Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi ymrwymo i’r gyfran olaf o gyllid o dan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Penderfynais ymrwymo i’r elfen Ewropeaidd sydd yn weddill, sef cyfanswm o £126.3m, ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig warantu arian i bob prosiect a arwyddwyd cyn i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Cyn hyn, roedd y Canghellor ond wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau a oedd wedi eu harwyddo cyn Datganiad yr Hydref 2016. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £96.4m.

Mae’r ymrwymiad hwn yn golygu bod ffermwyr, tirfeddianwyr, cynhyrchwyr bwyd ac eraill sy’n elwa o’r Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) yn mynd i allu parhau i gynllunio, a bod yn hyderus y byddant yn parhau i dderbyn y lefelau presennol o gyllid o dan y Cynllun Datblygu Gwledig tan ddiwedd y Rhaglen hon, hyd yn oed pe byddai’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn hynny.

Mae ffenestri’r cynlluniau a gweithgareddau eraill sy’n gynwysedig yn y gyfran olaf hon, cyfanswm o £223m, yn ymrwymo dyraniad yr Undeb Ewropeaidd am y Rhaglen yn gyfan gwbl. Bydd hyn yn golygu fod ystod eang o gynlluniau ar draws y Rhaglen yn medru agor, yn cynnwys Grant Busnes i  Ffermydd, Glastir Uwch, Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd, Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio, Grant Creu Coetir Glastir a’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig.

Bydd manylion llawn am ffenestri cynlluniau pellach ar gael ar safle we Llywodraeth Cymru maes o law.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/?skip=1&lang=cy