Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n datblygu system gymwysterau genedlaethol newydd i Gymru. Yn ganolog i’r system hon, a ddaw yn weithredol yn 2015, fydd cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd. Bydd y Fagloriaeth ddiwygiedig yn fwy llym na’r cymhwyster presennol a bydd yna hefyd TGAU newydd mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg, gyda ffocws ar lythrennedd a rhifedd gweithredol. At hynny, mae newidiadau sylweddol wedi cael eu gwneud, ac yn dal i gael eu gwneud, i elfennau eraill o’r system gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol a Safon Uwch.  

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i gyrraedd amryw o gerrig milltir pwysig ar y daith o gyflwyno’r system a’r cymwysterau newydd. O ganlyniad, rwy’n darparu crynodeb o’r cynnydd a wnaed hyd yma a’r trywydd arfaethedig ar gyfer y pedwar mis ar ddeg nesaf.   

Cafodd yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 - 19 oed yng Nghymru (yr Adolygiad) ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2012. Ddiwedd mis Ionawr 2013, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod yn derbyn y 42 o argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad. Rwyf yn awr yn gyrru gwaith yn ei flaen i gyflwyno dwy raglen o newidiadau mawr: y naill i sefydlu’r corff newydd, Cymwysterau Cymru, a’r llall i reoli’r newidiadau i’r cymwysterau eu hunain. Erbyn hyn, mae’r ddwy raglen tua hanner ffordd ac rydym ar y trywydd iawn i’w cwblhau erbyn diwedd 2015. Bydd y rhan fwyaf o argymhellion yr Adolygiad wedi cael eu mabwysiadu fel rhan o’n gwaith arferol erbyn hynny, a byddant hefyd yn dylanwadu ar y gwaith o ddiwygio rhagor o gymwysterau yn y dyfodol. Bydd manylion y meysydd pwnc hynny y bydd TGAU a Safon Uwch yn cael eu diwygio ar eu cyfer a fydd ar cael i’w haddysgu o fis Medi 2016 hefyd yn cael eu cyhoeddi'r wythnos hon. I’r graddau y bo hynny’n bosibl, byddwn yn ceisio alinio ein hamserlen ag amserlen Lloegr, a bydd gwneud hynny yn cyfyngu ar unrhyw faterion y gallai canolfannau eu hwynebu wrth iddynt drosglwyddo i’r cymwysterau diwygiedig.

Cymwysterau Cymru

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymwysterau yng Nghymru yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi, a sicrhau hefyd eu bod yn bodloni gofynion ein pobl ifanc a’n heconomi. Bydd sefydlu’r corff newydd, Cymwysterau Cymru, yn rhoi sylfaen fwy cadarn i reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau.

Yn y Datganiad Ysgrifenedig a ryddhawyd gennyf ar 2 Mehefin, cyhoeddais yr ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu Cymwysterau Cymru. Mae deddfwriaeth yn cael ei pharatoi i’w chyflwyno gyda’r bwriad, yn amodol ar ewyllys y Cynulliad, o sefydlu Cymwysterau Cymru erbyn mis Medi 2015. Corff fydd hwn ar gyfer rheoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau yng Nghymru. Bydd y corff newydd yn greiddiol i’r gwaith o ddiwygio cymwysterau fel ymateb i’r Adolygiad o Gymwysterau. Bydd Cymwysterau Cymru yn sicrhau bod y cymwysterau yn addas at y diben a bod y system gymwysterau yn effeithiol ac effeithlon. At hynny, bydd yn gweithio hefyd i ennyn hyder y cyhoedd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn y cymwysterau sy’n cael eu hennill gan ddysgwyr yng Nghymru.

Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol

Mae cymwysterau Safon Uwch ac UG newydd yn cael eu datblygu mewn amryw o bynciau i’w haddysgu o 2015. Fel ymateb i argymhellion yr Adolygiad, bu swyddogion yn gweithio gydag ymarferwyr ac arbenigwyr pwnc eraill rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2013 i ddatblygu cynigion ar gyfer y cymwysterau newydd. Cafodd rhanddeiliaid eu gwahodd i ymateb i’r cynigion hynny mewn arolwg ar-lein ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2013. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Mai.

