Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth inni symud ymlaen, drwy’r adolygiad 21 diwrnod nesaf yn ddiweddarach yr wythnos hon a’r tu hwnt, byddwn ni’n parhau â’n dull gofalus a graddol o lacio’r cyfyngiadau. Ond nid ‘mynd yn ôl i’r drefn arferol’ fydd hyn.

Er bod y gyfradd heintio yn parhau i ddisgyn a bod lledaeniad y coronafeirws wedi arafu diolch i ymdrechion pobl ledled Cymru, nid yw’r feirws wedi diflannu.

Ar hyn o bryd, prin yw’r triniaethau effeithiol ar gyfer y feirws a does dim brechlyn; er bod ymchwil yn parhau, gan gynnwys yma yng Nghymru, gyda miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn astudiaethau blaengar.

Ond rydym ni eisoes yn gwybod y bydd yna newidiadau mawr yn ein ffordd o weithio a’n ffordd o fyw i ddiogelu pob un ohonom ni rhag dod i gysylltiad â’r feirws ac i ymateb i’w effeithiau.

Mae’r coronafeirws wedi cael cryn effaith ar bob gwlad yn y byd ac ar Gymru. Yn ogystal â’r risgiau iechyd; mae swyddi yn y fantol; mae arian cyhoeddus yn y fantol; mae ein cymunedau bregus yn y fantol.

Does dim dwywaith nad ydym ni’n wynebu heriau enfawr, digynsail. Nid yw’r economi wedi cael ei ‘rhewi’ i’r fath raddau erioed o’r blaen, ac er bod ymateb Llywodraeth Cymru ac ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn gyflym ac yn bendant, mae’n sicr y bydd llawer mwy o fusnesau yn mynd i’r wal wrth i’r Cynllun Cadw Swyddi ddod i ben. Golyga hyn y gall miloedd o swyddi fod yn y fantol. Ac ar ben sgil-effeithiau economaidd y pandemig, mae hi nawr yn sicr y bydd y cyfnod pontio o’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr – ychydig dros 7 mis i ffwrdd. Hyd yn oed os oes cytundeb, bydd hyn yn siŵr o amharu’n aruthrol ar y ffordd y mae ein busnesau’n masnachu gyda’n marchnad fwyaf ni. O dan yr amgylchiadau presennol, ni fydd modd iddyn nhw baratoi ar gyfer hyn.

Ac mae’r angen i ymateb i Argyfwng yr Hinsawdd – y dasg o ddatgarboneiddio ein cymdeithas – yr un mor hanfodol bwysig â’r heriau eraill sy’n ein hwynebu. Wrth ymateb i sgil-effeithiau COVID-19, rhaid inni fynd ati i gyflawni’r adferiad “gwyrdd” a fydd yn cynnal Cymru at y dyfodol.

Wrth inni gynllunio llwybr ar gyfer adfer ac ailgodi, bydd ein dull wedi’i seilio ar yr un gwerthoedd – ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol – ac yn cynnwys ein rhwymedigaethau i’r rhai a ddaw ar ein holau ni yn ogystal â’r rhai sy’n byw drwy COVID-19, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’n glir bod yr argyfwng hwn yn bygwth niweidio bywydau’r genhedlaeth nesaf – megis bywydau plant yn sgil absenoldeb hir o’r ysgol neu fywydau pobl ifanc yn sgil diweithdra. Rhaid i’n hymateb i’r argyfwng hwn ystyried yr effeithiau mwy hirdymor hyn, a gwneud popeth posibl i’w lliniaru. Yn fwy hirdymor, rhaid i ddyfodol ein plant a’n pobl ifanc fod wrth wraidd ein strategaeth ar gyfer adfer. Nhw yn wir yw Cymru Ein Dyfodol.

Mae ein gwerthoedd yn parhau’r un fath, ond bydd angen inni fod yn ddi-ofn ac yn radical wrth ystyried polisïau sefydledig o safbwynt gwirionedd newydd y byd ar ôl COVID-19. Ni fydd llawer o’r pethau sydd wedi gweithio yn y gorffennol yn addas i’r diben mwyach. Bydd angen inni fod yn hyblyg ac yn greadigol wrth gloriannu ein dulliau presennol ac wrth ddatblygu rhai newydd. O ganlyniad, yn ogystal â manteisio ar syniadau o fewn y Llywodraeth, rydym ni’n benderfynol o edrych yn allanol am her i’n ffyrdd sefydledig o feddwl ac am ysbrydoliaeth newydd.

