Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod pwysigrwydd hanfodol yr ucheldir. Mae ucheldir Cymru'n cynnwys tua 58% o dir Cymru, ac mae'n ased gwerthfawr iawn sy'n dod â manteision i nifer o bobl yng Nghymru a thu hwnt.
Er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus, mae'n hanfodol dilyn dull gweithredu holistaidd wrth ddatblygu cymorth i'r ucheldir. Dyna wnaeth Fforwm yr Ucheldir wrth ddatblygu'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer adroddiad 'Datgloi Potensial yr Ucheldir' a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2012. Roedd yr adroddiad yn ystyried yr holl gyfleoedd sydd ar gael - masnachol, cymdeithasol ac amgylcheddol - ac fe gafodd y dull gweithredu hwn ei gymeradwyo gan y Grŵp Cynghori ar y Rhaglen Datblygu Gwledig a oedd yn argymell dull gweithredu integredig i'r ucheldir wrth lunio’r Rhaglen Datblygu Gwledig newydd.
Rhaid i fusnesau a chymunedau yn ein hucheldir gael eu cynnwys wrth gwrs, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid pwysig wrth lunio elfennau cyflawni'r Rhaglen Datblygu Gwledig. Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr a chymunedau ehangach yr ucheldir i ddatblygu a meithrin menter ac arloesi.
Bydd y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 newydd yn arloesol o ran arddull. Bydd y cymorth yn canolbwyntio ar bedwar maes pwysig o fuddsoddiad: Cyfalaf Dynol a Chymdeithasol, Adnoddau Ffisegol, Mesurau Seiliedig ar Ardal a LEADER/Datblygu Lleol. Bydd modd i ffermydd a busnesau a chymunedau eraill yn yr ucheldir gyrraedd at gymorth dan bob un o'r meysydd hyn er mwyn eu helpu i gryfhau a bod yn fwy cystadleuol.
Roedd cyflwyno'r ffin PAC newydd ar gyfer Rhostir yn destun pryder i rai, yn arbennig ar gyfer ffermydd â chryn dipyn o dir yn rhanbarth y rhostir.
Fodd bynnag, gan wrando ar bryderon ffermwyr y rhostir, rwyf wedi sicrhau bod trefn apelio deg a thryloyw yn ei lle ar gyfer y rhai sydd am herio dosbarthiad eu tir, ac rwyf wedi gofyn i Cyswllt Ffermio osod trefniadau cymorth busnes penodol wedi'i ariannu'n llawn i helpu busnesau unigol asesu effaith y newid a rhoi cyfle i ystyried opsiynau ar gyfer ffrydiau incwm amgen.
Ein nod wrth lunio’r trefniadau AC newydd i Gymru oedd lleihau cymaint â phosib ar gymhlethdod diangen wrth symud i daliadau ar sail ardal, gan ddilyn amserlen resymol i gyflawni’r trawsnewid hwnnw dros y pum mlynedd nesaf. Mae cael rhanbarth rhostir yn lleddfu ergyd y newid mewn taliadau i ffermwyr ar draws Cymru gyfan. Bydd symud at daliadau ar sail ardal fodd bynnag yn fanteisiol i nifer o ffermydd yr ucheldir.
Rwyf wedi ystyried galwadau am gyflwyno cynllun Ardal â Chyfyngiadau Naturiol (AChN) dan y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf. Fodd bynnag, yn sgil y cyfyngiadau dan Reoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd, nid oedd modd targedu cynllun o'r fath i helpu'r rhai a effeithiwyd fwyaf, ac o dan gynllun AChN heb ei dargedu fe fyddai rhai o'r anghydraddoldebau y mae'n diwygiadau Colofn 1 yn ceisio rhoi sylw iddynt yn parhau neu hyd yn oed yn cynyddu. Felly mae fy swyddogion yn gweithio i ddatblygu Rhaglen Datblygu Gwledig gynhwysfawr a fydd yn caniatáu cymorth priodol i'r ffermwyr sy'n cael eu heffeithio fwyaf ac yn cyflawni nodau polisi ehangach Llywodraeth Cymru - darparu gwerth am arian a manteision ehangach i bobl Cymru.
Bydd Glastir yn parhau i fod yn rhaglen bwysig ar gyfer yr amgylchedd a ffyniant a chadernid amaethyddiaeth a choedwigaeth yn y dyfodol.
Yng ngoleuni'r manteision economaidd sylweddol sy'n bosibl wrth reoli rhostir, bydd yn flaenoriaeth rhoi cynllun Glastir Uwch ar waith o fewn yr ardal rhostir dan y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf. Yn ein rhostir mae'r rhan fwyaf o'n tir mawnog, ac fe fydd contract Glastir Uwch yn cael ei gynnig i ymgeiswyr o'r ffermydd a'r tiroedd comin hynny sydd â'r rhan fwyaf o'u tiroedd yn yr ardal hon erbyn diwedd 2015. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd ffermio yn yr ardaloedd hyn, ac ymysg y mesurau pellach sy'n cael eu cynnig ar gyfer ardaloedd rhostir yn y cynllun Glastir diwygiedig bydd pori mewn ffordd gynaliadwy, rheoli rhedyn a bugeilio. Rwy'n annog ffermwyr i gymryd rhan a manteisio ar y cyfleoedd sy'n codi.
