Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cynghorwyr Arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol.

Fe’u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a’r blaid sy’n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai’n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan.

Roedd 17 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o flwyddyn ariannol 2021/22, sy’n cyfateb i 11 o Gynghorwyr Arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir isod:

 

Alex Bevan

Madeleine Brindley

Steffan Bryn (penodwyd ar 17/01/22)

Daniel Butler ** 

Ian Butler **

David Davies † (penodwyd ar 08/09/21)

Kate Edmunds

Sara Faye

Clare Jenkins *

Owen John (penodwyd ar 25/10/21)

Andrew Johnson

Colin Nosworthy ** (penodwyd ar 14/02/22)

Andy Pithouse ** (diwrnod gwasanaeth olaf 06/05/21)

Jane Runeckles *

Mitchell Theaker

Gareth Williams ** (diwrnod gwasanaeth olaf 05/05/21)

Tom Woodward

* Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig

** Rhan-amser

† Cynghorydd Arbennig ar alwad, a delir â ffi

Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 yn £1,018,341. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiwn.

At hynny, oherwydd etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021, cafodd contractau pob Cynghorydd Arbennig eu dirwyn i ben a gwnaed taliadau diswyddo o £227,407 yn unol â thelerau’r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Caiff taliadau diswyddo eu hadennill oddi wrth Gynghorwyr Arbennig a ailbenodir gan y Prif Weinidog ar ôl yr etholiad, yn unol â thelerau’r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig

Caiff Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru eu penodi yn unol â band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol neu fand cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig, a nodir isod:

Band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol: £52,875 - £69,326

Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig : £71,000 - £78,460

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.