Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Hydref 2014 lansiais Cymwys am Oes – Cynllun Gwella Addysg i Gymru.

Roedd y cynllun hwn yn seiliedig ar Gwella Ysgolion a gyhoeddwyd cyn hynny ac mae’n amlinellu ein gweledigaeth a’n hamcanion ar gyfer addysg hyd 2020. Mae ein gweledigaeth yn seiliedig ar bedwar amcan strategol ynghyd â chamau cysylltiedig i gefnogi gwelliannau ym myd addysg.

Dyma’r pedwar amcan strategol:

  1. Gweithlu proffesiynol gwych ag addysgeg gref sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio
  2. Cwricwlwm sy’n ddiddorol ac yn ddeniadol i blant a phobl ifanc ac sy’n datblygu ynddynt y gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn annibynnol
  3. Bod y cymwysterau y mae pobl ifanc yn eu hennill yn cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn basbort credadwy i’w dysgu a’u cyflogaeth yn y dyfodol
  4. Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system sy’n ei gwella’i hun, gan gynnig cefnogaeth a her i’w gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cerdyn adrodd sy’n mesur y cynnydd a wnaed yn erbyn ein cynllun. Mae nifer o bolisïau a chamau allweddol wedi’u gweithredu i gefnogi ein hagenda ddiwygio. Fodd bynnag, effaith y rhain ar ein dysgwyr yw’r prawf hollbwysig. Rwyf wrth fy modd yn cael adrodd ein bod wedi gwneud gwelliannau ar draws y cyfnod sylfaen, yng nghyfnod allweddol 2, yng nghyfnod allweddol 3 ac yng nghyfnod allweddol 4 – gan wella cyfleoedd byw ein plant a’n pobl ifanc. Rydym hefyd wedi lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sydd o gefndir cyfoethog a’r rheini o gefndir tlawd ym mhob un o gyfnodau allweddol addysg statudol.