Jane Hutt, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Rwy’n gwneud y datganiad hwn yn dilyn ymrwymiad a wnaed yn ystod Cwestiynau Busnes y Cynulliad ar 26 Tachwedd 2019.
Rwy’n deall gan wasanaethau cynghori ledled Cymru fod nifer y bobl sy’n dod atynt am gyngor a chymorth yn ymwneud â dyledion yn cynyddu. Mae hyn yn aml oherwydd y newidiadau i’r system budd-daliadau lles, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, yn ogystal â phwysau costau byw. Mae’r ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan StepChange yn eu hadroddiad ‘Cymru yn y Coch’ yn dangos maint y problemau dyledion yma yng Nghymru, ac yn rhoi ffigurau sy’n cefnogi’r adborth sy’n cael ei roi gan wasanaethau cynghori’r rheng flaen. Er enghraifft, mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod dros 193,000 o bobl yng Nghymru mewn dyled ddifrifol, a bod oddeutu 412,000 o bobl ychwanegol (tua 16% o boblogaeth Cymru) yn dangos arwyddion o anawsterau ariannol.
Mae cryn dipyn o ymchwil hefyd yn dangos bod pobl sy'n byw gyda dyledion yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn gallu cael gafael ar y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddatrys eu problemau ariannol a gwella eu hiechyd a'u lles.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ers tro i ddarparu cyllid grant ar gyfer gwasanaethau cynghori ac rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth. Y llynedd, drwy gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cynghori, cefnogwyd tua 90,000 o bobl gyda'u materion lles cymdeithasol. Cafodd bron i 16,500 o'r cleientiaid hyn gyngor a chymorth arbenigol ar eu dyledion.
Bydd yr hinsawdd economaidd ansicr sydd o'n blaen, ynghyd â'r broses barhaus o weithredu rhaglen diwygio lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cynyddu'r galw ar wasanaethau cynghori ledled Cymru. Bydd cyflwyno'r Gronfa Gynghori Sengl newydd yn helpu i leddfu rhywfaint o'r galw cynyddol hwn drwy sicrhau bod gennym ddarparwyr o ansawdd sy'n darparu gwasanaethau cydgysylltiedig, sy'n rhoi’r atebion mwyaf cynaliadwy i'r rheini y mae angen cyngor arnynt. Mae cyllid grant wedi'i ddyfarnu i ddarparwyr sydd wedi datblygu modelau darparu arloesol a chydweithredol sy'n cynnwys 'Partneriaid Cyngor’ a ' Phartneriaid Mynediad'. Rôl y Partner Mynediad yw sicrhau bod gwasanaethau'n treiddio i gymunedau, gan gyrraedd gymaint â phosibl o’r bobl hynny sy'n tueddu i beidio ag ymweld â lleoliadau traddodiadol y gwasanaethau cynghori, neu nad ydynt yn chwilio am gymorth nes bod problem wedi troi yn argyfwng. Bydd llawer o bobl sy'n cael trafferth rheoli eu hymrwymiadau ariannol yn cael y cyngor sydd ei angen arnynt cyn i’w problemau fynd y tu hwnt i reolaeth. Byddant hefyd yn cael cynnig cymorth cofleidiol i’w helpu i fynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd eu problemau ariannol a dod yn fwy abl i'w hatal rhag digwydd eto. Er bod y Gronfa Cynghori Sengl yn darparu model mwy arloesol a chydweithredol na’r un blaenorol, ni fydd yn gallu cyrraedd pawb sy'n wynebu argyfwng ariannol. Mae rhagor o waith i'w wneud, ac mae’r cydweithio parhaus gyda'n rhanddeiliaid allweddol yn rhywbeth i’w groesawu wrth inni geisio darparu gwasanaethau cynghori mwy effeithlon ac effeithiol.
Mae'n bwysig iawn bod pobl yn gallu cael y cyngor rhad ac am ddim y mae arnynt ei angen ar ddyledion drwy amrywiaeth o sianeli. Er y bydd y gwasanaethau cyngor ar ddyledion yn y gymuned yn cael eu darparu'n bennaf 'wyneb yn wyneb', mae yna bobl a fyddai, am nifer o resymau, yn dymuno cael cyngor drwy ddulliau eraill. Felly, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud cyfraniadau ariannol i wasanaethau cyngor ar ddyledion a ddarperir dros y ffôn ac ar y we, gan gynnwys y rhai a ddarperir gan yr elusen dyledion StepChange.
Rwyf hefyd yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu cynllun seibiant o ddyledion, sy'n cynnwys dwy ran wahanol sy’n perthyn i’w gilydd - y cynllun Breathing Space a'r cynllun ad-dalu dyledion statudol. Pan gânt eu gweithredu bydd y ddau gynllun yn cynnig amddiffyniadau cyfreithiol rhag camau gan gredydwyr i bobl yng Nghymru sy'n wynebu problemau dyled. Bydd hyn yn golygu rhewi llog, taliadau a ffioedd eraill sy’n cael eu hychwanegu at eu dyledion. Bydd hyn yn rhoi amser i bobl gael cyngor ar ddyledion a dechrau cymryd rheolaeth dros eu harian a'u rhoi ar sail fwy cynaliadwy.
Mae ein hymrwymiad i hyrwyddo cynhwysiant ariannol i bobl yng Nghymru wedi’i adlewyrchu yn y cyllid o £10.7 miliwn sy’n cael ei ddarparu gennym ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol a'r undebau credyd. I rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, mae'r gwasanaethau hyn yn lleihau eu dibyniaeth ar wasanaethau credyd llog uchel ac yn cynyddu eu mynediad i wasanaethau ariannol mwy priodol a fforddiadwy. Rwy'n hynod gefnogol i undebau credyd ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ganddynt ledled Cymru i ddarparu mynediad i gynilion a chredyd fforddiadwy, sy’n lliniaru’r cynnydd yn y dyledion na ellir eu rheoli. Mae undebau credyd yn ddewis cyfrifol a moesegol yn lle benthycwyr diwrnod cyflog, sy’n cynnig cynilion a benthyciadau fforddiadwy i bob aelod o'r gymuned. Ers mis Mawrth 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na £1 miliwn o gyllid i undebau credyd yng Nghymru ar gyfer prosiectau i hybu cynhwysiant ariannol, gallu ariannol a lles ariannol. Nod y prosiectau hyn yw cynyddu aelodaeth undebau credyd, gan gynnwys gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i gynnig cynlluniau cynilo cyflogres i gefnogi lles ariannol staff. Rwyf yn gefnogwr mawr o gynilo gydag undeb credyd i sicrhau cynilion wrth gefn, pa mor fach bynnag yw’r swm, ac yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn troi at undebau credyd yn hytrach na chael credyd na allant ei fforddio.