Cafodd Egwyddorion cymhwyster UG a Safon Uwch eu cyhoeddi ym mis Mai. Croesawyd ein polisïau ar gyfer y cymwysterau hanfodol hyn gan ysgolion a cholegau, addysg uwch a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r egwyddorion cymhwyster yn cadarnhau y caiff cymwysterau Safon Uwch ac UG eu cadw fel cymwysterau cysylltiedig, sy’n golygu bod UG yn cyfrif tuag at y Safon Uwch derfynol. Bydd pwysoliad newydd o 40 y cant o’r Safon Uwch gyffredinol i’r UG a fydd yn cael ei haddysgu o 2015 ymlaen (sy’n is na 50 y cant, fel y mae ar hyn o bryd). Unwaith y flwyddyn yn unig, yn yr haf, y cynhelir neu y cyflwynir asesiad. Bydd un cyfle i ailsefyll unrhyw uned a marc gorau’r dysgwr fydd yn cyfrif yn y pen draw. Pan fo hynny fwyaf priodol, byddwn yn cadw’r trefniadau asesu mewnol presennol ar gyfer sgiliau neu feysydd pwnc penodol. Bydd hyn yn cynnwys agweddau ar iaith, perfformio a’r celfyddydau creadigol neu sgiliau ymarferol mewn gwyddoniaeth. O safbwynt y dysgwr, bydd gofynion Safon Uwch yng Nghymru yn parhau ar yr un lefel ag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, wrth reswm. Ar y cyfan, bydd y cynnwys yn debyg iawn i’r rheini a fydd yn cael eu sefyll yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd. Fodd bynnag, mae yna ddadl dros ddarparu cynnwys gwahanol yng Nghymru mewn rhai achosion, i adlewyrchu’r Cwricwlwm Cymreig, er enghraifft. CBAC fydd yr unig gorff dyfarnu a fydd yn darparu’r Safon Uwch sy’n cael ei datblygu i’w haddysgu yng Nghymru o 2015 ymlaen.  

Ar hyn o bryd, mae CBAC yn datblygu manylebau a samplau o ddeunyddiau asesu ar gyfer y Safon Uwch ddiwygiedig mewn:

  • Celf a Dylunio
  • Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Seicoleg
  • Astudiaethau Busnes, Economeg
  • Cyfrifiadureg
  • Cymraeg
  • Saesneg Iaith, Saesneg Llên, Saesneg Iaith a Llên
  • Hanes, Cymdeithaseg 

Disgwylir i CBAC gyflwyno’r rhain i’w hachredu dros yr haf. Yn amodol ar achredu, bydd CBAC yn dechrau eu cynnig i ganolfannau yn nhymor yr hydref.

Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr, a chyflogwyr hefyd, yn cael eu cynrychioli ar grŵp cyfeirio’r rhanddeiliaid sy’n cynghori ar ddiwygio cymwysterau yng Nghymru ac rydym yn hyderus bod y partïon allweddol hyn yn cefnogi ein diwygiadau.

TGAU

Rydym wedi defnyddio dull cyson wrth ddiwygio TGAU. Cafwyd tystiolaeth glir yn sgil cynnal yr Adolygiad o Gymwysterau bod TGAU yn frand sy’n ennyn ymddiriedaeth a bod y cymwysterau hyn yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r Egwyddorion cymhwyster TGAU a gyhoeddwyd ym mis Mai yn adlewyrchu’r safbwyntiau hyn ac yn datblygu ar gryfderau’r cymwysterau presennol ac argymhellion yr Adolygiad. Maent yn caniatáu i gymwysterau gael eu rhannu yn ôl haenau, cymwysterau unedol (modylol) neu linol, cyrsiau byr neu TGAU dwbl lle bo hynny’n briodol. Dim ond pan fo achos clir o blaid gwneud hynny y mae’r egwyddorion yn caniatáu’r defnydd o asesiad dan reolaeth. Caiff y strwythur graddio presennol o A* i G ei gadw.

