Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Hoffwn roi’r diweddaraf i’r Aelodau ar y cynnydd o ran cyflawni Pennod 7 ein Rhaglen Lywodraethu, oedd yn gwneud Diogelwch Cymunedol yn un o brif flaenoriaethau’r tymor hwn ar gyfer y Llywodraeth.
Un o’n pum ymrwymiad uchaf o dan y Rhaglen Lywodraethu oedd recriwtio 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol. Rwy’n falch o nodi ein bod yn disgwyl cyrraedd y targed hwn yn llawer cynt na’r targed gwreiddiol. Mae 480 o Swyddogion Cymorth Cymunedol wedi cael eu recriwtio, a disgwylir recriwtio’r gweddill erbyn mis Medi 2013. Mae hyn yn enghraifft o waith aml-asiantaeth ar ei orau. Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth gyda phedair ardal yr heddlu yng Nghymru, wedi cyflwyno adnodd ychwanegol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.
Yn yr hydref 2012, cyhoeddwyd ymgynghoriad Papur Gwyrdd oedd yn ystyried pa gamau pellach y gellid eu cymryd i’r rheini mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r system Cyfiawnder Ieuenctid, neu sydd eisoes wedi gwneud. Rwy’n gweithio gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ymchwilio ynghylch a fyddai modd ymgorffori elfennau o’r ddeddfwriaeth ar gyfer y grŵp hwn o bobl ifanc yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Un peth arall i’w groesawu o’r gwaith hwn fydd Strategaeth Cyfiawnder Ieuenctid newydd gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Rydyn ni’n gweithio ar ddeddfwriaeth i geisio mynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod yn dilyn ymgynghoriad y Papur Gwyn yn gynharach eleni. Caiff y Bil ei gyflwyno yn y gwanwyn flwyddyn nesaf a’i nod yw cryfhau gwasanaethau drwy gefnogi ymarferwyr rheng flaen i ddarparu’r sbectrwm llawn o ymyriadau perthnasol mewn ffordd fwy cyson ac yn unol â safon ansawdd y cytunir arni.
Mae rhoi ar waith y prosiect 10,000 o Fywydau Mwy Diogel yn gwneud gwaith paratoadol ar gyfer y Bil. Mae’r prosiect yn gwella’r ymateb aml-asiantaeth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig. Mae’r bylchau mewn gwasanaethau a nodwyd gan y prosiect 10,000 o Fywydau Mwy Diogel wedi’u hadleisio yn y gwaith a wnaed ar gyfer cynigion y Papur Gwyn.
Er mwyn llywio penderfyniadau cyllid yn y dyfodol a gwneud y gorau o effeithiolrwydd ac effaith cyllid grant, rydyn ni’n cynnal adolygiad annibynnol ar gyllid cam-drin domestig. Bydd yr adolygiad hwn yn asesu’r dystiolaeth sy’n sail i fathau o ddarpariaeth gwasanaethau i ymchwilio i’w heffeithiolrwydd. Bydd yr adolygiad hwn yn cyflwyno adroddiad yn yr hydref.
Mae mynd i’r afael â’r fasnach mewn pobl yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Penodwyd Stephen Chapman yn ail Gydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl i Gymru ym mis Tachwedd 2012, sef yr unig rôl o’i math yn y DU. Rydyn ni’n cydnabod mai’r allwedd i ddileu’r fasnach hon yw drwy waith partneriaeth ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’r rôl hon yn amlwg yn hwyluso hyn. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i wella’r sylfaen dystiolaeth i roi eglurder ynghylch maint y drosedd ffiaidd hon a dangos na fydd Cymru’n goddef y fasnach mewn pobl.
Mae helpu pobl i wella o niwed camddefnyddio sylweddau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae’n Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer 2013-15, a lansiwyd ym mis Chwefror, yn amlinellu’r camau y byddwn ni’n eu cymryd dros y tair blynedd nesaf i gyflawni hyn. Mae’r camau’n cynnwys adolygu’n proses o ymchwiliadau cyfrinachol i farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, rhoi canllawiau i wella mynediad i driniaeth camddefnyddio sylweddau ar gyfer cyn-filwyr, cyhoeddi fframwaith adfer newydd a pharhau i bwyso am ddatganoli trwyddedu alcohol i Weinidogion Cymru.
Trosglwyddwyd y cyllid a’r cyfrifoldeb dros gyflawni’r Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau o Lywodraeth Cymru i’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru ym mis Ebrill 2013.
Rwy’n ddiolchgar i’r Comisiynwyr am fod yn agored i syniadau a fydd yn gwella ac yn ehangu’r rhaglen hon er budd pawb sy’n ei defnyddio a’r gymuned ehangach a fydd ar ei hennill yn sgil llai o bobl yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon.
Rydyn ni’n parhau i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth gyda’r gwasanaeth brys ac asiantaethau ymateb eraill yng Nghymru i’n galluogi i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i achosion brys. Rydyn ni wedi gweld achosion o lifogydd a thywydd gaeafol garw yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi dangos pa mor bwysig yw ymateb i achosion brys mewn ffordd effeithiol a chydlynus. Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gryfhau a gwella hyn drwy ddysgu o brofiad.
Rwy’n falch bod buddsoddiad o fwy na £3 miliwn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgareddau diogelwch tân cymunedol ledled Cymru yn arwain at lai o achosion ac anafiadau ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau. Yn arbennig, mae Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref yn cefnogi pobl sy’n agored i niwed.
Hefyd mae elfen o waith ar Ddiogelwch Ffyrdd ym Mhennod Saith sydd bellach yn gyfrifoldeb i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae hi wedi nodi y bydd yn hysbysu’r Aelodau am gynnydd ar y pwyntiau hyn maes o law.
Yn sgil y toriadau cyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Mawrth, ar ben y rhai a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref y llynedd, ynghyd â’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant diweddar, mae’r sefyllfa ariannol yn llwm. Mae Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Tân a’r Heddlu yn wynebu cyllidebau llawer llai ar adeg o gynnydd yn y galw ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n hanfodol ein bod yn rhannu safbwynt cyffredin a realistig ar y rhagolygon ariannol digynsail ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a’n bod yn cydweithio i wynebu’r her hon a gwneud Cymru’n fwy diogel.
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar faterion troseddu a chyfiawnder sydd heb eu datganoli. Mae gwaith hefyd wedi cael ei wneud ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona a’r diwygiadau sydd ar y gweill i’r Gwasanaeth Prawf a Dalfeydd Ieuenctid.
Mae’r gwaith hwn yn hanfodol o ran sicrhau bod unrhyw bolisïau a deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth y DU yn cyd-fynd â’r cyd-destun deddfwriaethol a bod cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei ddeall a’i barchu. Mae’r cyhoeddiad diweddar y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn adeiladu carchar newydd yn y Gogledd yn enghraifft amlwg o fanteision gwirioneddol a ddaw yn sgil gwaith partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth y DU.
Drwy gydweithio at y targed o wneud y gorau er mwyn pobl Cymru, gallwn ni wneud ac rydyn ni’n gwneud Cymru yn lle mwy diogel i fyw.