Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan lansiais gynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru ddechrau 2019, gwnaethom ymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i ofalu nad yw pobl sy’n ceisio noddfa yn ddiymgeledd ac i leihau effeithiau eu tlodi. Fel rhan o’r uchelgais hwnnw, roeddem am ystyried yr opsiynau i gefnogi’r rheini y gwrthodwyd lloches iddynt ond na roddir statws ffoaduriaid iddynt ac na allant ddychwelyd i’w gwlad eu hunain.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi casgliadau astudiaeth ddichonoldeb a gomisiynwyd gennym i edrych ar yr hyn y gellid ei wneud drwy ein pwerau datganoledig i sicrhau opsiynau cynaliadwy ar gyfer yr unigolion hyn. Gallai’r opsiynau hyn gynnwys creu achos lloches iddynt ar sail cyngor cyfreithiol a sicrhau statws ffoaduriaid, cyflwyno apêl newydd sy’n eu galluogi i fynd drwy’r system loches unwaith eto, neu eu cefnogi wrth iddynt ddychwelyd i’w gwlad eu hunain.

Awduron yr astudiaeth ddichonoldeb yw Heather Petch – arbenigwraig yn y cymorth sydd ar gael i’r rheini y gwrthodir lloches iddynt – a Tamsin Stirling – arbenigwraig yn sector tai Cymru. Gyda’i gilydd, maent wedi cynnig naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid eu gweithredu, gyda’r nod o gynyddu trefniadau anffurfiol i ofalu am yr unigolion hyn, ynghyd â chyngor cyfreithiol a threfniadau priodol i’w diogelu. Mae argymhellion pellach yn ymwneud â hyrwyddo’r cysyniad o Genedl Noddfa ar draws y sectorau tai a digartrefedd, datblygu trefniadau o ran opsiynau llety argyfwng, a cheisio dylanwadu ar bolisi Swyddfa Gartref y DU i warchod unigolion rhag y sefyllfaoedd mwyaf niweidiol. Rydym yn bwriadu gweithredu pob un o’r argymhellion hyn, er mwyn symud ymlaen tuag at ein nod o fod yn Genedl Noddfa.

Rydym yn cydnabod ers tro nad oes cyngor cyfreithiol o ansawdd da ar gael i lawer o geiswyr lloches. Yn aml, dyma’r rheswm pam y mae llawer o geisiadau am loches yn cael eu gwrthod yn y lle cyntaf, a gall danseilio gallu’r unigolion hynny i apelio’n llwyddiannus er gwaethaf y sail ddilys sydd i’w cais. Rydym wedi cyllido Asylum Justice ers 2017, fel rhan o Raglen Hawliau Lloches, i ddarparu cyngor cyfreithiol i’r rheini nad oes Cymorth Cyfreithiol ar gael iddynt, gan gynnwys llawer y gwrthodwyd lloches iddynt. Fodd bynnag, y llynedd rhoesom £25000 yn ychwanegol i Asylum Justice, ynghyd â £50000 yn 2020/21 er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau sylweddol o ran cyngor cyfreithiol. Efallai y bydd y cyngor a roddir yn cefnogi cais newydd am loches, yn helpu i sefydlu tystiolaeth feddygol neu’n hwyluso mynediad at ddogfennau angenrheidiol. Mae sawl cyfreithiwr Cymorth Cyfreithiol yng Nghymru wedi cau dros y misoedd diwethaf, ac mae hynny wedi ei gwneud yn anoddach byth i fewnfudwyr gael gafael ar gyngor cyfreithiol amserol o ansawdd. Rydym am fynd ati’n fuan i gomisiynu gwaith ymchwil pellach i edrych ar y bylchau o ran cyngor cyfreithiol i fewnfudwyr ledled Cymru.

