Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae gan y system addysg rôl hollbwysig o ran sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Fel llywodraeth, rydym yn parhau'n ymrwymedig i weld y sector addysg Cymraeg yn tyfu, fel yr amlinellir yn ein strategaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod hefyd angen mynd i'r afael ag ystod o heriau sylweddol mewn perthynas ag addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru.
Gwyddom fod gormod o lawer o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb y sgiliau Cymraeg effeithiol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y byd gwaith, bywyd ac astudio, er eu bod wedi astudio'r Gymraeg fel ail iaith ers blynyddoedd.
Rydym ar fin dechrau rhaglen gyffrous a radical ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth i Aelodau ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn yn nes ymlaen y mis hwn.
Cyn ein bod yn cyhoeddi ein cynllun, hoffwn sôn hefyd sut rydym yn gweithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies ar Gymraeg Ail Iaith, Un iaith i bawb, sy’n ystyried sut i fynd i'r afael â safonau isel a chyrhaeddiad isel yn y pwnc hwn.
Rhoddais ddiweddariad i’r Aelodau ym mis Mai y llynedd ac addewais ddarparu adroddiad pellach ar y camau sy'n weddill pan fyddai adroddiad yr Athro Graham Donaldson ar ei Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru, sef Dyfodol Cynaliadwy, wedi'i gyhoeddi. Rwyf bellach yn hapus i wneud hynny.
Mae Dyfodol Llwyddiannus yn cyflwyno deg argymhelliad mewn perthynas â'r Gymraeg yn y cwricwlwm ar draws yr ystod oedran 3-16 oed, sy'n cwmpasu'r holl gyfnodau allweddol presennol. Mae'r rhain yn ymateb yn uniongyrchol i argymhellion yr Athro Davies.
Rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion hyn, gan gynnwys yr argymhelliad y dylai’r Gymraeg barhau’n orfodol hyd at 16 oed. Fel yr amlinellodd yr Athro Donaldson yn ei adroddiad 'Mae’r manteision diwylliannol, gwybyddol ac ymarferol o ddysgu Cymraeg fel iaith fyw yn cynnig dadl gref o blaid ei chynnwys yn elfen orfodol yn y cwricwlwm ysgol'.
Yn y cwricwlwm newydd, bydd pynciau traddodiadol yn cael eu strwythuro o dan chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Bwriedir cyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a fydd yn cynnwys pwyntiau cyfeirio a deilliannau cyflawniad clir a phenodol ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg dros amser. Bydd dysgwyr ym mhob ysgol a lleoliad yn gallu cael cydnabyddiaeth am y sgiliau a ddatblygir ganddynt – hynny yw, yn syml, continwwm dysgu ystyrlon o 3-16 oed ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Yn ogystal, dylai pob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad gynnwys, lle'n briodol, dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol yn unol ag argymhellion yr Athro Davies a'r adolygiad annibynnol o'r Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru.
Byddwn yn canolbwyntio o’r newydd ar ddysgu Cymraeg fel ffordd o gyfathrebu yn bennaf, yn enwedig cyfathrebu llafar a deall iaith lafar.
Wrth weithredu'r argymhellion hyn, rydym yn bwriadu cynyddu’r gwerth a roddir ar y Gymraeg drwy ganolbwyntio mwy ar ei gwerth masnachol yn y farchnad swyddi, ar fanteision gwybyddol posibl dwyieithrwydd ac ar ei phwysigrwydd o ran galluogi plant a phobl ifanc i gael dealltwriaeth dda o fywyd diwylliannol Cymru yn y gorffennol a’r presennol - sy'n argymhelliad penodol yn adroddiad Sioned Davies.
Bydd y gwaith ar ddatblygu cwricwlwm newydd yn cael ei wneud gan ein rhwydwaith o ysgolion arloesi, gyda chymorth arbenigwyr o Gymru ac arbenigwyr rhyngwladol. Bydd eu cyfraniad yn allweddol er mwyn datblygu’r fframwaith newydd. Caiff y pwyntiau cyfeirio, y deilliannau cyflawniad a'r cymhwysedd rhyngweithredol eu diffinio wrth i ni ddatblygu'r Maes Dysgu a Phrofiad newydd yn ymwneud ag Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu gyda'r rhwydwaith o ysgolion arloesi.
Gadewch imi fod yn glir, rwyf am i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael cyfle i ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus. Rwyf hefyd am i blant a phobl ifanc ystyried bod siarad Cymraeg, ac ieithoedd eraill, yn ddewis deniadol a gwerth chweil.
Mae nifer o brosiectau arloesol ar waith i wella'r modd y caiff y Gymraeg ei haddysgu a'u dysgu mewn ysgolion Saesneg drwy'r cwricwlwm presennol, a bydd hyn yn llywio gwaith y rhwydwaith o ysgolion arloesi.
Er enghraifft, mae dau glwstwr o ysgolion cynradd Saesneg wedi bod yn gweithio ar brosiect i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2, yn unol â'r ymrwymiad y rhaglen lywodraethu. Hefyd, mae'r Urdd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion uwchradd Saesneg i drefnu a chynnal gweithgareddau anffurfiol drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg y tu hwnt i'r dosbarth. Mae'r ddau brosiect bellach wedi'u gwerthuso a bydd yr adroddiadau'n cael eu cyhoeddi maes o law.
Lansiais 'Dyfodol Byd-eang', ein cynllun strategol ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern, ar 7 Hydref. Mae'r ysgolion hynny eisoes wedi dechrau ar y gwaith o'i weithredu ac rwyf wedi gofyn i Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang archwilio a darparu cyngor ar sut i gyflawni 'dwy iaith a mwy' mewn ysgolion.
Fodd bynnag, nid oes ateb cyflym. Yn ogystal â datblygu cwricwlwm newydd a fydd yn codi'r safon ar gyfer addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion, mae angen i ni hefyd sicrhau bod gan ein proffesiwn addysgu sgiliau gwell.
Yn y tymor byr, bydd nifer o gamau gweithredu'n cael eu cymryd naill ai yn unol â'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, drwy weithredu Dyfodol Llwyddiannus neu drwy'r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg ac adolygiad yr Athro Furlong o addysg athrawon.
Byddwn hefyd yn:
- parhau i gryfhau'r gefnogaeth ysgol i ysgol drwy'r consortia rhanbarthol ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill sydd â'r arbenigedd angenrheidiol.
- parhau i ddarparu hyfforddiant Cymraeg dwys i ymarferwyr drwy'r Cynllun Sabothol.
- gweithio gydag Estyn a'r consortia rhanbarthol i nodi arferion gorau o ran addysgu a dysgu Cymraeg ail iaith a chanfod sut mae ysgolion yn perfformio yng nghyfnodau allweddol 2 a 3.
- gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ganfod beth yw sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol.
- hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc a hefyd fel sgil ar gyfer y gweithle.
I ategu'r gwaith ehangach a wneir i annog mwy i gaffael y Gymraeg, rwyf wedi gofyn i Gymwysterau Cymru, ein corff cymwysterau annibynnol newydd, ystyried yr ystod bresennol o gymwysterau Cymraeg ail iaith a chynghori ar sut y gellid eu newid.
Hoffwn ddiolch yn fawr i'r holl gydweithwyr a rhanddeiliaid a gyfrannodd at waith grŵp adolygu Cymraeg Ail Iaith. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r grŵp ac yn enwedig i’r Athro Sioned Davies, cadeirydd y grŵp, am eu cyfraniadau a'u hadroddiad cynhwysfawr sydd wedi bod yn werthfawr iawn ar gyfer datblygu’r maes allweddol hwn.