Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae cynhyrchu bwyd yn rhan annatod o fywyd Cymru ac o wead ei heconomi.  Yn 2011, gwerth y sector defaid oedd £270 miliwn, sef 20 y cant o gynnyrch gros amaethyddiaeth Cymru.  Ond wrth gwrs, i Gymru, mae’n golygu tipyn mwy na hynny.  Nid oes modd prisio yn wir ei rôl fel cynhaliwr cymunedau cefn gwlad a’r ucheldir a’u rhan yng ngwead cymdeithasol a diwylliannol ein gwlad.  Mae’r pris y mae cynhyrchwyr ŵyn Cymru’n ei gael yn is nawr nag yr oedd yr amser hwn llynedd. Mae wedi disgyn bron iawn i’r hyn oedd yn 2011. Er hynny, mae’n werth nodi ers 2008 bod prisiau ŵyn wedi bod yn codi’n gyson.  Ond cafwyd anwadalwch anarferol yn y farchnad ŵyn, lawer mwy na’r amrywiadau tymhorol y gellid eu disgwyl fel arfer.

Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y prisiau isel.  Yn eu plith y mae’r cyflenwad ŵyn oherwydd tywydd gwlyb yr haf a’r hydref;  mewnforion ŵyn sy’n dipyn rhatach nag ŵyn cartref; costau mewnbynnau uwch a gostyngiad yn nhaliadau’r SPS oherwydd cyfradd gyfnewid yr ewro a’r bunt. Hefyd, roedd yr amodau adeg y tymor wyna llynedd yn arbennig o anodd, ac o’r herwydd cafodd llai o ŵyn eu cymryd i’r farchnad yn yr haf ac roedd gormodedd o ŵyn ar ôl yn yr hydref. Canlyniad arall y tywydd drwg yw bod cynhyrchwyr ŵyn wedi gorfod dibynnu’n fwy nag arfer ar ddwysfwyd a phorthiant ategol sydd hefyd wedi codi’n fawr yn eu pris yn y 12 mis diwethaf – cymaint ag 20 i 25 y cant mewn ambell achos.

Bydd pris bwyd anifeiliaid yn debygol o godi eto oherwydd y cynhaeaf drwg ac am fod llai o dir wedi’i blannu ym Mhrydain.  Bydd yr holl ffactorau hyn yn sarnu gallu ffermwyr i wneud elw ac i ffynnu.  Yn ogystal, mae ffigurau Prydeinig yn dangos bod tuedd yn erbyn cig dafad ac oen oherwydd y cynnydd yn eu pris, gyda rhyw 18% yn llai yn cael ei brynu fesul person rhwng 2008 a 2011 – mwy o ostyngiad nag a welwyd yn achos cigoedd eraill.

Wrth ystyried prisiau heddiw, ni ddylem anghofio’r cynnydd a fu ym mhrisiau ŵyn ac incwm ffermydd dros gyfran dda o’r degawd diwethaf pan welodd cynhyrchwyr ŵyn Cymru gynnydd sylweddol yn eu hincwm ac ym mhrisiau ŵyn flwyddyn ar ôl blwyddyn.  Roedd prisiau ŵyn yn nechrau 2012 yn ardderchog, ychydig yn uwch nag oeddynt y flwyddyn cynt.  Ond dirywiodd pethau’n fawr wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen ac yn 2012 yn gyfan, roedd y pris 7 y cant yn is ar gyfartaledd nag yn 2011.  Erbyn dechrau Ionawr 2013, roedd pris ŵyn ar gyfartaledd ryw 30 y cant yn is a’r hyn ydoedd yn 2011-2012.

Rwy’n deall rhwystredigaeth cynhyrchwyr ŵyn Cymru â’r sefyllfa. Mae llawer o’r ffactorau, fel y tywydd a’r raddfa gyfnewid, yn amlwg allan o reolaeth Llywodraeth Cymru ac yn ffactorau y mae pob rhan o’r economi wedi gorfod dygymod â nhw.  

Mater i’r diwydiant defaid ei hun yn y pen draw yw sicrhau ei fod yn cynhyrchu’r hyn y mae’r farchnad yn galw amdano.  Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi mwy o help i gynhyrchwyr ŵyn iddynt allu bod mor effeithiol a phroffidiol ag y mae pawb yn ei gredu y dylent fod.

Rwyf wedi gofyn i Cyswllt Ffermio ddatblygu mwy o wasanaethau sydd wedi’u teilwra’n arbennig er budd cynhyrchwyr ŵyn.  Mae gan Cyswllt Ffermio amrywiaeth o wasanaethau all helpu i ateb anghenion cynhyrchwyr defaid heddiw ac rwy’n awyddus ein bod yn gweithio gyda busnesau unigol i’w gwneud yn fwy effeithlon trwy gynlluniau busnes effeithiol.  Rwy’n annog cynhyrchwyr defaid i fynd am y cymorth sydd gan Cyswllt Ffermio i’w gynnig (llawer ohono wedi’i dalu amdano).

