Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymru'n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach, a Gwyrddach, strategaeth arloesi trawslywodraethol sy'n seiliedig ar genhadaeth. Mae'n nodi ein hamcanion wedi'u grwpio'n bedair cenhadaeth – Addysg, yr Economi, Iechyd a Llesiant a'r Hinsawdd a Natur.
Cyhoeddwyd cynllun cyflawni dilynol ym mis Hydref 2023 a oedd yn addo rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar ôl y flwyddyn gyntaf. Mae'r Datganiad hwn yn nodi'r cynnydd sylweddol gan Lywodraeth Cymru o ran rhoi nifer o gamau gweithredu ar waith ar draws y pedair cenhadaeth sydd o fudd i bob rhanbarth yng Nghymru.
Addysg
Ers mis Mehefin 2024, mae Gyrfa Cymru wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu ymwybyddiaeth entrepreneuraidd drwy Syniadau Mawr Cymru a ariennir gan Busnes Cymru, ac mae wedi cefnogi'r cwricwlwm newydd drwy ddatblygu adnoddau addysgu entrepreneuriaeth newydd ar Hwb a hyfforddiant.
Mae’r Robert Owen project: Guide to Co-operatives and Social Business (Saesneg yn Unig) a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn cynyddu profiadau arloesi mewn ysgolion. Ar gael ar Hwb, mae'n anelu at helpu pobl ifanc i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol drwy eu dysgu.
Rydym yn parhau i weithio gyda Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a sefydliadau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) i gyflwyno Gwobrau Arloesi Cymru gyfan. Denodd y digwyddiad 975 o fyfyrwyr o 67 ysgol yn 2023, a 1,015 o fyfyrwyr o 70 ysgol yn 2024.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24, derbyniodd 4,438 o fyfyrwyr Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) gefnogaeth gan Hyrwyddwyr Menter, gyda 702 o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddechrau busnes.
Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd ar gyfer parhad Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (Saesneg yn Unig) rhwng 2024-2027 ym mis Ebrill 2024 gyda chyllideb flynyddol o £1.4m gydag arian cyfatebol gan Innovate UK. Arweiniodd cyfraniad Llywodraeth Cymru o £1.8m a £1.5m gan gyrff cyllido cyhoeddus eraill a £5m gan fusnesau sy'n cymryd rhan at greu 83 o swyddi newydd yn ystod cyfnod diwethaf y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a gynhaliwyd rhwng 2021 a 2024.
Yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, ail-cafodd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ei ail-frandio fel Medr ym mis Mehefin 2024 a daeth yn weithredol ar 1 Awst 2024. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth o fewn ysgolion, dysgu oedolion yn y gymuned, ac ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth.
Mae Medr yn cefnogi galluoedd arloesol ac entrepreneuraidd prifysgolion Cymru drwy ei Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF), sydd wedi dosbarthu dros £28.3m ers mis Chwefror 2023. Mae hefyd yn annog prifysgolion i helpu myfyrwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd fel rhan o'r cyllid Cymorth Cyflogadwyedd i Fyfyrwyr.
Mae Medr wedi cael y dasg o ddatblygu diwylliant o arloesi a chydweithio gyda busnesau, buddsoddwyr diwydiant a llywodraeth yn seiliedig ar genhadaeth sy'n cyfrannu at yr economi a'r gymdeithas. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Medr wrth ddatblygu ei chynllun strategol, a gyflwynwyd i'w gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2024.
Yr Economi
Mae cenhadaeth yr Economi wedi gweld datblygiadau yng Nghymru, gyda llywodraeth y DU, ac yn rhyngwladol.
Cafodd ein Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) ei lansio ym mis Mehefin 2023 gan gefnogi sefydliadau, busnesau, colegau, prifysgolion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau ymchwil a thechnoleg waeth beth fo'u maint yn ein themâu blaenoriaeth a'n cryfderau . Mae SFIS wedi cefnogi 148 o brosiectau, gan ddarparu £11.8 miliwn mewn grantiau tuag at gyfanswm gwariant a ragwelir o £24.9 miliwn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2024, gan feithrin arloesedd, gwella cystadleurwydd, a sbarduno buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol.
