Leighton Andrews, Gweinidog dros Addysg a Sgiliau
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 5 Rhagfyr, cadarnheais fod y Dirprwy Weinidog Sgiliau a minnau wedi derbyn Argymhelliad 5 adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau, sef y dylid cryfhau'r prosesau ar gyfer rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru ac y dylai fod yn rhywbeth a wneir yn annibynnol ar y llywodraeth. Cyhoeddais ein bod am fynd ati i sefydlu corff newydd, "Cymwysterau Cymru", i reoleiddio a sicrhau ansawdd pob cymhwyster, ac eithrio ar lefel gradd, yng Nghymru. Heddiw rwyf am ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf.
Ar 28 Tachwedd, rhoddodd Huw Evans a'i Fwrdd annibynnol adroddiad i'r Dirprwy Weinidog Sgiliau ar yr Adolygiad o Gymwysterau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r 41 o argymhellion eraill mis diwethaf.
Mae ymateb rhanddeiliaid i adroddiad y Bwrdd a'i argymhellion wedi bod yn gadarnhaol. A chithau, bellach, wedi cael cyfle i ystyried yr adroddiad, rwy'n siŵr y cytunwch ei fod yn disgrifio llwybr i gymwysterau yng Nghymru a allai fod yn gyffrous iawn. Os awn i'r cyfeiriad y mae Huw Evans a'i Fwrdd yn ei argymell, bydd goblygiadau sylweddol i bawb yng Nghymru. Daw cyfleoedd cyffrous yn sgil y gwaith sydd o'n blaenau, er gwaethaf yr heriau i'w goresgyn. Ond mae'n hanfodol, wrth wneud unrhyw newidiadau, ein bod yn gwneud y peth iawn - hanfodol i fusnesau yng Nghymru, hanfodol i addysgwyr yng Nghymru a hanfodol i ddysgwyr yng Nghymru.
Mae ein system bresennol o reoleiddio a chyflenwi cymwysterau wedi'i chynllunio gyda'r bwriad o weithio ochr yn ochr â Gogledd Iwerddon a Lloegr, a chymwysterau y mae Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn eu harddel. Er ein bod am barhau i weithio yng nghyd-destun tair gwlad lle bo hynny'n briodol, mae'n ffaith bod y trefniadau a'r strwythurau cyfredol yn mynd yn gynyddol anodd eu cynnal, yn enwedig yn achos 'cymwysterau cyffredinol' - TGAU a Safon Uwch.
Mae cyhoeddiadau unochrog o San Steffan am y cymwysterau rydym yn eu rhannu yn tanseilio trefniadau'r tair gwlad. Yn naturiol, mae Ofqual, sy'n rheoleiddio cymwysterau yn Lloegr, yn gorfod cydymffurfio â'r agenda a bennir gan San Steffan. Nid oes yn rhaid i ni.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod mor bwysig yw sicrhau bod ein cymwysterau yn gludadwy, a byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid mewn gwledydd eraill i sicrhau bod ein cymwysterau ni yn cael eu cydnabod, ac yn berthnasol, yn y gwledydd eraill hynny. Ond weithiau byddwn yn gweld pethau'n wahanol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn Lloegr. Yn yr achosion hyn, gwnawn fel rydym wedi gwneud bob amser. Rhown anghenion Cymru a buddiannau dysgwyr Cymru yn gyntaf.
Mae Huw Evans a'i dîm wedi bod yn ofalus i roi lle blaenllaw i anghenion Cymru a dysgwyr Cymru yn eu hadroddiad a'u hargymhellion. Maent wedi bod yn gynhwysol a rhoi sylw i'r dystiolaeth - rhywbeth sydd wedi denu cymeradwyaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyn oll yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod yr adroddiad wedi cael derbyniad cystal. Mae argymhellion y Bwrdd yn deillio o sylfaen dystiolaeth eang, gan dynnu ar eu profiad a'u harbenigedd eang eu hunain, cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid, ymgynghoriad llawn a'r Adolygiad o Strwythur y Farchnad Cymwysterau Cyffredinol yng Nghymru, sef testun yr adroddiad a gyflwynwyd i mi ym mis Mai 2012.
Ond beth bynnag am ba argymhellion yn yr Adolygiad o Gymwysterau rydym am eu derbyn, mae'n glir bod ein cymwysterau ni eisoes yn dilyn cwys wahanol i Loegr. Nawr felly yw'r amser i adolygu a chryfhau ein trefniadau rheoleiddio a chyflenwi.
Dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ein bod am astudio ac yn dysgu o'r model sydd wedi bod ar waith yn yr Alban ers rhai blynyddoedd ac sydd wedi ennill enw da am ei drylwyredd a'i ansawdd. I'r perwyl hwnnw, ymwelais â'r Alban ychydig cyn y Nadolig, lle cefais gyfarfod gyda Graham Houston, Cadeirydd Awdurdod Cymwysterau'r Alban (SQA); Janet Brown, y Prif Weithredwr; a Michael Russell MSP, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes yr Alban. Roedd y cyfarfodydd yn gynhyrchiol a rhoesant gipolwg gwerthfawr imi am sut mae'r system gymwysterau yn gweithio yn yr Alban.
Cefais gyfarfod hefyd gyda John McCormick, a fu'n Gadeirydd SQA am bedair blynedd, o 2004 i 2008. SQA a ymgymerodd â swyddogaethau Bwrdd Arholi'r Alban a Chyngor Addysg Alwedigaethol yr Alban ym 1997. Roedd hwn yn gyfarfod gwerthfawr arall. Mae profiad John McCormick o oruchwylio'r sefydliad hwnnw yn berthnasol iawn i'r gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth sefydlu Cymwysterau Cymru.
Mae fy swyddogion yn gweithio ar fanylion y gwaith i sefydlu Cymwysterau Cymru. Fel rhan o hyn, maent eisoes wedi cynnal gweithdy cynhyrchiol gyda John McCormick a byddant yn parhau i gael trafodaethau manwl gydag ef a swyddogion SQA. Fel y dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig, un o'r tasgau cyntaf yw comisiynu adolygiad o ddiwydrwydd dyladwy. Ar sail casgliadau hwnnw, byddwn yn datblygu cynigion manwl ac achos busnes yn ystod hanner cyntaf 2013 i ofalu bod ein dull newydd arfaethedig yn ymarferol ac yn sicrhau gwerth am arian.
Cyhoeddais ar 5 Rhagfyr hefyd fod Huw Evans wedi cytuno i gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen, y byddwn yn ei sefydlu'n fuan, er mwyn llywio Cymwysterau Cymru yn ystod ei gyfnod cyntaf. Bydd y grŵp yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud ag amseru, rheoli, strwythurau a diwydrwydd dyladwy. Bydd arbenigedd Huw yn amhrisiadwy wrth weithredu'r rhaglen newid hon.
Ein nod yw gweld Cymwysterau Cymru, o fis Medi 2015, yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros ddyfarnu cymwysterau, gan gynnwys mwyafrif y cymwysterau cyffredinol. Yn amlwg, bydd goblygiadau i CBAC yn sgil hyn. Rydym felly yn trafod y mater gyda nhw. Rwyf hefyd wrthi'n trafod gydag arweinwyr llywodraeth leol ar y mater hwn a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Yn y cyfamser, bydd CBAC yn parhau i chwarae rhan allweddol a gwerthfawr wrth ddarparu cymwysterau yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill tra bydd y trafodaethau hyn yn mynd yn eu blaen.