Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r ymgynghoriad – Cymru Fwy Cyfartal – Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mae hwn yn nodi cam hanfodol yn ein gwaith o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn casglu safbwyntiau ar ein cynnig i gychwyn Rhan 1, Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 – y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae'n holi pa gyrff cyhoeddus y mae'r ddyletswydd yn berthnasol iddynt a sut y mae'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni.
Diben y ddyletswydd yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus penodol, wrth wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion, yn ystyried (cynnal asesiad) sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.
Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn llywio canllawiau i sicrhau bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn gweithio ar gyfer y cyrff cyhoeddus hynny y mae’n berthnasol iddynt ac yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Mae cychwyn y ddyletswydd yn rhoi cyfle i ni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru, gan sicrhau bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau strategol. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Mae'r ymgynghoriad yn cyd-fynd â'r Papur Gwyn, Cymru Fwy Cyfartal: Atgyfnerthu Partneriaeth Gymdeithasol, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn i atgyfnerthu ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol a fydd yn arwain at ddeddfwriaeth i roi'r dull gweithredu partneriaeth gymdeithasol mewn statud.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Ionawr 2020.