Bydd cynyddu’r capasiti i ddarparu llety diogel dros dro a chyngor cyfreithiol i’r rheini y gwrthodwyd lloches iddynt ac nad oes cymorth digartrefedd ar gael iddynt na thaliadau nawdd cymdeithasol yn beth buddiol i Gymru. Trefniant dros dro yn unig ddylai hwn fod i unigolyn gael ystyried ei opsiynau a phenderfynu sut i symud ymlaen, a hynny â tho uwch ei ben a chyngor cyfreithiol amserol ar gael iddo, yn hytrach na’i fod yn ddigartref ac mewn perygl o gael ei ecsbloetio.

Ers i’r astudiaeth ddichonoldeb gael ei chomisiynu, tynnwyd sylw ymhellach at sefyllfa’r rheini nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus – gan gynnwys y rheini y gwrthodir lloches iddynt – yn ystod pandemig Covid-19. Yn ystod y pandemig, rydym wedi annog awdurdodau lleol i ddarparu llety i unrhyw un sydd ei angen, beth bynnag ei statws mewnfudo. Nid cwestiwn moesol yw hwn yn unig – mae’n gwneud synnwyr o ran iechyd cyhoeddus. Wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio’n raddol, bydd yr angen i ddarparu’r math hwn o gymorth yn parhau gan na fydd modd i unigolion digartref hunanynysu heb lety. Serch hynny, mae Rheolau Mewnfudo Llywodraeth y DU yn golygu na ellir cynnig y math hwn o lety yn y tymor hir.

Bydd mabwysiadu argymhellion yr astudiaeth ddichonoldeb yn sicrhau elfen allweddol mewn unrhyw strategaeth i gefnogi’r rheini nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus ac a roddwyd mewn llety argyfwng wrth edrych i’r dyfodol. Gan nad yw safbwynt Llywodraeth y DU wedi newid, ni fydd llety parhaol ar gael i’r unigolion hyn nes y bydd eu statws mewnfudo wedi’i ddiogelu. Mae angen cynllun penodol, felly, i gefnogi’r unigolion hyn y tu hwnt i’r pandemig, ac mae argymhellion yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnig rhan o gynllun o’r fath.

Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn awgrymu y dylem ddatblygu trefniadau o ran opsiynau llety argyfwng a llwybrau cyfeirio i warchod unigolion. Cyn hir byddwn yn comisiynu canllawiau i wella dealltwriaeth awdurdodau lleol o ran y gwasanaethau a’r cymorth y gellir ei gynnig i’r rheini nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus. Byddwn hefyd yn trefnu hyfforddiant ar hawliau mudwyr fel rhan o Brosiect Hawliau Dinasyddion yr UE. Bydd hyn yn sicrhau bod swyddogion y rheng flaen yn deall sut i gefnogi’r rheini sydd mewn amgylchiadau cymhleth, p’un a ydynt heb hawl i gyllid cyhoeddus, neu â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog, neu â mathau eraill o statws mewnfudo.

Mae’r dull gweithredu hwn yn cydnabod ein dynoliaeth gyffredin, a’r nod yw rhoi urddas i’r rheini y gwrthodwyd lloches iddynt a’u gwarchod rhag cael eu hecsbloetio. Ni fydd gan rai obaith realistig o gael statws ffoaduriaid, a byddwn yn rhoi cyngor i’r rheini ynghylch sut i ddychwelyd yn ddiogel i’w cartref. Yn achos eraill, cânt y cyngor sydd ei angen arnynt i gasglu tystiolaeth o’r erledigaeth y maent wedi dianc oddi wrthi. Y naill ffordd neu’r llall, bydd gweithredu’r argymhellion hyn yn rhoi rhywfaint o bŵer i unigolion dros eu bywydau eu hunain, ac yn sicrhau ein bod yn cydnabod yr unigolyn cyn ei statws mewnfudo wrth ymateb i’w anghenion.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny

Astudiaeth ddichonoldeb: https://llyw.cymru/astudiaeth-ddichonoldeb-llety-ar-gyfer-ceiswyr-lloches-wedi-eu-gwrthod