Dechreuodd iteriad newydd o'n Rhaglen Cyflymu Twf ym mis Mehefin 2024, gan ategu darpariaeth cymorth busnes presennol Busnes Cymru. Mae'n darparu cymorth arbenigol trwy becyn cyngor wedi'i deilwra ar gyfer busnesau sy'n cael eu harwain gan arloesedd.
Lansiwyd cyllid ar gyfer archwiliadau Eiddo Deallusol sefydliadol (IP) i ddatblygu strategaeth IP ym mis Gorffennaf 2024 gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) ar y cyd â Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi datblygu ymhellach ein perthynas â Chynghorau Ymchwil y DU a chodi ymwybyddiaeth o'r cystadlaethau arloesi Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch (DASA) yn ogystal â gweithio ar y cyd i ddatblygu cynigion y Porthladdoedd Rhydd, y Parthau Buddsoddi a'r Fargen Ddinesig a Thwf.
Mae Adroddiad Astudiaeth Ddichonoldeb y DU ac Achos Busnes Amlinellol wedi’u datblygu i Raglen Technoleg Radioisodeip Uwch ar gyfer Adweithydd Cyfleustod Iechyd (ARTHUR) i’w lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru. Byddai ARTHUR yn cynhyrchu llawer o rannau allweddol meddyginiaeth niwclear a ddefnyddir i geisio gwella clefydau fel canser ac Alzheimer’s.
Nod Airbus Endeavr Wales (Saesneg yn Unig) (Endeavr), a gydariennir gan Lywodraeth Cymru ac Airbus Defence and Space yw darganfod a deall, trwy raglen ymchwil o'r safon uchaf, dechnolegau sy'n cefnogi datblygiad cynaliadwy busnes Airbus a datblygu a chryfhau galluoedd diwydiannol ac academaidd Cymru. Mae'r prosiect wedi ysgogi £1.3m rhwng blynyddoedd calendr 2023 a 2024 ac wedi cefnogi 5 prosiect allan o gyfanswm o 38 o brosiectau a gyflwynwyd.
Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 buddsoddodd Banc Datblygu Cymru dros £8.8m, gan gefnogi 31 o gwmnïau arloesi a thechnoleg, gan ysgogi £9.7m o gyd-fuddsoddiad ychwanegol yn y sector preifat. Mae Cronfa Sbarduno Technoleg bwrpasol y Banc yn cefnogi busnesau technoleg Cymru, a'r rhai sy'n barod i adleoli yma, ar gam prawf o gysyniad, gan annog arloesedd a thwf i gael effaith hirdymor.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r dull Contractau ar gyfer Arloesi i hyrwyddo gweithgarwch Datblygu, Ymchwil ac Arloesi cydweithredol a hwyluso caffael yn y sector cyhoeddus ar gyfer atebion arloesol. Mae chwe her wedi'u cefnogi ers mis Chwefror 2023, gan gynnwys yr Economi Gylchol; Gofal Cartref; Ansawdd Aer; gofal a gaiff ei fonitro gan glinigydd yn y cartref; a Nwyon Meddygol. O fis Rhagfyr 2024, mae dros £2.3m yn cefnogi 16 o brosiectau cydweithredol sy'n cynnwys 17 o fusnesau, 6 awdurdod lleol, 7 bwrdd iechyd a 2 sefydliad trydydd sector o Gymru.
O ran Llywodraeth y DU, rydym wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Innovate UK yn arwyddo cytundeb ar y cyd i rannu data, cynyddu gwaith partneriaeth a datblygu cynigion arloesi o safon uchel ar draws ystod o randdeiliaid, sectorau a rhanbarthau Cymru. O ganlyniad i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, mae Cynllun Arloesi ar y Cyd (Saesneg yn Unig) wedi'i gyhoeddi. Dangoswyd cynnydd mewn digwyddiad "Arloesi Lleol" a gynhaliwyd yn Wrecsam ym mis Tachwedd 2024.
Rydym yn parhau i gefnogi ceisiadau yng Nghymru am gyllid Innovate UK – ym mis Rhagfyr 2024, dyfarnwyd dros £66.7m i fusnesau ym mlwyddyn ariannol 2023-24, cynnydd o dros £5m o'r flwyddyn ariannol flaenorol, gan gefnogi 167 o brosiectau.