Rwy’n annog cynhyrchwyr ŵyn hefyd i ymuno â’r nifer cynyddol o ffermwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn clybiau busnes i rannu’r wybodaeth dechnegol ddiweddaraf gan arbenigwyr yn y diwydiant.  Maent yn gyfle i gynhyrchwyr ŵyn ystyried perfformiad eu busnes, i glywed cyngor ac i bwyso a mesur eu busnes er mwyn iddynt allu dewis dangosyddion perfformiad i gynyddu elw eu diadellau.  Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol i helpu ffermwyr i ostwng costau mewnbynnau a chreu busnesau modern, llewyrchus a phroffidiol.  Rwy’n annog cynhyrchwyr ŵyn sydd â diddordeb yn y gwasanaeth i ffonio Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Mae Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales (HCC) – yn cefnogi sector ŵyn Cymru trwy weithgareddau sy’n datblygu ac yn hyrwyddo’r diwydiant, a thrwy rannu gwybodaeth am y farchnad.  Rhoddir cyngor a hyfforddiant ar sut i reoli busnes fel y gall y sector fod yn fwy cost-effeithiol a gwella ansawdd cynnyrch cig defaid ac ychwanegu at ei werth.  Rhoddir help hefyd i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd ŵyn Cymru mewn marchnadoedd tramor a domestig trwy gynyddu’r galw am ŵyn o Gymru.

Rwy’n sylweddoli bod cynyddu a sefydlogi prisiau ŵyn er mwyn ehangu’r farchnad allforio yn fater pwysig ac rwy’n awyddus i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo cig oen o Gymru a chreu cyfleoedd mewn marchnadoedd newydd.  Cafodd y Prif Weinidog gwrdd â Tsieiniaid blaenllaw yn ddiweddar a oedd yn gwerthfawrogi ansawdd a gwerth cig oen o Gymru ac yn amlwg yn awyddus iawn i fewnforio ein cynnyrch rhagorol.  Rhaid gweithredu ar hyn er mwyn i’n cynhyrchwyr ŵyn allu gwneud y gorau o botensial y farchnad newydd hon.  Mae HCC yn amcangyfrif y gall ddod ag o leiaf £10m y flwyddyn i economi Cymru.  Nid yw polisïau allforio o reidrwydd yn golygu archebion newydd na mwy o archebion, ond mae’r farchnad hon yn gam i’r cyfeiriad cywir.

Rwy’n gefnogol ac yn werthfawrogol iawn i HCC am helpu adwerthwyr ledled y byd i gael cyflenwadau o gig oen – ac eidion – o Gymru ac rwyf i fy hun wedi cymryd rhan mewn trafodaethau’n ddiweddar ag adwerthwyr i’w hannog i werthu cig oen ac eidion o Gymru.  Ymunais â theithiau masnach diweddar HCC i’r Eidal a Ffrainc i sicrhau bod ansawdd a phroffil cig oen o Gymru yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi.  Er bod prisiau ŵyn yn isel, rwy’n sylwi bod prisiau cig oen yn archfarchnadoedd Prydain yn para’n sefydlog.  Er hynny, cyhoeddodd un archfarchnad fawr yn ddiweddar y byddai’n talu 60c yn fwy na’r pris cyfartalog i’w gyflenwyr. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwnnw’n fawr.  Byddaf yn edrych yn fanwl ar y rhan y mae archfarchnadoedd yn ei chwarae i helpu i ddatrys y sefyllfa hon.

Yn olaf, byddaf yn gwneud datganiad am ddyfodol taliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru.  Byddaf yn dal i gefnogi lefelau gwariant presennol y PAC.  Dyma’r sylfaen y saif pob rhan o amaethyddiaeth Cymru arni.  Rwy’n dal i boeni bod llywodraeth y glymblaid am wneud toriadau sylweddol i’r PAC fydd yn golygu diwedd llawer o ffermydd defaid Cymru.  Mae’r gymuned ffermwyr yn cydnabod y gwnaiff Llywodraeth Cymru ddadlau o blaid Cymru a buddiannau ffermwyr Cymru a’n cymunedau cefn gwlad.  Mae ffermwyr yng Nghymru yn cael rhyw £239m o daliadau uniongyrchol trwy’r PAC bob blwyddyn ac mae £110m yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn yng nghefn gwlad Cymru trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig.  Mae hyn yn arian hanfodol a fydd yn helpu i gynnal economi ehangach cefn gwlad yn ogystal â busnesau fferm unigol.

Mae cynhyrchu bwyd yn rhan hynod bwysig o economi Cymru ac mae Cymru’n cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch o’r radd flaenaf.  Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i’w hyrwyddo, i wneud y marchnadoedd yn fwy ymwybodol ohonyn nhw ac i’w helpu i fanteisio ar bob cyfle i sicrhau bod eu busnesau’n ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.