Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Mae'n bleser gennyf nodi cyhoeddiad yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 a luniwyd gan Yasmin Khan a Johanna Robinson, y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae'r adroddiad yn bodloni un o ofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Mae'r adroddiad yn disgrifio cynnydd y Cynghorwyr Cenedlaethol yn erbyn yr amcanion a bennwyd ganddynt yn eu Cynllun Blynyddol ar gyfer 2022-23 ac yn crynhoi'r sefyllfa hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023. Mae'n cydnabod tymor 6 mis olaf Nazir Afzal ac Yasmin Khan fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a thymor 6 mis cyntaf Johanna Robinson yn ymgymryd â'r rôl ochr yn ochr â Yasmin Khan wrth inni ddechrau'r tymor 3 blynedd newydd.
Mae eu cefnogaeth yn hanfodol o ran ein helpu ni i gyflawni 6 amcan y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022-2026, gan gynnwys gweithredu a chyflawni'r ffrydiau gwaith glasbrint, a'r gwaith parhaus tuag at gyflawni ein hymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.
Mae Yasmin a Johanna yn meddu ar gyfoeth amhrisiadwy o wybodaeth, arbenigedd ac arweinyddiaeth i sbarduno newid i ddioddefwyr, goroeswyr a'r sector arbenigol. Maent yn darparu cyfeiriad a sefydlogrwydd ar adeg lle mae trais yn erbyn menywod a merched yn flaenllaw ym meddyliau'r cyhoedd.
Hoffwn ddiolch iddynt am eu hangerdd a'u hegni wrth gydweithio yn y rôl Cynghorydd Cenedlaethol, ac am y cymorth parhaus y maent wedi'i roi i fy swyddogion a minnau drwy gydol y cyfnod adrodd.
Gellir gweld yr adroddiad yma: Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: Adroddiad blynyddol y Cynghorwyr Cenedlaethol 2022 i 2023