Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rhian Bowen-Davies, Cynghorydd Cenedlaethol Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, ffurfiau eraill ar Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cadarnhau y bydd yn camu lawr o'r swydd yn yr Hydref, wedi dwy flynedd yn y rôl.

Roedd penodi Rhian yn garreg filltir hollbwysig yn ein hymrwymiad i sicrhau gwelliannau i'r ffordd y caiff gwasanaethau i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol eu cynllunio, eu comisiynu a’u darparu. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi i'r swydd hon ac roedd yn un o gyflawniadau cyntaf Deddf Trais yn erbyn Menywod, Trais Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Wrth roi gwybod i mi am ei bwriad i gamu lawr, dywedodd Rhian iddi deimlo y bu'n fraint iddi weithredu fel Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru. Mae wedi gweithio'n hynod galed i arwain, i gynyddu cydweithredu ac i hwyluso newid parhaol. Mae Rhian yn ddiolchgar iawn i'r goroeswyr hynny sydd wedi rhannu eu profiadau a llywio ei gwaith ac i'r rhanddeiliad hynny sydd wedi ei chefnogi yn y rôl.

Mae Rhian hefyd wedi mynegi ei barn fod Cymru yn parhau i arwain y ffordd yn rhyngwladol yn ei hymdrech i wella'r ymateb i bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae Rhian wedi chwarae rôl ganolog yn y llwyddiannau hyn ers i'r Ddeddf gael ei phasio.

Mae Rhian nawr yn edrych ymlaen at roi ei phrofiad o'r rôl hon ar waith mewn cyfleoedd a heriau newydd.

Byddaf yn cadarnhau trefniadau penodi Cynghorydd newydd i'r rôl bwysig hon yn fuan ond am y tro, hoffwn ddiolch i Rhian am ei chyngor gwerthfawr sydd wedi cyfrannu at gyflawni agweddau ar yr agenda heriol a phwysig hon; a hoffwn hefyd ddymuno'n dda iddi at y dyfodol.