Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'n bleser gennyf bwysleisio cymorth parhaus Llywodraeth Cymru i'r sector fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.

Mae fferyllfeydd cymunedol yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella iechyd a llesiant eu cymunedau.

Mae hyn yn cefnogi cynllun hirdymor y Llywodraeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sef 'Cymru Iachach', sy'n amlinellu'r modelau gofal di-dor newydd yr ydym yn eu datblygu. Mae'n adeiladu ar sylfeini cryf y gwaith arloesi sy'n cael ei wneud yn lleol drwy ein rhwydwaith o glystyrau gofal sylfaenol sy'n aeddfedu. Mae gwaith ein fferyllfeydd cymunedol yn hanfodol i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni.

Fel rhan o'r timau amlbroffesiwn sy'n gweithio yn ein cymunedau, mae fferyllwyr cymunedol yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn.

  • Helpu pobl â chyflyrau parhaus i’w rheoli yn well, adolygu eu meddyginiaeth a helpu i wella ansawdd eu bywydau;
  • Rhoi cyngor a phresgripsiynau mewn lleoliadau cyfleus a hygyrch;
  • Cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau clinigol gan gynnwys brechlynnau ffliw, mynediad at atal cenhedlu brys a thriniaeth a chyngor drwy Wasanaeth Mân Anhwylderau cenedlaethol Cymru.

Ein nod yw sicrhau mai'r fferyllfeydd cymunedol yw'r lle cyntaf y bydd llawer o gleifion yn mynd. Mae dros 700 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn rhoi cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer anhwylderau fel peswch, annwyd, pigyn clust, llid pilen y llygad neu lau pen, heb bresgripsiwn a heb orfod gwneud apwyntiad â meddyg teulu.

Mae'r datblygiadau hyn wedi'u cefnogi gan system TG Dewis Fferyllfa Cymru sydd bellach ar gael yn 98% o'r fferyllfeydd ar draws Cymru, gan gefnogi ystod o wasanaethau clinigol sy'n ehangu ac yn sail i drawsnewidiad y sector fferyllfeydd yng Nghymru o'r cyflenwad i'r gwasanaeth.

Ers lansio'r Gwasanaeth Mân Anhwylderau ym mis Medi 2013, mae dros 100,000 o ymgyngoriadau wedi'u cwblhau ac mae dros 80% o’r bobl a ddefnyddiodd y gwasanaeth wedi dweud y byddent wedi ymweld â'u meddyg teulu, y gwasanaeth y tu allan i oriau, neu'r adran ddamweiniau ac achosion brys pe na bai'r gwasanaeth wedi bod ar gael.

Ac yn ogystal â rhyddhau amser meddygon teulu ac ymgyngoriadau'r adran frys, mae'r Gwasanaeth Mân Anhwylderau yn rhoi cyngor a chymorth mwy hygyrch ar amser ac mewn lleoliad sy'n gyfleus i'n cymunedau lleol.

Mae'r system Dewis Fferyllfa a'r Gwasanaeth Mân Anhwylderau yn enghreifftiau o arloesi; arloesi sy'n denu sylw haeddiannol gan wledydd eraill sy'n gobeithio efelychu ein llwyddiant.

Dyma lwyddiant a gafodd sylw ar lefel genedlaethol, ac yn gyfiawn felly, pan enillodd Dewis Fferyllfa wobr Cyngres Fferylliaeth Glinigol 2018 am Ragoriaeth mewn Defnydd Technoleg mewn Fferylliaeth, a phan enillodd y gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf arloesol wobr yn y categori Arloesi a Thechnoleg yng Ngwobrau’r Antibiotic Guardian 2019. Mae hyn yn dangos yn glir bod Cymru ar flaen y gad ym maes arloesi fferylliaeth gymunedol ac yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Fel holl gydrannau Dewis Fferyllfa, mae'r cynllun peilot Profi a Thrin Dolur Gwddf wedi bod yn llwyddiannus iawn. Gan ddechrau mewn 58 o fferyllfeydd ym mis Tachwedd 2018, mae 3655 o ymgyngoriadau bellach wedi'u cofnodi a chafwyd llawer iawn o adborth cadarnhaol gan y rhai sydd wedi cael budd ohonynt.

