Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllid pellach o hyd at £264m ar gyfer awdurdodau lleol i’w cefnogi gyda’r costau ychwanegol a’r incwm a gollir yn sgil pandemig COVID-19 dros weddill y flwyddyn ariannol.

Mae’r pecyn diweddaraf hwn yn dod â chyfanswm y cymorth ar gael i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru at ddibenion COVID-19 i fwy na £490m. Caiff y cyllid hwn ei weinyddu drwy Gronfa Cymorth Ariannol Brys Llywodraeth Leol er mwyn cefnogi amrywiad o gwasanaethau yn cynnwys gofal cymdeithasol, addysg ac hamdden. Mae’r pecyn yn cynnwys £25m i lanhau ysgolion yn fwy trylwyr hyd ddiwedd Mawrth 2021, er mwyn gwneud ein hysgolion yn llefydd mor ddiogel â phosibl i’n pobl ifanc, ein hathrawon a’n staff eraill. Rhoddir £3.6m ychwanegol i golegau addysgu bellach hefyd ar gyfer glanhau mwy trylwyr er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a staff yn gallu gweithio mewn amgylchedd diogel yn ystod y pandemig.

Mae ein hawdurdodau lleol wedi gwneud gwaith gwych wrth ymateb i heriau COVID-19, a hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch iddynt am eu gwaith diflino i cadw gwasanaethau yn rhedeg tra’n cefnogi pobol a busnesau lleol.

Rwy’n gwneud y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach ar ôl y toriad os byddai o gymorth i’r aelodau.