Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad ar fersiwn drafft ein Strategaeth hirdymor ar reoli tybaco, Cymru Ddi-Fwg a’n Cynllun Cyflawni, Tuag at Gymru Ddi-fwg 2022-2024. Mae’r Strategaeth ddrafft yn amlinellu ein huchelgais i Gymru fod yn Gymru ddi-fwg erbyn 2030. Mae hyn yn golygu sicrhau cyfraddau smygu o 5% neu lai ymhlith oedolion dros yr wyth mlynedd nesaf. I gefnogi gweithrediad y Strategaeth, byddwn yn rhoi cyfres o gynlluniau gweithredu dwy flynedd yn eu lle, gan ddechrau o 2022-2024. Bydd rhain yn amlinellu’n fanwl y camau y byddwn yn eu cymryd ac yn eu cefnogi wrth inni weithio tuag at gyflawni Cymru ddi-fwg.

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021-2025 yn glir bod mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chanolbwyntio ar atal smygu yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru. Mae smygu yn hynod o niweidiol ac andwyol i iechyd, a dyna yw un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru o hyd. Rwyf felly am inni fod yn uchelgeisiol a chymryd camau penodol a fydd o gymorth i leihau effeithiau niweidiol tybaco yng Nghymru.

Mae cyhoeddiad y Strategaeth ddrafft a’r Cynllun Cyflawni yn gyfle i roi barn ar reoli tybaco yng Nghymru, ac rwy’n awyddus i glywed safbwyntiau pawb. Yn ystod y broses ymgynghori a fydd ar waith tan 31 Ionawr 2022, rydym hefyd yn cynllunio i ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd i glywed eu barn a’u safbwyntiau ynghylch ein modd o ymdrin â rheoli tybaco. Rwy’n awyddus iawn i bobl ifanc a’r rheini sy’n cael eu heffeithio’n agos gan smygu fod yn rhan o’r drafodaeth a’r gwaith ymgysylltu.

Edrychaf ymlaen at ystyried yr ymatebion a geir o’r ymgynghoriad a’r gweithgareddau ymgysylltu. Y bwriad yw y daw’r Strategaeth a’r Cynllun Cyflawni i rym yn nhymor y gwanwyn 2022. Rwy’n awyddus ein bod ni fel Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal afiechyd a chefnogi pobl i wneud penderfyniadau iachach o ran eu hiechyd a’u llesiant. Rwy’n gobeithio y bydd pobl ledled Cymru yn rhoi eu barn ar sut i symud ymlaen at sicrhau Cymru ddi-fwg i bawb.

Os hoffai Aelodau neu randdeiliaid gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau rheoli tybaco, cysylltwch â: PolisiTybaco@llyw.cymru