Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd fy rhagflaenydd bod swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol (AHVLA), Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA) a Chymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain (BCVA) i weld beth yn fwy y gallai milfeddygon ei wneud wrth ddelio ag achosion o TB ar ffermydd eu cleientiaid. Mae hon yn ffordd newydd i ddelio â hen broblem TB neu achos newydd ar fferm, ac mae’n dda deall y bydd y prosiect peilot yn dechrau ar 1 Hydref. Cymorth TB yw’n henw ar y peilot hwn.
Mae llawer o bobl yn cydnabod y gall Milfeddygon Swyddogol fod yn adnodd gwerthfawr a rhoi help ychwanegol i ffermwyr, hynny tra phery’r achos ei hun ac o ran diogelu ffermydd â statws swyddogol ‘Heb TB’ rhag y clefyd.
Bydd y peilot hwn yn rhoi mwy o help i ffermwyr, trwy roi arweiniad a chyngor gwell iddyn nhw i’w helpu i ddeall y clefyd yn well, eu hannog i gydymffurfio a byrhau achosion.
Bydd y peilot yn gynllun gwirfoddol ac yn cael ei gynnal mewn chwe ardal ledled Cymru tan fis Ebrill 2014. Yn y lle cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar achosion newydd yn unig. Os bydd y peilot yn llwyddiannus, fy nisgwyl yw y caiff ei roi ar waith trwy weddill y wlad.
Ei brif amcanion yw lleihau effaith achosion o TB a’u clirio’n gynt.
Chwe ardal y peilot yw:
- Ynys Môn
- Wrecsam
- Dwyrain Sir Gâr
- Bro Gŵyr
- Dwyrain Sir Fynwy
- Gogledd Sir Benfro
Yr AHVLA sy’n gyfrifol am reoli a chynnal system oruchwylio a phrofi TB ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Cymru ac am reoli achosion o TB yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar i holl staff yr AHVLA am eu gwaith ar hyn ac rwy’n credu y bydd eu cefnogaeth dros y 6 mis nesaf yn hanfodol i filfeddygon swyddogol allu darparu’r adnoddau newydd a gwerthfawr hwn yn y frwydr yn erbyn TB i’r AHVLA fel ein partner darparu ac yn bwysicach, i ffermwyr.
Am ragor o wybodaeth am Cymorth TB ewch ar lein.