Dafydd Elis-Thomas AS, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Bu’n flwyddyn heriol i’r diwydiannau creadigol. Pan lansiais Cymru Greadigol yn gynnar yn 2020, gan fodloni ymrwymiad maniffesto pwysig, ni allai neb fod wedi rhagweld pandemig y coronafeirws ar draws y byd, na'i effaith ddinistriol ar ein bywydau a'n bywoliaeth. Fodd bynnag, mae Cymru Greadigol, yn ei babandod, wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r sector i ymateb yn gyflym i'r argyfwng. Wrth inni symud ymlaen o ddathlu pen-blwydd cyntaf Cymru Greadigol, hoffwn roi crynodeb i'r Aelodau o'r gwaith pwysig a wnaed hyd yma a nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Yn benderfynol i gefnogi’r sector, buom yn gweithio mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid i ailffocysu ein gweithgarwch. Sefydlwyd grwpiau rhanddeiliaid gennym ar gyfer ein sectorau blaenoriaeth allweddol ac ymgysylltwyd â hwy drwy gydol y flwyddyn i nodi materion a phryderon, profi ein syniadau a datblygu ein dull o gefnogi. Fel ymateb uniongyrchol i'r cyfyngiadau symud gwreiddiol, roedd cronfa fach ar gael i leoliadau cerddoriaeth, stiwdios a mannau ymarfer ar lawr gwlad. Roedd hyn yn hynod bwysig er mwyn sicrhau cynaliadwyedd parhaus sector sy'n dal i wynebu costau rhedeg ond nad yw'n gallu agor. Ochr yn ochr â hyn, gwnaethom ad-drefnu ein cynlluniau ariannu prosiectau datblygu arfaethedig ar gyfer ein sectorau teledu a digidol i ddarparu cymorth brys i sefydliadau nad ydynt yn gallu gweithredu yn yr un ffordd ag arfer yng ngoleuni cyfyngiadau COVID-19. Dyfarnwyd £150,000 yn ychwanegol i Gyngor Llyfrau Cymru i helpu i sicrhau bod y sector cyhoeddi'n cael ei gefnogi, gan gynnwys siopau llyfrau annibynnol sydd ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud ac sydd wedi dioddef o ddiffyg gwerthiant.
Mae'r ymyriadau brys hyn yn dwyn ffrwyth. Mae buddsoddiad bach mewn prosiect datblygu teledu ar gyfer Avanti bellach wedi arwain at gomisiwn C4 ar gyfer rhaglen 20 episod yn ystod oriau brig. Mae hyn yn fuddugoliaeth fawr i'r cwmni ac ni fyddai wedi digwydd heb ein cefnogaeth ni. Mae buddsoddiad tebyg mewn busnes datblygu gemau wedi sicrhau £1.1m o gyllid gan gyhoeddwr sydd wedi'i leoli y tu allan i'r DU. Mae'r math hwn o fuddsoddiad preifat mewn cwmni gemau bach yn anodd iawn ei sicrhau a gallai olygu twf sylweddol os yw'r rhaglen yn llwyddiannus.
Ategwyd y cymorth hwn gan y Gronfa Adfer Ddiwylliannol gwerth £63m. Chwaraeodd Cymru Greadigol ran arweiniol yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r gronfa hon, a oedd yn targedu cymorth hanfodol pellach i sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd. Mewn ymateb i angen parhaus o fewn y gymuned lawrydd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £8.9m arall yn ddiweddar ar gyfer y gronfa gweithwyr llawrydd.
Buom yn gweithio'n gyflym i lunio canllawiau ym mis Mehefin 2020, i sicrhau bod pobl yn gallu ailgychwyn gweithgarwch o fewn y diwydiannau creadigol, yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru. Gweithiodd fy swyddogion yn agos gyda rhanddeiliaid yng Nghymru ac ar lefel y DU i ddatblygu'r canllawiau hyn ac i gefnogi'r gwaith o ddatblygu canllawiau a arweinir gan y diwydiant. Maent wedi bod yn arf allweddol i helpu i ailgychwyn gweithgarwch. Rydym yn parhau i roi eglurder ar y rheolau yng Nghymru, fel y gall cynifer o'n busnesau, y gadwyn gyflenwi a gweithwyr llawrydd â phosibl barhau i weithio'n ddiogel.
Hyd yn oed yn wyneb heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, mae meysydd allweddol o'n gwaith wedi datblygu. Rydym yn cefnogi cynyrchiadau o Gymru a'r tu allan i Gymru, gydag un ar ddeg o gynyrchiadau newydd yn cael eu cefnogi yn 2020. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglen gyffrous The Pact a ragwelir yn eang a gomisiynwyd gan BBC Cymru Wales. Disgwylir i'r gyfres chwe rhan gael ei darlledu yng ngwanwyn 2021 a dyma'r comisiwn cyntaf i'r cwmni cynhyrchu annibynnol Little Door Productions yng Nghaerdydd. Cefnogwyd y cynhyrchiad yn uniongyrchol gan Cymru Greadigol drwy gyllid cynhyrchu, a chymorth logistaidd drwy ei dîm Sgrin Cymru.