Ym mis Mai, gwnes i wahodd pobl Cymru i anfon eu barn atom ar sut y dylem ni gefnogi’r broses adfer ac ailgodi ar ôl COVID-19 yng Nghymru. Mae dros 1000 o negeseuon wedi’u hanfon i’r blwch post pwrpasol a sefydlwyd gennym: cymrueindyfodol@llyw.cymru. Mae’r gwaith o’u hadolygu wedi dechrau a’n neges ni i bobl Cymru yw: daliwch ati i’w hanfon. Mae llawer o’r negeseuon hyn wedi bod yn heriol ac yn greadigol. Bydd dadansoddi’r syniadau a ddaw i law, a gweithredu arnynt, yn rhan allweddol o’n gwaith ar yr adferiad dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Mae fy nghyd-Weinidogion hefyd yn ysgrifennu at eu rhanddeiliaid i’w gwahodd nhw i anfon eu barn yn yr un ffordd. Rydym ni’n gofyn i bobl wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf. Nid hynny fydd diwedd y sgwrs genedlaethol hanfodol hon, ond rydym ni am helpu i ganolbwyntio ymdrechion pobl i gyfrannu at ein dealltwriaeth a’n ffordd o feddwl yn y dyddiau cynnar hyn.

Yn ogystal â chlywed gan bobl ledled Cymru, yn y chwe wythnos diwethaf, rwyf hefyd wedi galw chwe chyfarfod bord gron gydag arbenigwyr o Gymru ac o wahanol rannau o’r byd i ddechrau trafodaeth ar sut i fynd ati i gyflawni’r dasg dan sylw. Rwy’n hynod o ddiolchgar i bawb a gymerodd ran. Roedd y trafodaethau’n gyfoethog ac yn fanwl: mae rhestr o’r cyfranogwyr yn llyfrgell y Senedd a bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a helpodd i gynnal y cyfarfodydd hyn, yn cyhoeddi adroddiadau cryno.

Un o ganlyniadau’r cyfarfodydd hyn fydd panel craidd, bach o arbenigwyr i ddarparu cyngor a her barhaus ac ychwanegu safbwynt allanol ar gyfer ein syniadau o ran sut y dylai ein polisïau esblygu. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Torsten Bell o’r Resolution Foundation, Rebecca Heaton sy’n arbenigwr blaenllaw mewn ynni adnewyddadwy, Paul Johnson sy’n arwain y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Miatta Fahnbulleh sy’n bennaeth ar y New Economics Foundation wedi cytuno i fod yn aelodau sefydlog o’r panel hwn, pob un o’r pedwar yn gwasanaethu’n bersonol. Byddwn ni hefyd yn cynnwys arbenigwyr eraill mewn meysydd penodol yn y trafodaethau yn ôl yr angen.

Rwyf i, ynghyd â’m cyd-Weinidogion, wedi bod yn ystyried y negeseuon sydd wedi deillio o’r trafodaethau hyd yma er mwyn nodi blaenoriaethau cynnar. Bydd ein panel allanol yn ein cynorthwyo gyda’r rhain ac rydym ni’n awyddus i glywed barn y cyhoedd arnynt. Ymysg y materion cynnar i’w hystyried fydd: sut i fuddsoddi yn ein pobl drwy roi’r sgiliau iddyn nhw ar gyfer yr economi ôl-COVID-19 a’r gallu i addasu a geir wrth ddysgu drwy gydol oes; sut y gallwn ni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol yn llawn ond yn gynaliadwy; arloesi ym maes tai cymdeithasol; sut y gallwn ni feithrin gallu creadigol ein busnesau cynhenid; a sut y gallwn ni ailystyried canol trefi fel y byddant yn dod yn ganolbwynt bywiog i’r gymuned unwaith eto. Ond mae digonedd o heriau eraill, ac yn wir gyfleoedd, o’n blaenau.

Byddaf wedyn yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr yn y Cabinet, yn enwedig y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, i sicrhau bod y negeseuon cyntaf fydd yn deillio o’r sgwrs genedlaethol hon yn llywio’r dewisiadau anodd y bydd rhaid inni eu gwneud wrth lunio cyllideb ar gyfer 2021-22. Rhaid i’r dewisiadau hyn – a dewisiadau’r Llywodraeth Cymru nesaf – gael eu harwain yn fwy na dim gan ein gwerthoedd a’r dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio wrth eu rhoi ar waith yn y cyfnod newydd hwn, nid gan yr hyn yr ydym ni wedi’i wneud yn y gorffennol.