Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf nodi cyhoeddiad Adroddiad Blynyddol 2020-21 a luniwyd gan Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE, y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.  Mae hyn hefyd yn bodloni un o ofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Mae'r adroddiad yn disgrifio'r cynnydd a wnaed gan y Cynghorwyr Cenedlaethol wrth gyflawni'r amcanion a bennwyd ganddynt yn eu cynllun blynyddol ar gyfer 2020-21. Mae hefyd yn cynnig asesiad o gyflawniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae'n cydnabod y camau pwysig rydym wedi'u cymryd yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr wedi cael eu hamddiffyn a'u cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Yng ngoleuni hyn, rwyf wedi cytuno i gyfnodau'r Cynghorwyr Cenedlaethol presennol yn y swydd gael eu hymestyn tan fis Gorffennaf 2022. Bydd hyn yn ein galluogi i roi sefydlogrwydd y mae ei angen yn fawr i'n rhanddeiliaid a defnyddwyr eu gwasanaethau wrth inni symud allan o'r pandemig.

Hoffwn ddiolch i'r Cynghorwyr Cenedlaethol am yr arbenigedd amhrisiadwy y maent yn ei ddarparu a'r cymorth parhaus y maent wedi'i roi i mi a'm swyddogion drwy gydol y cyfnod adrodd hwn. 

Gellir gweld yr adroddiad yma:

https://llyw.cymru/trais-yn-erbyn-menywod-cam-drin-domestig-thrais-rhywiol-adroddiad-blynyddol-y-cynghorwyr-cenedlaethol-2020-2021