Bydd y fferyllwyr yn asesu symptomau cleifion gan gynnwys archwilio’r gwddf a chynnig prawf swab syml i’r cleifion y mae eu symptomau yn awgrymu bod ganddynt heintiau bacterol. Mae canlyniadau'r prawf hwn ar gael mewn munudau a bydd yn helpu'r fferyllydd a'r claf i benderfynu ar y driniaeth a'r cyngor gorau i reoli'r symptomau. Os oes haint facterol yn bresennol ac y byddai o fantais i'r claf gael gwrthfiotigau, gall y fferyllydd ddarparu'r rhain, eto heb bresgripsiwn. Ond rwy'n ymwybodol o'r pryderon ynghylch y posibilrwydd o achosi cynnydd amhriodol yn y defnydd o wrthfiotigau; rhan bwysig o'r gwasanaeth felly yw gwella ymwybyddiaeth bod heintiau bacterol yn aml yn gwella heb fod angen gwrthfiotigau; o ganlyniad mae rhai cleifion yn dewis peidio â chymryd gwrthfiotigau er bod y swab yn dangos canlyniad positif, gan wybod y gallant ddychwelyd i'r fferyllfa heb apwyntiad os bydd eu symptomau yn parhau.

Yn bwysicaf oll, mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod cleifion yn cymryd gwrthfiotigau dim ond pan mae eu hangen. Mae ymchwil flaenorol yn awgrymu bod gwrthfiotigau yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn mewn dros 60% o ymgyngoriadau meddygon teulu am ddolur gwddf acíwt. Dangosodd gwerthusiad cychwynnol y gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf bod gwrthfiotigau wedi'u rhoi dim ond yn 21% o'r ymgyngoriadau. Gwelwyd lleihad bychan mewn rhagnodi gwrthfiotigau yn yr ardaloedd peilot o'u cymharu â'r ardaloedd lle nad oedd y gwasanaeth ar gael. Mae'r gwerthusiad cychwynnol yn rhoi hyder inni na fu cynnydd mewn defnydd o wrthfiotigau o ganlyniad i’r rhai a roddwyd gan fferyllwyr hyfforddedig, ac y gellir cysylltu’r gwasanaeth â lleihad bychan yn eu defnydd mewn gwirionedd. Wrth ddathlu hyn, mae angen inni fod yn wyliadwrus gan y bydd angen gwneud gwaith pellach i gadarnhau'r canfyddiadau cynnar hyn. Bydd hyn yn rhan o'r gwerthusiad parhaus wrth i'r gwasanaeth ehangu yn awr.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, y nod yw y bydd y gwasanaeth Profi a Thrin yn cael ei gomisiynu ym mhob ardal, a'i ddarparu mewn modd cyson. Bydd Byrddau Iechyd ar draws Cymru yn dechrau gweithredu'r gwasanaeth drwy ei gomisiynu i helpu gyda phwysau dros y gaeaf. Mae pob un o'r Byrddau Iechyd wedi awgrymu eu bod yn bwriadu ei gomisiynu mewn o leiaf 50% o safleoedd, gan ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr eleni. Y fferyllfeydd a fydd yn rhan o gam nesaf y cynllun peilot fydd y rhai hynny sydd wedi croesawu ein gwaith o drawsnewid y sector fferyllfeydd cymunedol o'r pwynt cyflenwi i'r pwynt gwasanaeth, a'r rhai yr ydym yn hyderus bod y capasiti a'r cymhwysedd ganddynt i gynnal y safonau eithriadol a welwyd yn ystod y cynllun peilot cychwynnol.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd i gynnig sesiynau hyfforddi sgiliau clinigol i'r holl fferyllwyr a nodwyd gan fyrddau iechyd fel rhai a fydd yn gweithredu'r gwasanaeth. Mae pob bwrdd iechyd wedi cael hyd at 40 o lefydd. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu darparu yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd a'r bwriad yw y bydd fferyllfeydd yn cael eu comisiynu yn ystod y cyfnod hwn. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru hefyd wrthi'n datblygu cynllun ar gyfer hyfforddiant pellach yn 2020 i ehangu darpariaeth y gwasanaeth a sicrhau cynaliadwyedd y gweithlu.

