Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf nodi cyhoeddiad Adroddiad Blynyddol  2019-20 a luniwyd gan Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE, y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae hyn hefyd yn bodloni un o ofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Mae'r adroddiad yn disgrifio'r cynnydd a wnaed gan y Cynghorwyr Cenedlaethol wrth gyflawni'r amcanion heriol a bennwyd ganddynt yn eu cynllun blynyddol ar gyfer 2019-20. Mae hefyd yn cynnig gwerthusiad o gyflawniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn. Rwy'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod y camau breision parhaus a gymerwyd gennym ac yn ddiolchgar iddynt am yr arbenigedd a'r egni y maent yn eu cyflwyno i'w rôl, ac am y cymorth parhaus y maent wedi'i roi i mi a'm swyddogion drwy gydol y cyfnod adrodd.

Gellir gweld yr adroddiad yma:

https://llyw.cymru/trais-yn-erbyn-menywod-cam-drin-domestig-thrais-rhywiol-adroddiad-blynyddol-y-cynghorwyr-cenedlaethol-2019-202