Mae llythrennedd a rhifedd yn ddau o fy mlaenoriaethau i fel Gweinidog Addysg a Sgiliau. Felly, rwy’n cyflwyno TGAU newydd i ddatblygu ac asesu’r sgiliau hyn yn fwy effeithiol. Bydd TGAU newydd, i’w haddysgu o fis Medi 2015, mewn Cymraeg Iaith a Saesneg Iaith, dau TGAU mathemateg (‘TGAU Mathemateg – Rhifedd’ a ‘TGAU Mathemateg’), a bydd TGAU Cymraeg Llên a Saesneg Llên hefyd yn cael eu diwygio. Bydd y TGAU iaith a rhifedd newydd yn asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd gweithredol, a fydd yn paratoi ein pobl ifanc ar gyfer dysgu pellach ac ar gyfer bywyd a gwaith. Bydd angen meddwl yn feirniadol a sgiliau dadansoddi i fynd i’r afael â’r cymwysterau newydd a bydd gofyn cymhwyso’r sgiliau hyn i sefyllfaoedd bywyd bob dydd. Bydd y sgiliau a fydd yn cael eu profi yn debyg iawn i’r sgiliau y mae PISA yn rhoi pwyslais arnynt. Dyma’r sgiliau yr ystyrir yn rhyngwladol sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ni heddiw. Eglurwyd ein gweledigaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau hyn, a’r ffordd y bwriadwn fynd ati i feithrin gallu ein gweithlu addysg i wneud hynny yn ogystal â buddsoddi yng ngallu’r gweithlu, yn ein cynhadledd addysg fawr a gynhaliwyd ar 11 Mehefin.  

Yn dilyn gwaith sylweddol a gynhaliwyd gydag ymarferwyr ac arbenigwyr pwnc eraill rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2013, cafodd rhanddeiliaid eu gwahodd i ymateb i gynigion ar gyfer y cymwysterau newydd hyn, mewn arolwg ar-lein ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2013. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Mai.

Gan ddatblygu ar yr ymatebion i’r arolwg, cyhoeddais egwyddorion pwnc drafft ar gyfer y TGAU newydd ym mis Mai hefyd. Mae’r rhain yn darparu fframwaith i gyrff dyfarnu baratoi’r manylebau yn unol ag ef, yn ogystal â meini prawf ar gyfer gwneud hynny. Mae CBAC wrthi ar hyn o bryd yn datblygu’r fanyleb ar gyfer y TGAU newydd a’r TGAU diwygiedig, a sampl o ddeunyddiau asesu, a disgwylir iddynt gael eu cyflwyno i’w hachredu dros yr haf. Yn amodol ar achredu, bydd CBAC yn eu cynnig i ganolfannau yn nhymor yr hydref. CBAC yw’r unig gorff dyfarnu sy’n darparu’r TGAU newydd a’r TGAU diwygiedig sy’n cael eu datblygu i’w haddysgu o 2015 ymlaen.

Bydd TGAU Mathemateg – Rhifedd yn canolbwyntio ar rifedd a’r fathemateg sydd ei hangen arnom yn ein bywydau bob dydd. Bydd TGAU Mathemateg yn cynnwys agweddau eraill ar fathemateg, gan gynnwys y rheini sydd eu hangen ar gyfer symud ymlaen i astudiaethau gwyddonol, technegol neu fathemategol pellach. Bydd y TGAU newydd yn datblygu ar yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n dod o astudio’r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru a’r Fframwaith Rhifedd Cenedlaethol. Bydd y ddau TGAU yn gymwysterau llinol (asesir ar ddiwedd y cwrs). Bydd tair haen i’r cymwysterau a chânt eu hasesu drwy arholiad allanol. Bydd mwy o bwyslais ar gymhwyso sgiliau a gwybodaeth fathemategol i sefyllfaoedd bywyd bob dydd nag a geir yn y cymhwyster TGAU Mathemateg presennol. Bydd hefyd mwy o ofyn i ddysgwyr ddewis y technegau a’r strategaethau priodol, gan ddefnyddio sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl. Ni fydd llawer mwy o ddeunydd pwnc yn cael ei addysgu o dan y ddau TGAU mathemateg newydd na’r hyn a addysgir o dan y TGAU Mathemateg ar hyn o bryd. Bydd rhagor o wybodaeth am y modd y caiff y deunydd ei rannu rhwng y ddau TGAU hefyd yn cael ei chyhoeddi’r wythnos hon.

