Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe, cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU strategaeth wedi’i diweddaru yn nodi argymhellion ar frechu mewn ymateb i’r brigiad o achosion o frech y mwncïod. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cefnogi’r strategaeth, ac ymgynghorwyd â’r JCVI ar y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y brechlyn. Prif nod y strategaeth frechu hon yw atal y clefyd rhag cael ei drosglwyddo a dod â'r achosion o frech y mwncïod dan reolaeth.

Er bod unrhyw un yn gallu dal brech y mwncïod, mae data o’r brigiad diweddaraf o achosion yn dangos lefelau trosglwyddo uwch o fewn rhwydweithiau rhywiol dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion, er nad ydynt wedi’u cyfyngu i’r rhwydweithiau hyn.

Nid yw’r feirws yn cael ei ddiffinio ar hyn o bryd fel haint a drosglwyddir yn rhywiol, ond gellir ei ledaenu drwy gyswllt agos a phersonol fel sy’n digwydd yn ystod rhyw.

Mae'r strategaeth yn argymell defnyddio’r brechlyn Imvanex yn rhan o strategaeth frechu adweithiol i dargedu’r bobl hynny sy’n wynebu risg uwch o ddod i gysylltiad â’r clefyd. Maent wedi argymell rhaglen frechu cyn-gysylltiol ar gyfer y grwpiau canlynol:

  • Dynion hoyw, deurywiol, neu ddynion sy'n cael rhyw gyda dynion sydd â nifer fawr o gysylltiadau
  • Rhai gweithwyr gofal iechyd sy’n wynebu risg o ddod i gysylltiad â’r clefyd, gan rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd rhywiol ac mewn unedau ar gyfer clefydau heintus (HCID) sydd â chanlyniadau pellgyrhaeddol

Ceir hefyd elfen gyfyngedig i’r rhaglen i frechu pobl ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â’r feirws, megis pobl sy’n byw ar yr un aelwyd neu sy’n bartneriaid rhywiol i achosion a gadarnhawyd, yn ddelfrydol ymhen 4 diwrnod i’r adeg y maent yn dod i gysylltiad â’r clefyd. Ond mae’r cyfnod hwnnw’n cael ei estyn i hyd at 14 diwrnod i’r rheini sy’n wynebu risg barhaus neu sy’n wynebu risg uwch o gymhlethdodau yn sgil brech y mwncïod.

Byddai a ydy’r unigolyn yn gymwys neu beidio yn dibynnu ar nifer o ffactorau, ond byddai’n debyg i’r meini prawf a ddefnyddir i asesu’r rheini sy’n gymwys ar gyfer proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) HIV – ond nid yw statws HIV yr unigolyn yn berthnasol. Mae’r strategaeth yn nodi y gall clinigwr gynghori bod rhywun yn cael ei frechu sydd, er enghraifft, â mwy nag un partner, yn cymryd rhan mewn sesiynau rhyw mewn grŵp neu’n mynd i leoliadau ‘rhyw ar yr eiddo’.

Bydd GIG Cymru yn mynd ati cyn gynted â phosibl i ddechrau rhoi’r strategaeth hon ar waith yn unol â’r argymhellion hyn. Cynghorir pobl i beidio â gofyn am y brechlyn tan i rywun gysylltu â nhw. 

Mae 8 achos o frech y mwncïod wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd at 22 Mehefin ond mae’n ymddangos yn debygol iawn y bydd y clefyd yn cael ei drosglwyddo’n fwy yn y gymuned, ac rydym yn rhagweld rhagor o achosion.

Mae’r risg i ddynion hoyw, deurywiol a dynion sy’n cael rhyw gyda dynion a’r boblogaeth yn gyffredinol yn fach iawn ar y cyfan, felly nid yw brechu torfol yn cael ei argymell ar hyn o bryd. Nid yw brech y mwncïod yn lledaenu'n hawdd rhwng pobl ac fel arfer, mae’n cael ei throsglwyddo drwy ddod i gysylltiad agos â phobl sydd â’r clefyd. Mae'r salwch yn un hunan-gyfyngol fel arfer ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella ymhen nifer o wythnosau.

Gofynnir i bawb fod yn ymwybodol o symptomau brech y mwncïod, ond mae’n arbennig o bwysig bod dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion yn wyliadwrus iawn. Dylai pobl fod yn effro i unrhyw frech neu friw anarferol ar unrhyw ran o'u corff, yn enwedig eu horganau cenhedlu. Dylent gysylltu â NHS 111 neu wasanaeth iechyd rhywiol os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Rydym hefyd wedi diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 i wneud brech y mwncïod yn glefyd hysbysadwy. Bydd hyn yn gorfodi gweithwyr meddygol i hysbysu’r awdurdod lleol perthnasol o unrhyw achos a amheuir neu achos a gadarnheir o frech y mwncïod. Yn ogystal, bydd yn rhaid i labordai diagnostig adrodd os ydynt wedi nodi feirws brech y mwncïod fel cyfrwng achosol.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r GIG ac i bawb sy'n gysylltiedig â'r gwaith o ymateb i frech y mwncïod a’r holl raglenni brechu am y gwaith caled y maent yn parhau i’w wneud.