Mae rhaglen Launchpad Innovate UK yn cefnogi clystyrau BBaCh rhanbarthol sy’n dod i’r amlwg. Gan gydweithio â rhanddeiliaid Cymreig, mae wedi ymrwymo i fuddsoddi £7.5m mewn Launchpad Technolegau Sero Net yn Ne-Orllewin Cymru, lle mae’r chwe dyfarniad cyllid cyntaf wedi’u gwneud. Cytunwyd hefyd y byddai £5m yn cael ei ddyrannu ar gyfer lansio busnesau Technoleg Amaeth a Bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, lle mae naw prosiect wedi sicrhau cyfran o £400,000.
Daeth Llywodraeth Cymru yn bartner cyflawni ar gyfer Rhaglen Twf Busnes Innovate UK ym mis Ionawr 2024, gan gynnig cyfleoedd cydweithredu rhyngwladol i sefydliadau yng Nghymru ledled yr UE a thu hwnt. Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2024, rydym wedi ymgysylltu â 98 o sefydliadau i edrych ar gyfleoedd.
Mae Cymru yn un o un ar ddeg o rhanbarth arloesol yr UE sy'n rhan o Fenter Vanguard (Saesneg yn Unig) sydd wedi datblygu a chymryd rhan yn y cynllun peilot Vinnovate; mecanwaith cydweithredu rhyngranbarthol. Derbyniwyd ceisiadau yng Nghymru, gan weld cydweithio posibl gyda'r rhanbarthau canlynol - Galacia (Sbaen), Norte (Portiwgal); Dwyrain yr Iseldiroedd a Gogledd-orllewin Rwmania. Mae pum prosiect sy'n cynnwys naw sefydliad yng Nghymru yn cael cefnogaeth gwerth cyfanswm o tua £950,000 ar gyfer y cyfranogwyr o Gymru.
Iechyd a Lles
Mae'r rhaglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau gwerth £11.5m yn cefnogi ystod o lwyfannau arloesi, sy'n gysylltiedig â blaenoriaethau Gweinidogol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Technoleg Iechyd Cymru, Comisiwn Bevan a 10 canolfan cydlynu arloesi rhanbarthol ledled Cymru.
Lansiwyd y Comisiwn AI yn 2024 ac mae'n llywio'r defnydd priodol o AI mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cymeradwyo defnyddio'r Safonau Cofnodi Tryloywder Algorithmig (ATRS), gan sicrhau ymddiriedaeth a didwylledd wrth ddefnyddio AI mewn gofal iechyd.
Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi negodi mynediad at gyfres estynedig o raglenni'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i gynyddu cyllid ymchwil. Mae pob £1 sy'n cael ei wario yn y rhaglenni hyn yn golygu bod £10 o fudd economaidd yn dychwelyd ac yn arbed costau (Saesneg yn Unig) i'r GIG. Bydd lefelau uwch o weithgaredd ymchwil hefyd yn cynnig mwy o gyfleoedd i gleifion. Yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24, cafodd 19,627 o gyfranogwyr yng Nghymru eu recriwtio i astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel, gan sicrhau bod pobl yn cael mynediad cynnar at driniaethau blaengar a gwasanaethau arloesi.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i gefnogi ein menter Mynd i'r Afael â Chanser rhwng Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Mae wedi sefydlu cyfeiriadur o gyllid arloesi a phartneriaid arloesi allweddol, gan hwyluso mynediad at ffynonellau cyllid i gefnogi cydweithredu rhwng iechyd, diwydiant a'r byd academaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad blynyddol Arloesi ar gyfer Cymru Iachach 2023-2024 yr Hwb.
Mae amrywiaeth o bartneriaethau strategol ym maes iechyd a diwydiant ar waith gydag Amgen, Medtronic, Novartis, Pfizer, Eli Lilly a lllumina yng Nghymru. Mae partneriaethau'n canolbwyntio ar feysydd gan gynnwys gallu diagnostig, patholeg ddigidol, llwybrau gofal arloesol, AI a llwyfannau data aml-omig, gan feithrin mwy o fuddsoddiad yn sector gwyddorau bywyd Cymru.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi llwyddo i drafod cytundebau partneriaeth gyda BioNTech a Moderna i gefnogi treialon clinigol ymchwil masnachol yng Nghymru. Mae'r cytundeb Moderna yn sicrhau cyfranogiad Cymru yn Rhaglen Arloesi Brechlynnau'r DU. Mae cytundeb BioNTech yn cefnogi treialon brechlyn mNRA y cwmni yng Nghymru.