Bydd y TGAU newydd mewn Cymraeg Iaith a Saesneg Iaith yn rhoi mwy o sicrwydd o ran llythrennedd gan y byddant yn asesu agweddau mwy gweithredol ar ddarllen, ysgrifennu a llafaredd. Bydd y ddau TGAU yn gymwysterau llinol a bydd llafaredd yn cyfrannu at y radd derfynol. Yn ogystal â’r radd gyffredinol, bydd y ddau gymhwyster hefyd yn dangos cyrhaeddiad y dysgwr mewn darllen, ysgrifennu a llafaredd. Ni fyddant yn cael eu rhannu yn ôl haen. Bydd TGAU diwygiedig hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer Cymraeg Llên a Saesneg Llên.

Gellir cael gwybodaeth gyffredinol am y prif wahaniaethau rhwng manylebau’r TGAU presennol a chynllun y TGAU newydd mewn Cymraeg Iaith, Saesneg Iaith a mathemateg mewn taflen a gyhoeddwyd ym mis Mehefin.

Mae’n bwysig, wrth gwrs, fod ysgolion, colegau AB a darparwyr eraill yn cael amser a chefnogaeth i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cymwysterau newydd a’r rhai sydd wedi’u diwygio. Dyna pam yr ydym yn gweithio i achredu sefydliadau yn nhymor yr hydref ac yn buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus ac adnoddau i’r ystafell ddosbarth.  

Bydd gan CBAC rôl bwysig, yn naturiol, i ddatblygu adnoddau a digwyddiadau hyfforddi i gefnogi canolfannau i baratoi ar gyfer y cymwysterau, ac i’w cynnig. At hynny, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda CBAC, y consortia rhanbarthol a CfBT i ddatblygu cefnogaeth ac adnoddau. Rydym yn ariannu rhaglen ar gyfer darparu datblygiad proffesiynol parhaus ac adnoddau wrth inni weithio tuag at ein nodau ar gyfer PISA a’r cymwysterau newydd. Bydd unigolion penodol ym mhob ysgol yn cydlynu’r gwaith hwn ar lefel canolfan. Mae’r consortia hefyd yn recriwtio mwy o arbenigwyr rhifedd a llythrennedd ar draws Cymru ar hyn o bryd, ac rydym yn comisiynu adnoddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth a fydd yn cael eu cynllunio’n benodol i gefnogi’r TGAU newydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda Colegau Cymru i gefnogi’r sector ôl-16 ac i ddarparu adnoddau i’r sector.

Bydd disgwyl i ddysgwyr nad ydynt wedi ennill gradd C o leiaf mewn Cymraeg Iaith neu Saesneg Iaith a Mathemateg (neu, o 2017, Mathemateg – Rhifedd) erbyn iddynt gyrraedd 16 oed barhau i weithio tuag at y cymwysterau pwysig hyn fel rhan o unrhyw raglen astudio amser llawn o 2016 ymlaen. Rwyf wedi gofyn i gydweithwyr ac ysgolion ddechrau paratoi ar gyfer y newid hwn ac i bennu llinell sylfaen ar gyfer mesur cynnydd. O 2016 ymlaen, dylai colegau gefnogi pob dysgwr i baratoi ar gyfer TGAU ac i ailsefyll y rhai perthnasol os byddant wedi ennill gradd D (neu radd E, yn achos y rheini a fydd yn dechrau ar gyrsiau astudio dwy flynedd o hyd) yng Nghyfnod Allweddol 4. Gallai fod yn fwy priodol i ddysgwyr eraill weithio tuag at gymwysterau eraill yn y lle cyntaf. Rydym yn gweithio gyda Colegau Cymru i sicrhau bod colegau AB yn gallu cefnogi dysgwyr a chyflawni lefelau cyrhaeddiad uchel.

