Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynghorwyr arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i'r cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol.

Fe'u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a'r blaid sy'n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai'n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent yn adnodd arall i'r Gweinidog ac yn rhoi cefnogaeth a ddaw o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i'r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i Weinidog.

Roedd 15 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o'r flwyddyn ariannol 2019/20, sy'n cyfateb i 10 cynghorydd arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir isod:

 

Cynghorydd Arbennig                                     

Band Cyflog

Clare Jenkins †

PB3

Jane Runeckles

PB3

Gareth Williams *

PB3

Madeleine Brindley

PB2

Andrew Johnson

PB2

Tom Woodward

PB2

Alex Bevan (dechreuodd ar 07/05/19)

PB1

Daniel Butler ** 

PB1

Ian Butler ** (dechreuodd ar 23/3/20)

PB1

David Davies ** (gadawodd ar 31/3/20)

PB1

Kate Edmunds (dechreuodd ar 30/3/20)

PB1

Sara Faye ** (dechreuodd ar 04/06/19)

PB1

Paul Griffiths **

PB1

Andy Pithouse ** (dechreuodd ar 23/3/20)

PB1

Mitchell Theaker ** (dechreuodd ar 10/06/19)

PB1

 

† Secondai.

* Rhan-amser hyd at 15/03/20. Amser llawn o 16/03/20.

**  Rhan-amser

Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 yn £835,840.38. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogeion.

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig

Roedd y bandiau cyflogau ac ystod cyflogau ar gyfer Cynghorwyr Arbennig yn 2019-20 fel a ganlyn:

PB1 - £40,500 - £60,500

PB2 - £57,000 - £78,000

PB3 - £73,000 - £102,000

PB4 - £96,000 - £145,000

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.