Wrth weithredu gwasanaeth cenedlaethol sy'n gofyn am sgiliau a gwybodaeth glinigol ychwanegol mae angen cydlynu a gweithredu mewn modd sy'n sicrhau bod fferyllwyr yn cael hyfforddiant priodol ac yn arddangos cymhwysedd i ddarparu'r gwasanaeth i safon gyson uchel. Mae GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r gwasanaeth hwn ar waith mor gyflym â phosibl gan sicrhau ei fod yn gadarn, yn gynaliadwy ac yn cyflawni'r canlyniadau sydd fwyaf gwerthfawr inni: gwell mynediad a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau. Nododd gwerthusiad y cynllun peilot bwysigrwydd yr hyfforddiant a ddarparwyd wrth sicrhau darpariaeth gwasanaeth diogel ac effeithiol a'r model hyfforddiant mwyaf priodol. O ganlyniad, mae'r rhaglen hyfforddiant gyfredol wedi'i hysbysu gan brofiadau fferyllwyr sydd eisoes yn darparu'r gwasanaeth.

I sicrhau llwyddiant y gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf, mae'r fferyllfeydd hynny sydd wedi arddangos eu bod yn gallu darparu'r Gwasanaeth Mân Anhwylderau yn gyson wedi'u blaenoriaethu ar gyfer cam 1; y rheswm dros hyn yw sicrhau y gall cleifion gael mynediad i'r gwasanaeth yn rheolaidd pan fyddant ei angen. Mae pob bwrdd iechyd wedi ymrwymo i gomisiynu'r Gwasanaeth Profi a Thrin ac yn cydnabod ei bwysigrwydd wrth gefnogi mynediad i wasanaethau'r GIG ym maes gofal sylfaenol.

Bydd byrddau iechyd yn parhau i weithio gyda'r fferyllfeydd hynny lle mae darpariaeth y Gwasanaeth Mân Anhwylderau yn llai cyson ar hyn o bryd er mwyn deall yr heriau i ddarparu’r gwasanaeth, a gweithio gyda chontractwyr a Fferylliaeth Gymunedol Cymru fel y gall fferyllfeydd sy'n dymuno cynnig y Gwasanaeth Mân Anhwylderau a'r Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf gael eu comisiynu i wneud hynny. Mae'n flaenoriaeth i GIG Cymru sicrhau, pan fo gwasanaethau fferyllol yn cael eu comisiynu eu bod ar gael yn gyson, yn enwedig wrth inni geisio annog fferylliaeth gymunedol i gynnig rhagor o wasanaethau fel Profi a Thrin Dolur Gwddf i alluogi cleifion i gael gofal GIG priodol ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Er bod canlyniadau gwerthusiad y cynllun peilot yn addawol iawn, mae'n bwysig ein bod yn rheoli darpariaeth ehangach y gwasanaeth hwn yn dda. Oherwydd nad yw'r tymor dolur gwddf wedi cyrraedd eto, nid yw'r gwasanaeth wedi cael ei brofi dan bwysau mawr. Bydd y gwaith o ddadansoddi'r data yn parhau am o leiaf flwyddyn arall i weld sut y gall amrywiadau tymhorol effeithio ar y gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys archwilio a yw'r gwasanaeth yn gysylltiedig â lleihau cyfraddau ymgyngoriadau dolur gwddf a’r defnydd o wrthfiotigau ym maes gofal sylfaenol.