Bagloriaeth Cymru

Cymhwyster mwy ymestynnol Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd sy’n ganolog i fy rhaglen ar gyfer diwygio cymwysterau. Bydd y Fagloriaeth newydd yn cyfuno cymwysterau dysgwyr mewn pynciau â’r sgiliau y mae cyflogwyr ac addysg uwch yn dweud wrthym sydd eu hangen ar ein pobl ifanc. Bydd llwyddo ym Magloriaeth Cymru yn rhoi sicrwydd bod dysgwr wedi cael addysg gynhwysfawr a’i fod yn barod ar gyfer y cam nesaf o ddysgu neu fyd gwaith.   

Fel ymateb i argymhellion yr Adolygiad ar gyfer Bagloriaeth Cymru, mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid, drwy gyfrwng grŵp llywio, i ddatblygu model newydd ar gyfer Bagloriaeth Cymru gyda ffocws newydd ar sgiliau hanfodol. Dyma’r sgiliau hynny:    

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Llythrennedd Digidol
  • Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
  • Cynllunio a Threfnu
  • Creadigrwydd ac Arloesi
  • Effeithiolrwydd Personol


Yn sgil cynnal arolwg o randdeiliaid ddechrau’r flwyddyn, cafodd gwaith manylach ei gynnal i ddatblygu egwyddorion cynllunio ar gyfer y cymhwyster newydd. Mae’r egwyddorion cynllunio, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn amlinellu gofynion Bagloriaeth Cymru ar bob lefel (Sylfaen, Cenedlaethol ac Uwch). Maent yn disgrifio’r dull a ddefnyddir i ddatblygu ac asesu sgiliau, drwy Heriau a Phrosiectau Unigol, yn hytrach na Sgiliau Hanfodol a Sgiliau Allweddol, fel o dan y Fagloriaeth bresennol. Bydd yr Heriau yn rhoi cyfleoedd diddorol i ddysgwyr fynd i’r afael â sefyllfaoedd bob dydd, problemau a materion yn ymwneud â mentergarwch, cyflogadwyedd, dinasyddiaeth fyd-eang a chymuned.

Yn unol ag argymhellion yr Adolygiad, byddaf yn annog pawb i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd, yng Nghyfnod Allweddol 4 ac wrth ddarparu addysg ôl-16. Yn unol â hyn, bydd mesur o gyrhaeddiad ym Magloriaeth Cymru yn disodli’r mesurau trothwy presennol ar gyfer perfformiad (er enghraifft, y mesur trothwy Lefel 2 cynwysedig) ar gyfer adrodd o 2018 ymlaen. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 3 Gorffennaf 2014 yn cynnwys manylion llawn y newidiadau i fesurau atebolrwydd ysgolion sy’n berthnasol i gymwysterau a gaiff eu hastudio yng Nghyfnod Allweddol 4. O ran dysgwyr ôl-16, bydd cyfnod pontio o dair blynedd, o 2015 i 2018, i golegau gynyddu niferoedd y rheini rhwng 16 a 19 oed sy’n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru.

Mae CBAC yn datblygu’r fanyleb ar gyfer cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru a fydd, yn amodol ar fodloni’r gofynion achredu, ar gael i ganolfannau yn nhymor yr hydref. Bydd nifer o heriau yn cael eu treialu mewn deg ysgol yn ystod 2014-15, a bydd datblygiad proffesiynol parhaus ac adnoddau addysgu hefyd yn cael eu cynnig.

Mae swyddogion yn gweithio’n agos â CBAC, consortia rhanbarthol ac eraill i sicrhau bod canolfannau yn cael y deunyddiau hyfforddi ac addysgu sydd eu hangen arnynt i gyflwyno’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru diwygiedig. Byddwn yn cynnal pedwar digwyddiad rhanbarthol ar gyfer uwch-reolwyr i gyflwyno’r model newydd ym mis Medi. Wedi hynny, ym mis Hydref, bydd CBAC yn cynnal chwe digwyddiad rhanbarthol i gydlynwyr Bagloriaeth Cymru i gyflwyno’r manylebau newydd. Bydd rhagor o hyfforddiant ar gael yn hwyrach yn y flwyddyn academaidd ar yr Heriau a’r Prosiectau Unigol ar y gwahanol lefelau. Mae gan CBAC bum swyddog rhanbarthol a fydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i ganolfannau Bagloriaeth Cymru drwy’r cyfnod pontio hwn ac wrth iddynt gyflwyno’r cymhwyster.