Mae £22m o gyllid ychwanegol wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y DU, fel rhan o'r cynllun gwirfoddol ar gyfer prisio meddyginiaethau wedi'u brandio, a'r rhaglen buddsoddi mynediad a thwf, i gryfhau gallu'r GIG i gyflawni ymchwil glinigol fasnachol. Dechreuodd y broses weithredu yn 2024, a bydd yn parhau tan 2028.
Mae'r prosiect QuicDNA, a ddarperir gan Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan a Phrifysgol Caerdydd, wedi dod â sefydliadau’r GIG ledled Cymru ynghyd, y Ganolfan Treialon Ymchwil, Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, amrywiol bartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys Illumina, Amgen a Medtronic, y trydydd sector a Menter Canser Moondance mewn partneriaeth i gefnogi’r gwaith o ganfod canser yr ysgyfaint yn gynt drwy fiopsi hylifol.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi arwain y ffordd gyda strategaeth ymchwil, arloesi a gwella gofal cymdeithasol newydd, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024. Bydd yn creu’r amodau i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol mewn gofal cymdeithasol, ac yn ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.
Mae grŵp rhyng-Weinidogol, gydag aelodaeth o bob un o’r llywodraethau datganoledig a’r DU wedi’i greu i ddatblygu dull cyffredin o gyflymu’r broses o fabwysiadu arloesedd ar draws systemau’r GIG ym mhob rhan o’r DU.
Hinsawdd a Natur
Buddsoddodd y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd £3.3m mewn 16 prosiect yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24, gyda £4.2m arall o brosiectau newydd yn cael eu hystyried. Mae cyfanswm o 20,266 tunnell o arbedion CO2e yn cael ei ragweld ac amcangyfrif y bydd yn arbed costau blynyddol i fusnesau gwerth £1m.
Lansiwyd y Gronfa Economi Gylchol ym mis Mehefin 2023 gan gefnogi 19 o brosiectau gan sefydliadau yng Nghymru hyd at fis Rhagfyr 2024. Dyfarnwyd dros £2m gan olygu cyfanswm costau prosiectau o £3.8m.
Mae £70m o gyllid cyfalaf ar gael i landlordiaid cymdeithasol drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24 ac mae cam symud ar y gweill ar gyfer cynllun ôl-osod cartrefi i berchen-feddianwyr.
Buddsoddodd y cynllun Byw'n Glyfar ar gyfer arloesi datgarboneiddio £238,000 mewn prosiectau dichonoldeb hydrogen Contractau ar gyfer Arloesi rhwng mis Chwefror 2023 a mis Mawrth 2024. Dyfarnwyd £400,000 pellach i bedair her ranbarthol drwy'r SBRI Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan newydd ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID) ym mis Hydref 2024.
Mae Contract ar gyfer Her Arloesi Amonia yn mynd rhagddo i fynd i'r afael ag allyriadau amonia cynyddol o wartheg. Mae £1m wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd Mawrth 2025. Bydd pum cwmni yn rhannu cyllid ac maent yn y broses o gynnal prawf maes 12 mis llawn o'u cynhyrchion a'u methodolegau.
Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom hefyd lansio elfen Coedwigaeth a Phren y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, gan gynnig £280,000 i gefnogi busnesau i gael mynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio eu gweithwyr. Mae'r gronfa yn cefnogi busnesau yn y sectorau hyn yn ogystal â'u cadwyni cyflenwi, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch ym maes pren. Rydym am sicrhau bod sgiliau'n cael eu datblygu i alluogi defnydd cynyddol o bren yn y diwydiant adeiladu. Mae deall technoleg coed ar draws yr amgylchedd adeiledig yn hanfodol i adeiladu adeiladau carbon isel effeithlon yma yng Nghymru.
I gloi
Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i olrhain cwrs y cenadaethau, gan fyfyrio ar yr hyn sydd wedi newid. Dyma'r diweddariad cynnydd cyntaf ar ôl cyhoeddi'r strategaeth. Cynhelir gwerthusiad ffurfiol o'r strategaeth ym mlynyddoedd tri a phump i edrych ar weithredu, cynnydd ac effeithiau’r strategaeth.