Carwyn Jones, First Minister
Mae Cynghorwyr Arbennig yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i Gweinidogion. Ar yr un pryd maent yn atgyfnerthu amhleidioldeb gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol trwy fod yn ffynhonnell ar wahân o gyngor a chymorth gwleidyddol.
Maent yn cael eu penodi gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion ar faterion lle mae gwaith y Llywodraeth a gwaith Plaid y Llywodraeth yn gorgyffwrdd a lle y byddai'n amhriodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent hefyd yn adnodd ychwanegol ar gyfer Gweinidogion gan ddarparu cymorth o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i’r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i Gweinidog.
Roedd 13 o Gynghorwyr Arbennig yn eu swyddi am y cyfan neu ran o'r flwyddyn ariannol 2016/17, fel y nodir yn y tabl isod
Cynghorydd Arbennig | Band Cyflog |
Andrew Bold | 2 (diwrnod olaf o wasanaeth 6/5/16) |
Madeleine Brindley | 2 |
David Costa | 1 |
Matt Greenough | 2 |
Andrew Johnson | 2 |
Jo Kiernan | 2 (diwrnod olaf o wasanaeth 6/5/16) |
Andrew Pithouse** | 2 (diwrnod olaf o wasanaeth 4/5/16) |
Alex Rawlin | 1 |
Kate Edmunds* | 1 (diwrnod olaf o wasanaeth 15/1/17) |
Jane Runeckles *** | 2 |
Huw Price | 1 |
Thomas Woodward | 1 |
Gareth Williams *** | 1 |
* ar secondiad
** ar secondiad ac yn rhan-amser
*** rhan-amser
Cyfanswm y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 oedd £592,616. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogwyr. Hefyd gwnaed taliadau diswyddo o £127,661 a oedd yn gysylltiedig â'r etholiad ym mis Mai 2016 a'r Prif Weinidog yn penodi Cabinet newydd.
Bandiau cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2016-17
Roedd bandiau cyflog ac ystodau cyflog cynghorwyr arbennig ar gyfer 2016-17 fel a ganlyn:
Band Cyflog 1 | £40,352 – £54,121 |
Band Cyflog 2 | £52,215 – £69,266
|
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.