Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Wedi cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf ynghylch colli swyddi ar safleoedd Tata Steel ledled Cymru, rwy’n ysgrifennu atoch i roi’r newyddion diweddaraf ichi ynghylch cymorth sgiliau i Tata Steel a’r unigolion hynny yr effiethir arnynt.  

Bu Edwina Hart, MBE CStJ AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, yn cadeirio cyfarfod cyntaf Tasglu Tata ar 20 Ionawr.  Mae’r Tasglu yn cynnwys cynrychiolwyr Tata, Undebau Llafur, y Sector Busnes, Addysg, Iechyd, Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith.  

Prif nod y Tasglu yw cytuno ar gamau i’w cymeryd i helpu gweithwyr a busnesau y mae’r cyhoeddiad yn effeithio arnynt, gan gynnwys y gweithwyr hynny yn y gadwyn gyflenwi a’r rhai sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau.  

Mae’r Tasglu wedi sefydlu pedwar llif gwaith; llif gwaith sgiliau, sy’n anelu at helpu gweithlu Tata Steel ac un arall yn canolbwyntio ar fusnes a’r gadwyn gyflenwi ehangach.  Bydd trydydd grŵp yn ystyried y problemau iechyd sy’n gysylltiedig â’r cyhoeddiad, ac yn penderfynu ar gymorth iechyd y rhai yr effiethir arnynt, a bydd y grŵp olaf yn canolbwyntio ar broblemau caffael sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.  

Yn ystod y bore, bu imi gyfarfod â Roger Evans, sy’n cadeirio’r Grŵp Sgiliau i drafod a chytuno ar flaenoriaethau yr unigolion hynny y bydd y cyhoeddiadau diweddar yn debygol o effeithio arnynt.  Bydd y llif gwaith sgiliau yn canolbwyntio ar gymorth i’r unigolion hynny sy’n wynebu diswyddiadau yn Tata Steel, a hefyd unigolion yr effeithir arnynt ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach a’r sector gwasanaethu.  
Byddwn hefyd yn ystyried ail-hyfforddi a gwella sgiliau yr aelodau staff hynny sy’n parhau i gael eu cyflogi gan Tata Steel, er mwyn datblygu mwy ar sgiliau allweddol o fewn y cwmni, sydd eu hangen er mwyn helpu i sicrhau bod y busnes yn gynaliadwy yn yr hirdymor.  

Bydd y llif gwaith sgiliau yn pennu cynllun gweithredu clir ar gyfer ymyrraethau hyfforddi ac adleoli i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi ar fyrder wedi i’r cyfnod ymgynghori sy’n digwydd yn Tata ar hyn o bryd ddod i ben.  

Bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau cyllid ychwanegol o Ewrop, megis Cronfa Addasu Globaleiddio Ewrop, a allai roi cymorth i weithwyr sy’n colli eu swyddi.  

Mae gennym berthynas sydd wedi hen sefydlu gyda Tata Steel yng Nghymru, ac wedi gweithio gyda’r cwmni i helpu i ddatblygu sgiliau eu gweithlu dros sawl blwyddyn.  Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi’r cwmni, a’r diwydiant dur yn ehangach, sy’n hollbwyisg i’n sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru.