Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach eleni, lansiais wasanaeth newydd Cymru'n Gweithio, sy’n ffordd amlhaenog o fynd ati i gynnig cyngor ac arweiniad i bobl Cymru am yrfaoedd a swyddi.

Achubais ar y cyfle i sicrhau bod y ffordd newydd hon o weithio yn ymwreiddio ac yn datblygu’n rhan annatod o yrfaoedd a gwaith yng Nghymru, yn dod yn rhan ganolog o waith y llywodraeth wrth iddi hoelio sylw ar gyfiawnder cymdeithasol ac ar ein dymuniad i wneud yn siŵr bod gan bawb, beth bynnag eu cefndir, yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn dod ymlaen yn eu bywydau.  

Mae wedi bod ar waith ers 6 mis erbyn hyn ac mae eisoes yn llwyddiant rhyfeddol.  Mae'n darparu gwasanaethau ar y stryd fawr, mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru, mewn Sefydliadau Addysg Bellach a charchardai drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ffyrdd o ymwneud â phobl, gan gynnwys sgyrsiau ar y we, Skype, e-bost, negeseuon testun ac, wrth gwrs, drwy gyfweliadau un i un traddodiadol. Mae'r gwasanaeth hyd yn oed wedi llwyddo i gyrraedd statws rhyngwladol drwy helpu unigolyn yn Dubai i baratoi i symud yn ôl i Gymru.

Mae'n rhaid imi ddiolch i Gyrfa Cymru, sydd wedi bod ar flaen y gad wrth gyflwyno'r ffordd newydd hon o weithio. Mewn cyfnod byr, mae eu hymgynghorwyr wedi helpu 15,008 o oedolion a 3,608 o bobl ifanc i fanteisio ar y gwasanaeth, a chanlyniad hynny yw bod 8,872 o oedolion a 2,407 o bobl ifanc wedi cael eu cyfeirio at raglenni sy'n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiad blynyddol o £9 miliwn gan y llywodraeth yng ngwasanaeth Cymru'n Gweithio wedi caniatáu i rwydwaith o gynghorwyr a chydgysylltwyr ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf er mwyn helpu pobl Cymru. Wrth inni wneud hyn, rydym yn gwneud newid go iawn a pharhaol o ran darparu gyrfaoedd a strategaethau menter o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar berthynas gref â chyflogwyr.

Ar ôl gweithredu yn hyn o beth, rhaid inni beidio â cholli golwg ar ein prif nod a'n prif ddiben, sef cynnig cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd sy'n arwain yn y pen draw at gyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy. Nid dim ond gwasanaeth sy'n sefyll ar ei ben ei hun yw Cymru'n Gweithio – hwn yw’r pwerdy sy'n gyrru'n cynlluniau i wella'r farchnad lafur a chyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig yng ngoleuni Brexit. 

Uchelgais ein Cynllun Cyflogadwyedd yw helpu pobl ledled Cymru i ddod o hyd i waith yn awr, a mynd ati ar yr un pryd i baratoi'r gweithlu ar gyfer yr heriau hirdymor sy'n ei hwynebu ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei hwynebu yn y dyfodol. Mae'n gwneud hynny drwy osod targedau ymestynnol ar gyfer cyfnod o ddeng mlynedd.  

Mewn marchnad lafur sy'n un fwyfwy byd-eang, ni allwn gynnal y ddadl am yrfaoedd a sgiliau mewn gwagle; rhaid inni ei hystyried hefyd yng nghyd-destun newidiadau dramatig o ran demograffeg ac yn yr economi fyd-eang (yr ydym ni'n rhan ohoni) ac yng nghyd-destun y newidiadau sydd i'w gweld ym marchnad lafur Cymru ar hyn o bryd. 

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn chwarae rôl newydd hanfodol o ran helpu pobl i fynd yn ôl i fyd gwaith. Mae'n gweithio ar sail ranbarthol ac mae'n cynnig 1,466 o rolau llawnamser (sy’n gyfystyr â rhyw 2,858 o bobl, sy'n gweithio o 59 o ganolfannau gwaith).    

Er mwyn sicrhau ein bod yn cysylltu â chynifer o bobl â phosibl ar lefel ranbarthol, rydym yn sefydlu tri Grŵp Ymateb Rhanbarthol newydd. Byddant yn cynnig ymateb brys i broblemau cyflogaeth yn sgil Brexit a byddant yn ceisio cynnig sicrwydd a sefydlogrwydd yn y farchnad swyddi sydd ohoni. Bydd hyn yn helpu i leihau ansicrwydd yn economi Cymru ac i gynnal hyder yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyflogadwyedd. Byddant yn mynd ati ym mhob rhanbarth i ddefnyddio rhaglenni a gwasanaethau sy'n bodoli eisoes i greu ysgogiadau a fydd yn rhoi hwb i alw, yn cefnogi swyddi ac yn lleihau'r risg y bydd yr economi'n arafu. 

Darpariaeth yn y tymor byr yw'r Grwpiau Ymateb Rhanbarthol a byddant yn ymateb yn gyflym ac yn gweithredu’n syth yn eu lleoliadau. Ymhen amser, bydd gwaith y Fargen Ddinesig a'r Fargen Twf, y Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol, Cynlluniau'r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, a'r gwaith cynllunio ar Fuddsoddiad Rhanbarthol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, yn weithredol yn y rhan hon o'r farchnad.

Bydd system frysbennu yn parhau i gael ei defnyddio yn achos diswyddiadau ar raddfa fawr ond ni allwn ddefnyddio'r system honno i fynd i'r afael â phob achos o ddiswyddo ac o fannau dall yn yr economi, megis y rheini sy'n gysylltiedig â defnyddio gweithwyr asiantaethau, contractau dim oriau, diweithdra ymhlith graddedigion a lefelau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Rydym yn bwriadu adeiladu ar brofiad Tasglu Ford a mabwysiadu ei ddulliau gweithredu ef ar gyfer y Grwpiau Cyflogadwyedd Rhanbarthol newydd.

Bydd y tri grŵp cynghori yn goruchwylio gweithgareddau yn y farchnad lafur, gan ganolbwyntio ar

  • Lefelau diweithdra a'r niferoedd o bobl sy'n debygol o ddweud nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), ac ar hysbysiadau diswyddo.   

Mae cael cadw golwg ar yr holl feysydd hyn, a chael cyfle i'w cydlynu’n well, yn fy nghyffroi. Gan fod rhyw 64,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd (dolen allanol) yr ymateb priodol yw gofyn sut y gallwn wneud yn well, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, sydd â chyfrifoldeb dros gyflogaeth, i helpu'n dinasyddion i gystadlu yn y farchnad lafur sydd ohoni.

Rwy'n ymrwymedig hefyd i wneud hynny drwy weithio gyda darparwyr gwasanaethau a'u partneriaid i feithrin ac i gefnogi sefyllfa gyflogaeth gref a ffyniannus, sy'n cydnabod y cryfder y gall economi gymysg o gyflenwyr o'r trydydd sector, y sector preifat a'r sector cyhoeddus ei gynnig, i sicrhau canlyniadau gwell i bobl drwy ddefnyddio gwasanaethau cymorth cyflogaeth. 

Gwn fod fy swyddogion wedi dechrau eisoes ar y broses o drefnu cyfarfodydd i ddod ynghyd â’r rheini a fydd yn rhoi cefnogaeth inni yn hyn o beth. Rydym yn gyfrifol ar y cyd â Llywodraeth y DU a phartneriaid cyflawni am sicrhau bod y farchnad lafur yn gweithio'n fwy effeithiol dros bobl Cymru.