Cymwysterau galwedigaethol

Yn unol ag argymhellion yr Adolygiad, mae pob cymhwyster galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru wedi cael eu categoreiddio erbyn hyn fel naill ai IVET neu CVET (addysg a hyfforddiant galwedigaethol cychwynnol neu addysg a hyfforddiant galwedigaethol parhaus). Dim ond IVET sydd ar gael i’w haddysgu yn 14-16 oed o fis Medi 2014, sy’n golygu bydd y dysgwyr yn sefyll cymwysterau sy’n addas yn ôl oedran a bydd llwybrau mwy eglur iddynt symud ymlaen o astudio IVET i CVET yn 16 oed. Lle arferai canolfannau gyflwyno CVET yng Nghyfnod Allweddol 4, mae’r canolfannau hynny wedi cael manylion IVET eraill i sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael i ymgeiswyr o fis Medi 2014 ymlaen.

Mae Paneli Cynghori Cymwysterau Sector yn cael eu sefydlu yn unol ag argymhelliad 35 o’r Adolygiad. Mae dau Banel Cynghori Cymwysterau Sector ‘peilot’ wedi cael eu sefydlu yn y sectorau gofal cymdeithasol ac adeiladu, ac mae paneli eraill yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer y sectorau lletygarwch, peirianneg ac amaethyddiaeth.   
Bu cynnydd sylweddol yn nifer y cymwysterau sydd wedi eu derbyn yn rhan o’r system wedi i ymglymiad y Cyngor Sgiliau Sector yn y broses o gymeradwyo cymwysterau galwedigaethol ddod i ben yn 2010. Cafodd Blaenoriaethau Cymwysterau Sector (SQP) eu cyflwyno yng Nghymru yn ystod 2012 i gael barn y sector ar y cymwysterau newydd hyn. Bydd data SQP yn ffynhonnell o dystiolaeth a ddefnyddir at ddibenion porthgadw a byddant hefyd yn cael eu hystyried gan y paneli Cynghori Cymwysterau Sector newydd.

Sgiliau Hanfodol Cymru

Yn ystod yr Adolygiad, cafodd tipyn o waith ei wneud i ymgysylltu â rhanddeiliaid i adolygu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a Sgiliau Allweddol Ehangach. O fis Medi 2015, bydd cymwysterau diwygiedig ar gael ar gyfer Sgiliau Hanfodol, fel a ganlyn. Tasg o dan reolaeth a phrawf ategol fydd y dull asesu newydd ar gyfer Cyfathrebu a Cymhwyso Rhif. Ni fydd y manylebau a’r asesiadau yn newid yn achos cymwysterau lefel mynediad. Mae’r manylebau ar gyfer Llythrennedd Digidol, o lefel mynediad 1 i lefel 3, yn cael eu hadolygu ar gyfer mis Medi 2015. Tasg dan reolaeth a phrawf ategol fydd y dull newydd o asesu.

Diweddarwyd y Sgiliau Allweddol Ehangach a byddant yn cael eu hadnabod yn awr fel ‘Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol’. Mae’r rhain yn cynnwys pedwar maes sgiliau: Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; Creadigrwydd ac Arloesi; ac Effeithiolrwydd Personol. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu haddysgu, eu dysgu a’u hasesu drwy dasgau holistaidd, a fydd yn tynnu oddi ar y pedwar maes sgiliau, yn hytrach nag edrych ar bob maes ar wahân. Bydd tasg dan reolaeth integredig yn caniatáu ar gyfer asesu cyfunol. Caiff cyrhaeddiad yn y cymhwyster ei raddio yn ôl y categorïau llwyddo, teilyngdod a rhagoriaeth. 

