyd-bwyllgor wedi cymeradwyo’r strategaeth. Prif nod y strategaeth frechu yw torri ar draws trosglwyddiadau, gan ddod â’r achosion o frech y mwncïod o dan reolaeth.
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn argymell blaenoriaethu rhoi dau ddos o’r brechlyn i’r grŵp risg uchaf, yn hytrach nag ehangu nifer y bobl sy’n gymwys i gael eu brechu, gan roi un dos iddynt. Y gred oedd y byddai cynnig ail ddos i aelodau’r grŵp risg uchel cymwys presennol yn cwblhau eu cwrs sylfaenol, gan sicrhau bod eu diogelwch uniongyrchol ac anuniongyrchol mor effeithiol â phosibl drwy eu rhan mewn atal trosglwyddiadau heddiw ac yn y dyfodol. O safbwynt gweithredu, gallai hynny fod yn fwy ymarferol gan ei bod yn haws adnabod aelodau o’r grŵp. Drwy weithredu felly, gan ddilyn y cyngor cynharach i ddefnyddio dosau ffracsiynol i frechu tan haen uchaf y croen, mae’n debygol y bydd rhai dosau’n parhau ar gael i'w defnyddio pan fydd achosion y codi. Mae’r cyngor hefyd yn cydnabod y gallai fod yn rhesymol cynnig y brechlyn yn ehangach i’r rheini yr ystyrir eu bod mewn perygl canolig o ddod i gysylltiad â’r feirws, a hynny ar ôl cwblhau’r strategaeth sy’n cynnig dau ddos, er mwyn codi lefel y gallu i atal trosglwyddo pellach.
Rwy’n fodlon derbyn y cyngor hwn, a bydd GIG Cymru yn dechrau gweithredu’r strategaeth yn unol â’r argymhellion hyn cyn gynted â phosibl. Fe gynghorir pobl i beidio â chysylltu i ofyn am gael y brechlyn, ond yn hytrach i aros nes cael eu gwahodd.
Gofynnir i bawb fod yn ymwybodol o symptomau brech y mwncïod, ond mae’n benodol bwysig bod dynion hoyw a deurywiol, a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion, yn parhau’n wyliadwrus. Dylai pobl gymryd sylw o unrhyw frech neu friwiau ar unrhyw ran o’u corff, yn enwedig eu horganau cenhedlu. Dylent ffonio 111 y GIG neu gysylltu â gwasanaeth iechyd rhywiol os oes ganddynt unrhyw bryderon.
Unwaith yn rhagor, rydym am roi sicrwydd i ddynion hoyw a deurywiol, a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion, fod eu buddiannau yn flaenoriaeth inni. Rydym yn awyddus i osgoi sefyllfa lle mae stigma, neu ofnau ynghylch stigma, yn atal unigolion rhag defnyddio gwasanaethau gofal iechyd neu ofyn am gymorth. Mae’n bwysig nad ydym yn caniatáu sefyllfa lle mae stigma neu gamwybodaeth yn gwneud mwy o niwed na’r feirws ei hunan.
Rwy’n hynod ddiolchgar i’r GIG a phawb sy’n rhan o’r ymateb i frech y mwncïod, a’r rheini sy’n cefnogi’r holl raglenni brechu, am eu gwaith caled a diflino.