Yn ddiweddar, rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â'r BBC i groesawu'r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol fyd-enwog i Gymru. Rydym hefyd yn cryfhau ein seilwaith, ac roeddem yn falch iawn o gyhoeddi ym mis Hydref 2020 ein cytundeb gyda Great Point Media i brydlesu a rheoli canolfan Seren Stiwdios yng Nghaerdydd, Cymru.
Rydym hefyd yn hynod gyffrous i groesawu Lucasfilm i Gymru. Bydd Lucasfilm yn creu WILLOW, cyfres antur ffantasi epig a fydd yn ymddangos am y tro cyntaf ar Disney + yn 2022. Mae'r gyfres yn parhau ag ysbryd antur, arwyr a hiwmor prif ffilm Ron Howard ym 1988 a gafodd ei ffilmio yn Llanberis yng Ngwynedd. Mae Lynwen Brennan, Is-lywydd Gweithredol a Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm yn hanu o Ddinbych-y-pysgod, ac yn hwyluso'r cyflwyniad rhwng Llywodraeth Cymru a Lucasfilm. Mae sicrhau'r prosiect hwn yn benllanw ar dair blynedd o ddeialog â'r cwmni a bydd yn dod â gwariant sylweddol yng Nghymru a chyfleoedd hyfforddi rhagorol. Bydd y gyfres yn dechrau ffilmio yng Nghymru yn 2021.
Mae'r llwyddiannau hyn yn ymestyn i'n sectorau ehangach. Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi antur ddiweddaraf Wallace & Gromit i realiti estynedig, drwy ddarparu cyngor ac arweiniad i Fictioneers wrth sicrhau cyllid Innovate UK ar gyfer The Big Fix Up, sy’n stori realiti estynedig am genhadaeth cymeriadau poblogaidd Aardman i 'drwsio' dinasoedd drwy ap ffôn rhyngweithiol newydd. Mae’r diwydiant cerddoriaeth a chynulleidfaoedd wedi ymateb yn dda i restr chwarae Spotify Cymru Greadigol, ac mae'n creu cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg a phroffil talent Cymru. Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio ffolio.cymru yn ddiweddar, fel y llwyfan dwyieithog cyntaf erioed i ganolbwyntio ar werthu e-lyfrau o Gymru i'r byd ehangach. Mae'r fenter wedi bod yn bosibl oherwydd y cyllid cyfalaf ychwanegol o £750,000 a ddyfarnwyd gan Cymru Greadigol ar ddechrau 2020.
Wrth inni edrych ymlaen at 2021 byddwn yn parhau'n hyblyg, i'n galluogi i ymateb i faterion parhaus a manteisio ar gyfleoedd wrth i'r economi wella. Byddwn yn gwneud hyn gan gadw mewn cof y blaenoriaethau a nodir yng nghynigion Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, i ddiogelu, adeiladu a newid ar gyfer Cymru fwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach. Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth symlach, deinamig ac arloesol i'r sector diwydiannau creadigol, sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Am beth amser i ddod, bydd yr anghenion hynny'n cynnwys helpu'r sector i addasu i weithredu yn unol â chyfyngiadau parhaus o ganlyniad i bandemig COVID-19. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y sectorau hynny nad ydynt yn gallu ailddechrau gweithgarwch arferol o hyd, megis y diwydiant cerddoriaeth, a byddwn yn edrych ar opsiynau ar gyfer cyllid parhaus i sicrhau bod cynaliadwyedd yn parhau. Byddwn yn cefnogi'r diwydiannau creadigol i addasu i'r amgylchedd sy'n newid ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd a chyflwyno Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r UE-DU.
Bydd 2021 yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a thalent, amrywiaeth a chynwysoldeb. Rydym am gael sector amrywiol sy'n darparu cyfleoedd a chanlyniadau cyfartal i bawb, a byddwn yn ceisio mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau sydd wedi'u gwaethygu gan yr argyfwng presennol. Byddwn yn archwilio pob cyfle i ehangu ymhellach y gofod stiwdio o safon sydd ar gael ledled Cymru. Wrth i'r galw am ofod gynyddu yn y DU, rydym am i Gymru fod ar frig y rhestr o leoliadau gwych i gynhyrchu cynnwys newydd. Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer mwy o gefnogaeth i'r sector gemau fideo, ochr yn ochr â busnesau creadigol eraill sy'n seiliedig ar dechnoleg.
Bydd ein Bwrdd Anweithredol newydd yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo ein blaenoriaethau, gan ddarparu cyngor a her wrth i ni symud ymlaen. Byddwn yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid, yn gwrando arnynt, ac yn adeiladu ar y partneriaethau gwirioneddol a sefydlwyd gennym yn dilyn ein lansiad. Byddwn yn cyfarfod â'r sector ar 18 Mawrth ar gyfer sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid i drafod ein cynlluniau ar gyfer 2021.
Mae'r diwydiannau creadigol yn rhan bwysig o economi Cymru, ei diwylliant a'i chymdeithas. Bydd yn allweddol i'n hadferiad fel yr amlinellir yn y Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu'r Economi a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon. Mae'r sector wedi bod yn gadarn ac yn agored wrth ddod o hyd i ffyrdd arloesol o symud ymlaen a byddwn yn parhau i gydweithio â'r sector i ymateb i heriau parhaus, i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer twf.