Atgyfnerthu rheoleiddio a sicrhau ansawdd

Rwyf i, fy swyddogion, a Bwrdd Cynghori Cymwysterau Cymru wedi edrych ar y gwersi y gallwn eu dysgu o ddeilliannau uned TGAU Saesneg Iaith mis Ionawr 2014. Ers imi gyhoeddi adroddiad yn deillio o’r ymarfer a gynhaliwyd ym mis Mawrth i gasglu mwy o wybodaeth, rydym wedi cymryd amryw o gamau uniongyrchol a hirdymor i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd. Mae’r camau tymor hwy yn cynnwys annog ysgolion i ryddhau athrawon i ddod yn arholwyr yn eu pynciau; cam yr ydym yn gwybod  sy’n helpu i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o’r broses asesu; a chamau rheoleiddio penodol yn berthnasol i gyfres arholiadau haf 2014 ac Ionawr 2015. Mae’r gweithgarwch arall a gynhelir, sy’n gysylltiedig â datblygiad proffesiynol parhaus a rhagor o adnoddau addysgu, yn cael eu trafod uchod.   

Rydym hefyd wedi atgyfnerthu’r modd y caiff cyrff dyfarnu eu rheoleiddio. Mae pob corff dyfarnu sy’n dymuno cynnig eu cymwysterau yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio gan Amodau Cydnabod Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rhaid i bob corff dyfarnu gyflwyno datganiad blynyddol i gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hyn. Gofynnwyd i gyrff dyfarnu nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddyfarniad yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac/neu sydd heb unrhyw ganolfan weithredol na dysgwyr ar hyn o bryd yng Nghymru, ildio eu cydnabyddiaeth drwy broses ildio gynhwysfawr ac ni fyddant wedyn yn gallu cynnig eu cymwysterau yng Nghymru. Mae nifer y cyrff dyfarnu eisoes wedi’i gwtogi o dan y broses hon a bydd hyn yn parhau.

Ymgyrch gyfathrebu 

Yn unol ag ysbryd yr Adolygiad, rydym wedi parhau i ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid gydol y cyfnod gweithredu ac mae llawer o grwpiau wedi cynghori ar bolisi ac ar y ffordd o fynd ati i ddatblygu cymwysterau. Cynhaliwyd arolygon a chyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, fel yr amlinellwyd uchod, cyhoeddais nifer o ddogfennau allweddol ar TGAU, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru ar wefan www.cymwysteraucymru.org. Cafwyd cyhoeddiad pwysig hefyd ar 3 Gorffennaf am newidiadau pwysig i fesurau perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4.
Dros y 6 mis diwethaf, mae fy swyddogion wedi cyfarfod ag arweinwyr addysg ar lefel uchel yng Nghymru a Lloegr i feithrin cyd-ddealltwriaeth o’r rhaglen ddiwygio. Rwy’n falch o allu datgan ein bod wedi cael adborth cadarnhaol ar ein diwygiadau ac ar y modd buddiol yr ydym wedi ymgysylltu â’r sector addysg uwch. Rydym hefyd wedi ymweld â nifer o gwmnïau angori yng Nghymru i egluro’r rhaglen ddiwygio ac rwy’n falch o glywed bod busnesau yn croesawu’r ffordd yr ydym yn mynd ati i wella sgiliau pobl ifanc.
Yn gynharach eleni, cynhaliom 25 o sioeau teithiol rhanbarthol er mwyn i arweinwyr ac uwch-reolwyr ysgolion a cholegau allu trafod goblygiadau’r rhaglen ddiwygio yn uniongyrchol â’m swyddogion.
 
Yn yr hydref, byddwn yn lansio Cymwys am Oes, ymgyrch i hyrwyddo’r newidiadau i TGAU, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru yn uniongyrchol i ddysgwyr, rhieni ac athrawon. Bydd yr ymgyrch yn datblygu negeseuon cryf a fydd yn gweithio ar draws amryw o sianeli a chyfryngau i gyrraedd ein cynulleidfa darged. Bydd hyn yn cynnwys pecynnau gwybodaeth a fydd yn cael eu rhannu drwy law ein hysgolion, digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth a chyfres o enghreifftiau diddorol a fydd yn egluro’r newidiadau.