Mae Llywodraeth Cymru'n derbyn bod angen agwedd hyblyg, ac yn y tymor canolig bydd elfennau Grantiau Bach a Rhwydwaith Cynefinoedd Glastir yn cynnig cyfle i ffermydd yr ucheldir wneud gwaith amgylcheddol ar ran yn unig o'r fferm, os mai dyma'r dull sydd orau ar gyfer y fenter ffermio unigol.
Mae'n amlwg bod angen cyflawni amrywiol amcanion yn yr ucheldir er lles Cymru. Mae'r hinsawdd ac economïau'r byd yn newid - ac mae'n rhaid i ni addasu. Mae'r gwaith ymchwil ac addysg barhaus yn ein prifysgolion a cholegau yn hanfodol ar gyfer hyn. Felly rwy'n gwbl gefnogol i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Fferm Pwllpeiran ar les i Brifysgol Aberystwyth, ac yn croesawu'r cysylltiadau gyda'r fenter 'Dyfodol Ffermio'. Rwy'n gobeithio gweld Pwllpeiran yn ailsefydlu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac yn meithrin cysylltiadau eto gyda'r diwydiant ffermio ar lawr gwlad er mwyn darganfod a rhannu gwaith ymchwil newydd ac arloesi drwy gyfnewid gwybodaeth. Bydd ffermydd arddangos fel hyn yn elfen ganolog o'r gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth yn y dyfodol i gefnogi ffermwyr yr ucheldir i ddiwallu gofynion defnyddwyr a sicrhau ffyniant y busnes fferm.
Elfen bwysig iawn arall ar gyfer darparu cadernid o fewn ffermydd yr ucheldir a'r diwydiant ffermio ehangach yw gwaed newydd sy'n dod â syniadau newydd. Byddaf yn rhoi blaenoriaeth i gymorth ar gyfer gwella symudedd yn y sector amaethyddiaeth yn gyffredinol, ac mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag undebau ffermio yn arbennig i ddarparu cymorth ychwanegol i hwyluso ac annog newydd-ddyfodiaid i ffermio yn yr ucheldir.
Mae buddsoddiad yn ffactor bwysig arall wrth helpu busnesau ffermio i oroesi a ffynnu, ac o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf yn y diwydiannau amaethyddiaeth a choedwigaeth. Bydd hyn yn rhoi blaenoriaeth yn y lle cyntaf i brosiectau yn ardaloedd yr ucheldir. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan fusnesau ffermio sy'n dangos ymrwymiad i adolygu eu proffidioldeb a'u cynaliadwyedd fel archwilio'u hasedau naturiol a'r cyfleoedd y gallant eu cynnig.
Mae'n bwysig i ni ystyried yr elfen ddynol yn unrhyw gymorth yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Grwpiau Gweithredu Lleol i sicrhau bod y model LEADER a'r Strategaethau Datblygu Lleol yn rhoi digon o ystyriaeth i faterion penodol yr ucheldir, fel ardaloedd â phoblogaeth isel, mynediad cyfyngedig at wasanaethau cyhoeddus a phwysigrwydd y Gymraeg. Yr heriau a'r cyfleoedd amrywiol lleol yn yr ucheldir sy'n gwneud dull gweithredu LEADER mor bwysig.
Wrth gwrs, er mwyn i unrhyw raglen fod yn llwyddiannus, rhaid iddi ganolbwyntio ar ganlyniadau a chael ei monitro a'i gwerthuso'n gywir. Rwyf wedi gosod mesurau i sicrhau bod effaith gweithgarwch Llywodraeth Cymru yn yr ucheldir yn cael ei asesu'n gywir ac er mwyn galluogi rhaglenni i gael eu haddasu mewn pryd mewn ffordd effeithiol os oes angen.
Yn ddiweddar daeth Fforwm yr Ucheldir i ddiwedd ei drydydd tymor, ac mae'n amlwg bod y Llywodraeth a rhanddeiliaid pwysig yn gweld y Fforwm fel corff arbennig o lwyddiannus a ddylai barhau i ddarparu cymorth ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar bob mater mewn perthynas â'r ucheldir. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Fforwm wrth i ni symud ymlaen gyda'n gilydd â'r agenda hwn.
Mae Cymru mewn trafodaethau gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd ynghylch y Rhaglen Datblygu Gwledig mwyaf erioed mewn termau ariannol. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn rhoi cyfle i ni greu newid cadarnhaol yn y diwydiannau ffermio a choedwigaeth, gan ein helpu i ddatblygu ein hasedau naturiol, creu cyfleoedd i bobl ifanc ac adeiladu busnesau a chymunedau cadarn drwy fenter ac arloesi.