Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 26 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hadroddiad Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol cyntaf ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y DU o dan Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn adlewyrchu'r camau sydd wedi eu cymryd ar draws y DU, gan gynnwys y camau a gymerwyd yma yng Nghymru ers 2015, pan gafodd y Nodau Datblygu Cynaliadwy eu mabwysiadu am y tro cyntaf.

Fel y mae Aelodau'r Cynulliad yn gwybod, mae datblygu cynaliadwy wedi bod yn ganolog i ddatganoli o’r cychwyn cyntaf. Yn 2015, gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfyniad hanesyddol i sicrhau bod Cymru yn dilyn llwybr mwy cynaliadwy drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn adlewyrchu'r ymdrechion diflino gan bobl ar draws Cymru i gryfhau'r ffordd y caiff dyfodol Cymru ei lywio. Dyma oedd ymrwymiad cymdeithas Cymru i well ansawdd bywyd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Fe wnaethom hyn ar yr un pryd ag yr oedd y Cenhedloedd Unedig yn datblygu'r Nodau Datblygu Cynaliadwy, ac mewn cyfnod o lymder. 

Er mwyn dweud ein stori ni, ac er mwyn darparu man cychwyn defnyddiol ar gyfer adolygu cyfraniad Cymru at yr agenda hon, rydym heddiw yn cyhoeddi Adroddiad Atodol i Adroddiad Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU. Mae hwn yn amlinellu'r camau yr ydym wedi eu cymryd, y newidiadau polisi a'r newidiadau sefydliadol yr ydym wedi eu gwneud, y gwersi yr ydym wedi eu dysgu a'r meysydd y mae angen i ni wella arnynt yn y dyfodol.

Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a ddaeth i Uwchgynadleddau y Nodau Datblygu Cynaliadwy yn gynharach eleni, ac i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac aelodau gweithgor 'Cymru a'r Nodau Datblygu Cynaliadwy' a wnaeth helpu i lunio'r adroddiad atodol hwn.

Rydym wedi gweld sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cydnabod gwerth y Ddeddf wrth symbylu, ac wrth gwrs herio, y modd y mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn canfod atebion yn awr ac yn y dyfodol. Un o'r gwersi allweddol o'r adolygiad hwn yw'r angen i wella sut yr ydym yn cynnwys rhanddeiliaid ar draws Cymru o ran sut yr ydym yn darparu arweiniad ar y Ddeddf. I'r perwyl hwn, rydym wedi ymrwymo i sefydlu fforwm cymdeithas sifil er mwyn cefnogi cam nesaf y broses o weithredu'r Ddeddf.  

Mae'r adroddiad atodol yn gyfle amserol i ystyried yr hyn a gyflawnwyd yng Nghymru, wrth i ni symud tuag at 2020, a fydd nid yn unig yn nodi pum mlynedd ers yr adeg y cytunwyd ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, ond hefyd bum mlynedd ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar y saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Y flwyddyn nesaf, bydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn llunio ac yn cyhoeddi'r Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol statudol cyntaf ar gyfer Cymru. Bydd hwn yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Bydd yr adroddiad yn cael ei ategu gan adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a fydd hefyd yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd hyn yn cynnig gwell dealltwriaeth i'r Aelodau o'r cynnydd yr ydym yn ei wneud gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rhagor o wybodaeth

Adroddiad Atodol Cymru i Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y Deyrnas Unedig o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy

https://llyw.cymru/adolygiad-cenedlaethol-gwirfoddol-y-du-adroddiad-atodol-cymru-2019  

Uwchgynadleddau y Nodau Datblygu Cynaliadwy: Cymru

https://futuregenerations.wales/cy/international_work/un-sustainable-development-goals-and-the-uk-voluntary-national-review-2/

Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y Deyrnas Unedig o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy

https://www.gov.uk/government/publications/uks-voluntary-national-review-of-the-sustainable-development-goals

Trawsnewid ein byd - Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

https://sustainabledevelopment.un.org/?menu=1300

Fforwm Gwleidyddol Lefel Uchel ar Ddatblygu Cynaliadwy 2019

https://sustainabledevelopment.un.org/hlpf